Mae Wrecsam yng nghanol Gogledd-ddwyrain Cymru, ardal ddiwydiannol a dwys ei phoblogaeth, ger y ffin â Sir Gaer, tua 8 milltir i’r de o Gaer. Dyma’r dref fwyaf yng Ngogledd Cymru ac mae tua 40% o boblogaeth gyfan y fwrdeistref sirol yn byw yma. Mae Wrecsam yn aml yn cael ei disgrifio fel prifddinas Gogledd Cymru, ac mae’n ardal o dwf masnachol a diwydiannol.

Mae Ardal Gadwraeth Canol Tref Wrecsam yn cynnwys y prif strydoedd hanesyddol a masnachol yng nghanol y dref lle mae Eglwys y Plwyf Sant Silyn (St Giles) yn ganolbwynt.

Cafodd Ardal Gadwraeth Canol Tref Wrecsam ei dynodi ym mis Mawrth 1974 ac ehangwyd ei ffin ym misoedd Awst 1975, Mehefin 1985 ac Ebrill 2007.  Mabwysiadwyd Asesiad o Gymeriad a Chynllun Rheoli Ardal Gadwraeth Canol Tref Wrecsam ym mis Ionawr 2009.