Mae ardaloedd cadwraeth yn rhan hynod o amgylchedd hanesyddol Cyngor Bwrdeistref Wrecsam. Rydym ni (yr awdurdod cynllunio lleol) yn dynodi’r ardaloedd hyn oherwydd eu pensaernïaeth neu ddiddordeb hanesyddol arbennig.
Mae diddordeb arbennig ardal gadwraeth yn cael ei fynegi gan gyfuniad o nodweddion. Mae enghreifftiau o’r nodweddion hyn yn cynnwys:
- patrwm anheddiad
- y ffordd mae’r lle a’r plotiau adeiladu wedi’u trefnu
- rhwydwaith o lwybrau/ffyrdd
- math o adeiladau a’u harddull, gan gynnwys eu defnyddiau /manylion
Mae seilwaith gwyrdd yn bwysig hefyd a gall parciau, gerddi, gwrychoedd, coed a nodweddion dŵr oll gyfrannu at gymeriad ardal gadwraeth.
Ardaloedd cadwraeth dynodedig ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam
Ar hyn o bryd mae 23 o ardaloedd cadwraeth dynodedig yn y Fwrdeistref Sirol. Mae map o bob ardal ar gael, ynghyd ag Asesiad o Gymeriad a Chynlluniau Rheoli.
Bangor Is-coed
Mae Bangor Is-coed tua 5.5 milltir i’r de-ddwyrain o Wrecsam ac mae gerllaw ffordd yr A525 rhwng Wrecsam a Ffordd Whitchurch.
Mae’r ardal gadwraeth yn cynnwys canol y pentref sydd mewn pant naturiol wrth ymyl afon Dyfrdwy. Mae golygfeydd gwych i’r pellter i gyfeiriad y gorllewin at Fynyddoedd y Berwyn ac i’r dwyrain i gyfeiriad Bryniau Bickerton.
Cafodd Ardal Gadwraeth Bangor Is-coed ei dynodi am y tro cyntaf ym mis Mawrth 1971 ond newidiwyd y ffin a’i lleihau ym mis Tachwedd 1999. Mabwysiadwyd Asesiad o Gymeriad a Chynllun Rheoli Ardal Gadwraeth Bangor Is-coed ym mis Gorffennaf 2010. Daeth cyfarwyddyd erthygl 4(2) Ardal Gadwraeth Bangor Is-coed i rym ar 3 Medi 2010.
Bersham
Mae Ardal Gadwraeth Bersham tua 2.5 milltir i’r de-orllewin o ganol tref Wrecsam ac i’r gogledd o anheddiad diwydiannol Rhostyllen.
Mae’r ardal gadwraeth mewn rhan goediog o rannau uchaf Dyffryn Clywedog sy’n rhedeg o Mwynglawdd i Wrecsam. Mae dylanwad y gwaith haearn ac Ystad Plas Power gerllaw yn amlwg yn natblygiad y pentref, yr arddulliau pensaernïol a’r nodweddion sy’n rhoi ei gymeriad unigryw i Bersham.
Cafodd Ardal Gadwraeth Bersham ei dynodi am y tro cyntaf ym mis Awst 1975 a newidiwyd ac ehangwyd ei ffiniau yn 2003. Mabwysiadwyd Asesiad o Gymeriad a Chynlluniau Rheoli Ardal Gadwraeth Bersham ym mis Rhagfyr 2009.
Cefn Mawr
Mae Cefn Mawr ger ffin dde-orllewinol Wrecsam a Sir Ddinbych, rhwng Rhiwabon a Llangollen, tua 7 milltir o Wrecsam. Mae’r pentref ar frigiad tywodfaen serth bron i 100 metr uwchben llawr Dyffryn Dyfrdwy ac mae’n nodi’r porth dwyreiniol i Ddyffryn Llangollen.
Mae’r ardal gadwraeth yn cynnwys y craidd hanesyddol, a ffurfiwyd ar sawl haen ar ochr y bryn o amgylch chwarel ganolog, i greu treflun unigryw a hynod. Oherwydd ei safle dyrchafedig ceir golygfeydd godidog o Gefn Mawr ar hyd Dyffryn Llangollen tuag at Ddyfrbont Pontcysyllte, a ddynodwyd yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO ym mis Mehefin 2009.
Cafodd Ardal Gadwraeth Cefn Mawr ei dynodi ym mis Tachwedd 2004. Daeth cyfarwyddyd erthygl 4(2) Ardal Gadwraeth Cefn Mawr i rym ym mis Ionawr 2006. Mabwysiadwyd Asesiad o Gymeriad a Chynllun Rheoli Ardal Gadwraeth Cefn Mawr ym mis Medi 2012.
Dolenni perthnasol
Y Waun
Mae’r Waun ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, tua 9 milltir i’r de-orllewin o ganol tref Wrecsam a 5 milltir i’r gogledd o Groesoswallt. Mae’r pentref mewn pant isel rhwng ystadau hanesyddol Castell y Waun, sy’n edrych dros y pentref i’r gorllewin, a Brynkinallt sydd wedi’i guddio i’r dwyrain gan gefn llethrog ac sydd wedi’i wahanu o’r pentref gan ffordd osgoi fodern yr A483.
Mae’r ardal gadwraeth yn canolbwyntio ar graidd hanesyddol y pentref sy’n sefyll ar frigiad bach uwchben afon Ceiriog, yn edrych i lawr dros harddwch Dyffryn Ceiriog. Mae’r ardal gadwraeth yn cynnwys yr anheddiad canoloesol gwreiddiol o amgylch Eglwys y Santes Fair a Stryd yr Eglwys ac mae’n ymestyn i’r gorllewin ar hyd Station Avenue a Ffordd y Castell i gynnwys Dyfrbont a Thraphont y Waun, sydd bellach yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte.
Mae ffin yr ardal gadwraeth yn ymestyn hefyd i’r gogledd i gynnwys rhan o Ffordd Caergybi a gafodd ei dargyfeirio fel rhan o gynllun ffordd hanesyddol Thomas Telford rhwng Llundain a Chaergybi, sef yr A5.
Cafodd Ardal Gadwraeth y Waun ei dynodi am y tro cyntaf ym mis Awst 1975 a newidiwyd ac ehangwyd ei ffin ym mis Hydref 1997 ac yn 2013/2014. Daeth cyfarwyddyd erthygl 4(2) Ardal Gadwraeth y Waun i rym ym mis Gorffennaf 2002. Mabwysiadwyd Asesiad o Gymeriad a Chynllun Rheoli Ardal Gadwraeth y Waun yn 2013/2014.
Erbistog
Mae Erbistog yn un o blith nifer o bentrefannau a phentrefi ar hyd afon Dyfrdwy. Yn Erbistog mae’r afon yn llifo drwy rannau olaf dyffryn serth dramatig cyn ymlwybro i gyfeiriad y gogledd ar draws y gorlifdir tonnog ac isel i gyfeiriad Caer. Mae Erbistog 2km i’r gorllewin o bentref Owrtyn a rhaid teithio ar hyd rhwydwaith o lonydd gwledig cul oddi ar y briffordd o Owrtyn i Wrecsam i gyrraedd y pentref.
Mae’r ardal gadwraeth yn canolbwyntio ar yr ardal o amgylch Eglwys y Santes Hilary sydd ar lan afon Dyfrdwy islaw sgarp tywodfaen 45 metr o uchder, gyda choed aeddfed yn gefnlen iddo. Mae’r ardal amgylchynol o natur wledig, ac yn cynnwys caeau pori yn bennaf.
Cafodd Ardal Gadwraeth Erbistog ei dynodi am y tro cyntaf ym mis Awst 1975 a newidiwyd ei ffin ym mis Ebrill 2000. Mabwysiadwyd Asesiad o Gymeriad a Chynllun Rheoli Ardal Gadwraeth Erbistog ym mis Mai 2010.
Ffordd y Tylwyth Teg (Wrecsam)
Mae Ardal Gadwraeth Ffordd y Tylwyth Teg tua milltir i’r de o ganol tref Wrecsam ac mae bron iawn am y terfyn ag Ardal Gadwraeth Salisbury Park i’r gogledd. Cafodd ardal Ffordd y Tylwyth Teg ei chynllunio yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg fel maestref preswyl nodedig ac eang yn y dref. Prif nodwedd arbennig yr ardal yw’r manylion Celfyddyd a Chrefft nodedig ar lawer o’r adeiladau yn ogystal ag ansawdd uchel yr adeiladau, eu cynllun a’u lleoliad.
Cafodd Ardal Gadwraeth Ffordd y Tylwyth Teg ei dynodi ym mis Awst 1975 a newidiwyd ei ffin ym mis Rhagfyr 1997. Daeth cyfarwyddyd erthygl 4(2) Ardal Gadwraeth Ffordd y Tylwyth Teg i rym ym mis Mai 1998. Mabwysiadwyd yr Asesiad o Ardal Gadwraeth Fairy Road ym mis Chwefror 1999.
Bydd y ddogfen Cynllun Asesu a Rheoli Nodweddion ar gyfer yr ardal gadwraeth hon yn cael ei hychwanegu ar ôl iddi gael ei diweddaru yn unol â Safonau'r Gymraeg a’r safonau hygyrchedd.
Gresffordd
Mae Ardal Gadwraeth Gresffordd yn cynnwys canol y pentref hanesyddol sydd tua 4 milltir i’r gogledd-ddwyrain o Wrecsam oddi ar y B5445, yr hen ffordd o Wrecsam i Gaer. Mae’r pentref wedi datblygu ar benrhyn gwastad uwchben ardal serth ar ochr dyffryn afon Alun wrth iddi lifo i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain i ymuno ag afon Dyfrdwy.
Canolbwynt yr ardal gadwraeth yw eglwys y plwyf, Eglwys yr Holl Saint, adeilad rhestredig Gradd I bendigedig sy’n rhoi teimlad cryf o le a hunaniaeth i’r pentref. Nid yw’r pentref sydd wedi tyfu o amgylch yr eglwys wedi newid llawer hyd heddiw.
Cafodd Ardal Gadwraeth Gresffordd ei dynodi am y tro cyntaf ym mis Awst 1975 a newidiwyd ei ffin ym mis Tachwedd 1999. Mabwysiadwyd Asesiad o Gymeriad a Chynllun Rheoli Ardal Gadwraeth Gresffordd ym mis Medi 2009.
Ffordd Grosvenor (Wrecsam)
Mae Ardal Gadwraeth Ffordd Grosvenor i’r gogledd-orllewin o ardal fasnachol ganolog y dref ac mae’n cynnwys Ffordd Grosvenor, Ffordd y Llwyni a rhannau o Stryt Gerallt, Stryt y Rhaglaw, Stryt y Brenin, Ffordd Parc y Gelli, Ffordd Rhosddu a rhannau o Gampws Coleg Iâl.
Cafodd Ardal Gadwraeth Ffordd Grosvenor ei dynodi am y tro cyntaf ym mis Medi 1990 a newidiwyd ei ffin ym mis Gorffennaf 2007. Mabwysiadwyd Asesiad o Gymeriad a Chynllun Rheoli Ardal Gadwraeth Ffordd Grosvenor ym mis Ebrill 2009. Daeth cyfarwyddyd erthygl 4(2) Gerald Street i rym ym mis Gorffennaf 2007.
Hanmer
Mae Hanmer tua 9 milltir i’r de-ddwyrain o Wrecsam, ger y ffin â Lloegr, ac mae’r prif fynedfa i’r pentref oddi ar ffordd yr A539 rhwng Whitchurch ac Owrtyn. Mae’r pentref mewn ardal o’r enw Maelor Saesneg lle nodweddir y dirwedd gan ffermdir isel, pantiog, gwledig yn bennaf ynghyd â gwrychoedd wedi’u rheoli’n dda a choetiroedd bach yn torri ar draws patrwm y caeau. Gwelir ôl dylanwad yr ystadau cynlluniedig hanesyddol, ac mae’n debyg mai ystad Hanmer yw’r mwyaf amlwg o’r rhain.
Mae’r ardal gadwraeth yn cynnwys y rhan fwyaf o’r pentref, gydag Eglwys St Chad yn y canol yn sefyll uwchben y tai o’i hamgylch ac yn wynebu ardal dawel a phrydferth Hanmer Mere. Mae’r golygfeydd hyfryd o’r dirwedd agored amgylchynol yn cydweddu â lleoliad yr ardal gadwraeth wrth ochr y Mere gan gyfrannu at y teimlad cryf o le.
Cafodd Ardal Gadwraeth Hanmer ei dynodi am y tro cyntaf yn 1971 a newidiwyd ei ffin ym mis Ebrill 2000. Mabwysiadwyd Asesiad o Gymeriad a Chynllun Rheoli Ardal Gadwraeth Hanmer ym mis Rhagfyr 2011.
Barics Hightown
Mae Ardal Gadwraeth Barics Hightown yn canolbwyntio ar safle’r barics hanesyddol sy’n dyddio’n ôl i ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’r barics i’r gorllewin o Kingsmill Road ar gyrion deheuol canol tref Wrecsam. Y barics oedd cartref gwreiddiol y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ac mae rhannau o’r safle yn dal i gael eu defnyddio gan y Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer y Peirianwyr Trydanol a Mecanyddol Brenhinol a’r Fyddin Diriogaethol. Mae’r adeiladau hanesyddol yn nodwedd arbennig yn y rhan hon o Wrecsam ac mae gan y safle werth cymunedol cryf i lawer yn ardal Wrecsam.
Cafodd Ardal Gadwraeth Barics Hightown ei dynodi ym mis Chwefror 2000.
Holt
Mae Holt tua pum milltir i’r gogledd-ddwyrain o Wrecsam ac ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Saif ar dir gwastad uwchben glannau de-orllewinol afon Dyfrdwy ac mae’n wynebu pentref Farndon, yn Swydd Gaer, ar draws yr afon i’r gogledd. Mae’r bont dywodfaen nodedig sy’n croesi’r afon rhwng y ddau bentref yn cynrychioli cyswllt hynafol rhwng y ddwy wlad.
Mae’r ardal gadwraeth yn cynnwys y rhan fwyaf o’r anheddiad gan gynnwys ardal ganoloesol ganolog y pentref yn ogystal â’r prif lwybrau i ganol y pentref.
Cafodd Ardal Gadwraeth Holt ei dynodi ym mis Awst 1975 a newidiwyd ei ffin a’i ehangu ym mis Mawrth 1999. Mabwysiadwyd Ardal Gadwraeth Holt ym mis Tachwedd 1990 ac mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i baratoi Asesiad o Gymeriad a Chynllun Rheoli Ardal Gadwraeth Holt. Daeth cyfarwyddyd erthygl 4(2) Holt i rym ym mis Hydref 2000.
Bydd y ddogfen Cynllun Asesu a Rheoli Nodweddion ar gyfer yr ardal gadwraeth hon yn cael ei hychwanegu ar ôl iddi gael ei diweddaru yn unol â Safonau'r Gymraeg a’r safonau hygyrchedd.
Llanarmon Dyffryn Ceiriog
Mae Llanarmon Dyffryn Ceiriog tua 15km (9 milltir) i’r gogledd-orllewin o’r Waun ar ffordd y B4500, tua 11km (7 milltir) i’r de-orllewin o Langollen a tua 14km (9 milltir) i’r gorllewin o Groesoswallt. Mae’r pentref ymron ym mhen draw dyffryn Ceiriog, tua 870 troedfedd uwchben lefel y môr ym Mryniau’r Berwyn.
Mae’r ardal gadwraeth yn cynnwys yr ardal hanesyddol yng nghanol y pentref.
Cafodd Ardal Gadwraeth Llanarmon Dyffryn Ceiriog ei dynodi am y tro cyntaf ym mis Awst 1975 a newidiwyd ei ffiniau ym mis Chwefror 2000. Mabwysiadwyd Asesiad o Gymeriad a Chynllun Rheoli Llanarmon Dyffryn Ceiriog ym mis Mawrth 2010.
Marchwiel
Mae pentref bach Marchwiel tua 2 filltir i’r dwyrain o Wrecsam. Mae’r anheddiad wedi datblygu ar batrwm llinol ar hyd ffordd yr A525 rhwng Wrecsam a Whitchurch. Saif y pentref ar fryncyn bach a cheir golygfeydd eang i’r gogledd ar draws gorlifdiroedd afon Dyfrdwy i gyfeiriad Swydd Gaer a thu hwnt.
Mae’r ardal gadwraeth yn canolbwyntio ar yr ardal o amgylch Eglwys Sant Deiniol a’r Santes Farchell a’r ffordd dyrpeg hanesyddol rhwng Caer a’r Amwythig sy’n dyddio o ddechrau’r ddeunawfed ganrif. I’r de o’r ardal gadwraeth, mae’r ardal amgylchynol yn wledig ei chymeriad, ac yn cynnwys caeau pori a bryniau tonnog yn bennaf. I’r gogledd, mae’r cymeriad yn drefol yn bennaf ac yn cynnwys ystadau preswyl o’r 20fed ganrif yn bennaf.
Cafodd Ardal Gadwraeth Marchwiel ei dynodi yn 1975 a newidiwyd y ffin a’i lleihau ym mis Ebrill 2000. Mabwysiadwyd Asesiad o Gymeriad a Chynllun Rheoli Ardal Gadwraeth Marchwiel ym mis Chwefror 2011.
Merfford
Mae Merfford tua 4 milltir i’r gogledd-ddwyrain o Wrecsam ar yr hen briffordd rhwng Wrecsam a Chaer. Datblygodd y pentref o amgylch Bryn Merfford sy’n codi i fyny gan ddynodi’r gyffordd rhwng Gwastadir isel Swydd Gaer a bryniau Cymru. Mae Gwastadir Swydd Gaer yn gefnlen bwysig i’r pentref ac yn ymestyn am filltiroedd lawer i’r dwyrain gan gynnig golygfeydd o dirnodau yn y pellter, yn eu plith Neuadd Eaton ac afon Dyfrdwy. Yn y gorwel pell, yn torri ar draws y nenlinell, mae Bryniau Bickerton.
Mae’r ardal gadwraeth yn canolbwyntio ar ganol hanesyddol y pentref sy’n glynu’n dynn at lethrau is coetiroedd Bryn Merfford. Mae dyluniad hardd a thlws ‘arddull bwthyn’ nifer o’r adeiladau yn rhoi hunaniaeth arbennig i’r pentref ac yn creu teimlad cryf o le yn yr ardal gadwraeth.
Cafodd Ardal Gadwraeth Merfford ei dynodi am y tro cyntaf yn 1971 a newidiwyd a diwygiwyd ei ffin yn 1999 ac unwaith eto yn 2012. Mabwysiadwyd Asesiad o Gymeriad a Chynllun Rheoli Ardal Gadwraeth Merfford ym mis Mawrth 2012.
Mwynglawdd
Mae Mwynglawdd tua 7km i’r gorllewin o Wrecsam ar safle uchel ym mhen draw Dyffryn Clywedog, lle mae sgarp calchfaen amlwg Mynydd Esclus (neu Esclys). Mae topograffeg agored yr ucheldir, y tir noeth a’r diffyg gorchudd coed yn creu golygfeydd nodedig ac yn cynnig golygfeydd pell o Mwynglawdd ar hyd dyffryn Clywedog i gyfeiriad canol tref Wrecsam.
Mae’r ardal gadwraeth yn canolbwyntio ar anheddiad hanesyddol gwasgaredig ar ddwy ochr Dyffryn Clywedog. Dylanwadwyd yn drwm ar unrhyw ddatblygu yn yr ardal gan y gwaith cloddio am fwynau a cherrig yn ystod y Chwyldro Diwydiannol ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac mae gweddillion y gweithgarwch hwn ynghudd hyd heddiw yn y dirwedd amgylchynol.
Cafodd ffiniau Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd (AHNE) ei hymestyn yn ddiweddar i gynnwys llethr dwyreiniol Mynydd Esclus ynghyd â rhan o adran orllewinol yr ardal gadwraeth. Mae’r dynodiad hwn yn ategu arwyddocad y dirwedd i gymeriad Ardal Gadwraeth Mwynglawdd.
Cafodd Ardal Gadwraeth Mwynglawdd ei dynodi am y tro cyntaf ym mis Gorffennaf 1975 a newidiwyd ei ffin gan ei hehangu ym mis Mai 1981 a mis Gorffennaf 2002 i gynnwys rhagor o adeiladau hanesyddol yr ardal a gweddillion yr hen weithgarwch diwydiannol a rhannau o’r dirwedd amgylchynol sy’n cryfhau cymeriad yr ardal. Mabwysiadwyd Asesiad o Gymeriad a Chynllun Rheoli Ardal Gadwraeth Mwynglawdd ym mis Rhagfyr 2012.
I wneud cais am gopi o’r Asesiad o Gymeriad a Chynllun Rheoli, anfonwch neges e-bost i planning_admin@wrexham.gov.uk.
Owrtyn
Mae Owrtyn tua 7 milltir i’r de-ddwyrain o Wrecsam a saif ar ben bryncyn serth coediog uwchben afon Dyfrdwy. Mae llawer o eiddo preifat ar yr ochr orllewinol gyda golygfeydd ar draws tirweddau coediog ac amaethyddol Dyffryn Dyfrdwy a Mynyddoedd y Berwyn.
Mae’r ardal gadwraeth yng nghanol y pentref sydd wedi datblygu ar hyd llwybrau allweddol ffordd yr A539 rhwng Wrecsam a Whitchurch a ffordd yr A528 rhwng Marchwiel ac Ellesmere, sy’n cyfarfod yng nghanol Owrtyn.
Cafodd Ardal Gadwraeth Owrtyn ei dynodi am y tro cyntaf yn 1971 a newidiwyd ei ffin ym mis Chwefror 1999. Mabwysiadwyd Asesiad o Gymeriad a Chynllun Rheoli Owrtyn ym mis Rhagfyr 2010. Daeth cyfarwyddyd erthygl 4(2) Owrtyn i rym ym mis Ionawr 2011.
Pen-y-cae
Mae pentref bach Pen-y-cae tua 7 milltir i’r de-orllewin o Wrecsam. Mae’r anheddiad ar lethrau Mynydd Rhiwabon lle mae’r dopograffeg amrywiol yn creu lleoliad prydferth ar gyfer sawl eiddo gan ffurfio cefnlen wledig ddramatig i’r ardal gadwraeth.
Mae Ardal Gadwraeth Pen-y-cae yn canolbwyntio ar ganol hanesyddol Pentre Cristionydd ac, fel yr awgryma’r enw, mae ganddo gysylltiadau crefyddol hanesyddol cryf ag Abaty Glyn y Groes ger Llangollen. Yma, mae nentydd Trefechan a Nant-y-Crogfryn yn llifo i’r ardal gadwraeth, gan gyfarfod yn y canol o dan gyfres o bontydd cerrig hanesyddol. Mae cymeriad gwledig cryf yr ardal gadwraeth wedi’i hategu gan leoliad gwasgaredig yr adeiladau, y llwybrau troed cul, y coed niferus a’r golygfeydd o’r dirwedd amgylchynol. Mae’r cymeriad gwledig hwn yn cyferbynnu â’r strydoedd moel, lle mae’r anheddiad yn fwy dwys, i gyfeiriad y de.
Cafodd Ardal Gadwraeth Pen-y-Cae ei dynodi am y tro cyntaf yn 1976 a newidiwyd ei ffin a’i lleihau ym mis Ionawr 2003 a mis Mehefin 2011. Mabwysiadwyd Asesiad o Gymeriad a Chynllun Rheoli Ardal Gadwraeth Pen-y-Cae ym mis Mehefin 2011.
Dyfrbont Pontcysyllte
Mae Ardal Gadwraeth Dyfrbont Pontcysyllte yn cynnwys rhan o Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte, sy’n ymestyn o Fasn Trefor, lle mae camlas Llangollen yn dod i ben yn anheddiad Pontcysyllte, i gyfeiriad y de mor bell ag anheddiad Froncysyllte. Mae’r ardal gadwraeth i’r de-orllewin o Trefor, 6 milltir i’r de o Wrecsam a 3 milltir i’r dwyrain o Langollen. Mae ffordd hanesyddol yr A5 rhwng Llundain a Chaergybi, a adeiladwyd gan Thomas Telford, yn rhedeg i’r de drwy bentref Froncysyllte. I’r gogledd mae ffordd yr A539 i Riwabon, ac anheddiad Trefor. Yr adeiladwaith mwyaf amlwg yw Dyfrbont Pontcysyllte.
Mae’r ardal gadwraeth yn llinol o ran ei siâp gyda’r echelin yn cyfateb yn fras i’r Gogledd - De. Mae’n cynnwys adeileddau allweddol a oedd yn bwysig i ddatblygu basn y gamlas ac mae’n amlwg yn wahanol i’r ardaloedd o dai o’r 20fed ganrif a saif gerllaw i’r gogledd a’r de. Mae’n cynnwys lleoliad hanfodol y Dyfrbont ei hun, yr arglawdd a’r adeiladau cysylltiedig.
Cafodd Ardal Gadwraeth Basn Trefor ei dynodi ar 6 Gorffennaf 1998 a’i hymestyn a’i hailenwi yn Ardal Gadwraeth Dyfrbont Pontcysyllte ar 14 Gorffennaf 2009. Mabwysiadwyd Asesiad o Gymeriad a Chynllun Rheoli Dyfrbont Pontcysyllte ym mis Gorffennaf 2009. Daeth cyfarwyddyd erthygl 4(2) Dyfrbont Pontcysyllte i rym ym mis Awst 2009.
Cysylltau cysylltiedig
Yr Orsedd
Mae Yr Orsedd yn bentref mawr tua 6.5 milltir i’r gogledd o Wrecsam, gerllaw’r ffin â Swydd Gaer a Lloegr. Mae ffordd ddeuol yr A483 a’r rheilffordd rhwng Wrecsam a Chaer yn rhedeg ar hyd ffin orllewinol y pentref. Mae afon Alun yn llifo i’r de cyn troelli i’r gogledd-ddwyrain lle mae’n ymuno ag afon Dyfrdwy, ac mae’r afon yn dynodi’r ffin rhwng Cymru a Lloegr. Mae’r cefn gwlad amgylchynol yn wastad ac yn cael ei ffermio’n ddwys a cheir digonedd o wrychoedd a choedwrychoedd. Mae golygfeydd pell ar draws y ffermdir gwastad agored i’r gogledd a’r dwyrain lle mae’r bylchau yn y datblygiadau a’r gwrychoedd isel yn caniatáu. I’r de a’r gorllewin mae’r dirwedd yn fwy dramatig yn erbyn cefnlen bryniau Cymru.
Cafodd Ardal Gadwraeth Yr Orsedd ei dynodi ym mis Hydref 2011. Mabwysiadwyd Asesiad o Gymeriad a Chynllun Rheoli Ardal Gadwraeth Yr Orsedd ym mis Hydref 2011. Daeth cyfarwyddyd erthygl 4(2) Yr Orsedd i rym ym mis Ionawr 2012.
Diwygiad – Ionawr 2022
Mae’r diwygiad canlynol wedi’i wneud i Gynllun Asesu a Rheoli Nodweddion Ardal Gadwraeth yr Orsedd, a fabwysiadwyd yn ystod cyfarfod o’r Bwrdd Gweithredol ar 4 Hydref 2011.
Paragraff 2.6. (cyfeiriad at leoliad Rossett Hall mewn perthynas ag Ardal Gadwraeth yr Orsedd):
“Mae Rossett Hall, a elwir yn hanesyddol yn The Rossett, a Trevalyn House, sydd i’r de o’r pentref, yn dyddio’n ôl i ganol y ddeunawfed ganrif ac er eu bod wedi’u haddasu a’u hestyn yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif, mae’r nodweddion Sioraidd gwreiddiol i’w gweld hyd heddiw. Codwyd Rossett Hall ar gyfer James Boydell, aelod o deulu blaenllaw yn y pentref a stiwardiaid Trevalyn Hall a’r stad o ganol y ddeunawfed ganrif tan ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae Alyn Cottage, sydd gyferbyn ag Eglwys Christ, hefyd yn dyddio’n ôl i’r cyfnod hwn a hwn oedd tŷ agweddi Rossett Hall.”
Rhiwabon
Mae Ardal Gadwraeth Rhiwabon yn cynnwys canol y pentref, sydd tua 6 milltir i’r de o Wrecsam. Mae Mynydd Rhiwabon yn codi i’r gorllewin ac mae Afon Eitha yn rhedeg yn syth drwy’r pentref.
Mae’r ardal gadwraeth yn canolbwyntio ar Eglwys y Santes Fair, adeilad rhestredig Gradd I. Mae dylanwadau Ystad dylanwadol Wynnstay, yn ogystal â diwydiannau lleol yn amlwg yn yr arddulliau pensaernïol amrywiol a welir yn natblygiad y pentref.
Cafodd Ardal Gadwraeth Rhiwabon ei dynodi am y tro cyntaf ym mis Awst 1975 a newidiwyd ei ffin ym mis Chwefror 1998 ac ym mis Rhagfyr 2010. Mabwysiadwyd Asesiad o Gymeriad a Chynllun Rheoli Ardal Gadwraeth Rhiwabon ym mis Rhagfyr 2010. Daeth cyfarwyddyd erthygl 4(2) Ardal Gadwraeth Rhiwabon i rym ym mis Medi 2010 a daeth cyfarwyddyd erthygl 4(2) Grenville Terrace i rym ym mis Rhagfyr 2010.
Parc Salisbury (Wrecsam)
Mae Ardal Gadwraeth Parc Salisbury i’r de o ganolbwynt hanesyddol canol tref Wrecsam, mewn safle uwchlaw afon Gwenfro a Rhodfa San Silyn. Mae’r ardal yn edrych i lawr dros ganol y dref a cheir golygfeydd gwych yma o dŵr Eglwys Sant Silyn (St Giles), un o Saith Rhyfeddod Cymru.
Mae’r ardal gadwraeth ar ffurf llinell sy’n cysylltu Ffordd Melin y Brenin yn y dwyrain a Pen y Bryn yn y gogledd-orllewin. Ffordd Salisbury, Ffordd y Poplys a Stryt y Capel yw asgwrn cefn yr ardal gadwraeth ac mae ffyrdd a strydoedd llai yn cysylltu â’r strydoedd o dai teras mwy diweddar a llai crand yn Ffordd Talbot, Ffordd Fairfield a Teras Bryn Draw.
Cafodd Ardal Gadwraeth Parc Salisbury ei dynodi am y tro cyntaf ym mis Tachwedd 1996 a newidiwyd ac ehangwyd ei ffin i gynnwys rhan o Stryt Earle yn 2013. Mabwysiadwyd Asesiad o Gymeriad a Chynllun Rheoli Ardal Gadwraeth Parc Salisbury ym mis Ebrill 2013. Daeth cyfarwyddyd erthygl 4(2) Parc Salisbury i rym ym mis Chwefror 1997.
Worthenbury
Er bod Worthenbury o fewn ffiniau Bwrdeistref Sirol Wrecsam, yn ddaearyddol mae’n pentref ar Wastadedd Sir Gaer. Mae’r pentref tua 8 milltir i’r de-ddwyrain o Wrecsam rhwng Bangor Is-coed a Malpas ar ffordd y B5069. Mae nentydd Emral a Wych yn cyfarfod yn Worthenbury i ffurfio Nant Worthenbury, un o is-afonydd afon Dyfrdwy, sydd tua 1 milltir i’r gogledd-orllewin.
Cafodd Ardal Gadwraeth Worthenbury ei dynodi am y tro cyntaf ym mis Mawrth 1971 a newidiwyd ac ehangwyd ei ffin ym mis Ebrill 2000 ac unwaith eto ym mis Tachwedd 2009. Mabwysiadwyd Asesiad o Gymeriad a Chynllun Rheoli Ardal Gadwraeth Worthenbury ym mis Tachwedd 2009.
Canol Tref Wrecsam
Mae Wrecsam yng nghanol Gogledd-ddwyrain Cymru, ardal ddiwydiannol a dwys ei phoblogaeth, ger y ffin â Sir Gaer, tua 8 milltir i’r de o Gaer. Dyma’r dref fwyaf yng Ngogledd Cymru ac mae tua 40% o boblogaeth gyfan y fwrdeistref sirol yn byw yma. Mae Wrecsam yn aml yn cael ei disgrifio fel prifddinas Gogledd Cymru, ac mae’n ardal o dwf masnachol a diwydiannol.
Mae Ardal Gadwraeth Canol Tref Wrecsam yn cynnwys y prif strydoedd hanesyddol a masnachol yng nghanol y dref lle mae Eglwys y Plwyf Sant Silyn (St Giles) yn ganolbwynt.
Cafodd Ardal Gadwraeth Canol Tref Wrecsam ei dynodi ym mis Mawrth 1974 ac ehangwyd ei ffin ym misoedd Awst 1975, Mehefin 1985 ac Ebrill 2007. Mabwysiadwyd Asesiad o Gymeriad a Chynllun Rheoli Ardal Gadwraeth Canol Tref Wrecsam ym mis Ionawr 2009.