Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i’r hyn sydd wedi’i gyhoeddi ar www.wrecsam.gov.uk

Caiff y wefan hon ei rhedeg gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Rydym yn awyddus i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Mae hynny’n golygu er enghraifft y dylech chi fod yn gallu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • closio i mewn hyd at 300% heb i’r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
  • llywio drwy’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio drwy’r rhan fwyaf o’r wefan drwy ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan drwy ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau mwyaf diweddar o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w ddefnyddio os oes gennych chi anabledd (dolen gyswllt allanol).

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch.

  • nid yw’r rhan fwyaf o ddogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllen sgrin.
  • nid oes gan ffrydiau fideo byw benawdau

Gwybodaeth adborth a chyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch am y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, fformat hawdd i'w ddarllen, recordiad sain neu braille:

Fe fyddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi mewn 5 diwrnod.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon

Rydym bob amser yn awyddus i wella hygyrchedd y wefan hon. Os dewch chi o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi eu rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn credu nad ydym yn bodloni gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â thîm y Gwasanaethau Digidol, webmaster@wrexham.gov.uk.

Gweithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi’r rheoliadau hygyrchedd. Os nad ydych yn hapus gyda sut rydym yn ymateb i’ch cwyn cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS) (dolen gyswllt allanol).

Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni

Rydym yn darparu gwasanaeth cyfnewid testun i bobl sy’n fyddar, â nam ar y clyw neu sydd â nam ar y lleferydd.

Mae gan ein swyddfeydd ddolenni cyflwyno sain neu os cysylltwch â ni cyn eich ymweliad fe allwn drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi ymrwymo i wneud y wefan hon yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd 2018 Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2).

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol gyda safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2 (dolen gyswllt allanol) o ganlyniad i'r enghreifftiau nad ydynt yn cydymffurfio a restrir isod.

  • nid yw dogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllen sgrin.
  • mae'r safle hwn yn cynnwys hysbysebu trydydd parti, ac nid yw peth o'r cod html yn pasio safonau AA. Ond deëllir fod hyn wedi ei eithrio o fodloni'r rheoliadau hygyrchedd (dolen gyswllt allanol)  gan mai cynnwys trydydd parti ydyw.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Diffyg cydymffurfio gyda'r rheoliadau hygyrchedd

DogfenRheswm dros fod yn anhygyrchA oes fersiwn hygyrch ar gael?Dyddiad
Datganiad Cyfrifon 2021-22 – fersiwn a archwiliwydYsgrifennwyd ac archwiliwyd y ddogfen hon cyn i egwyddorion hygyrchedd fod yn berthnasol. Yn ôl y gyfraith, rhaid i ni gyhoeddi’r fersiwn wreiddiol a archwiliwyd.

Oes.

Datganiad Cyfrifon 2021-22 - fersiwn hygyrch

Awst 2022
Datganiad Cyfrifon 2020-21 – fersiwn a archwiliwydYsgrifennwyd ac archwiliwyd y ddogfen hon cyn i egwyddorion hygyrchedd fod yn berthnasol. Yn ôl y gyfraith, rhaid i ni gyhoeddi’r fersiwn wreiddiol a archwiliwyd.

Oes.

Datganiad Cyfrifon 2020-2021 - fersiwn hygyrch

Tachwedd 2021

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Problemau gyda dogfennau PDF a dogfennau eraill

Nid yw nifer o'n dogfennau PDF a Word hŷn yn bodloni safonau hygyrchedd – er enghraifft mae'n bosib nad ydynt wedi eu marcio fel eu bod yn hygyrch i feddalwedd darllen sgrin.

Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd (dolen gyswllt allanol) yn ei gwneud yn ofynnol i ni ddatrys dogfennau PDF na dogfennau eraill sydd wedi eu cyhoeddi cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft nid ydym yn bwriadu datrys cofnodion pwyllgor, rhaglenni a dogfennau adroddiadau.

Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word rydym yn eu cyhoeddi yn bodloni safonau hygyrchedd.

Cynnwys trydydd parti

Mae'r safle hwn yn cynnwys hysbysebu trydydd parti, ac nid yw peth o'r cod html yn pasio safonau AA. Ond deëllir fod hyn wedi ei eithrio o fodloni'r rheoliadau hygyrchedd (dolen gyswllt allanol)  gan mai cynnwys trydydd parti ydyw.

Nid yw’r mapiau trydydd parti canlynol yn pasio safonau’r AA:

Problemau gyda delweddau, fideo a sain

Nid oes gan ffrydiau fideo byw benawdau.

Nid ydym yn bwriadu ychwanegu penawdau i ffrydiau fideo byw gan fod fideo byw wedi ei eithrio o fodloni’r rheoliadau hygyrchedd (dolen gyswllt allanol).

Sut wnaethom ni brofi'r wefan hon

Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar Mawrth 1, 2024. Fe wnaed y prawf gan Siteimprove.com.

Fe brofwyd holl dudalennau'r wefan gennym gan ddefnyddio'r gwasanaeth ar-lein.

Fe brofwyd:

Ystadegau
DyddiadSgôr
Mawrth 2024100/100
Chwefror 2024100/100
Ionawr 2024100/100
Rhagfyr 2023100/100
Tachwedd 2023100/100
Hydref 2023100/100
Medi 2023100/100
Awst 2023100/100
Gorffennaf 2023100/100
Mehefin 2023100/100
Mai 2023100/100
Ebrill 202399.9/100
Mawrth 202398.1/100
Chwefror 2023100/100
Ionawr 2023100/100
Rhagfyr 2022100/100
Tachwedd 2022100/100
Hydref 2022100/100
Medi 2022100/100
Awst 2022100/100
Gorffennaf 2022100/100
Mehefin 2022100/100
Mai 2022100/100
Ebrill 202296.2/100
Mawrth 2022100/100
Chwefror 2022100/100

Sitemorse

Ystadegau
DyddiadRhenc
2023 Ch4 Llywodraeth Lleol (dolen gyswllt allanol)1/391
2023 Ch3 Llywodraeth Lleol (dolen gyswllt allanol)1/375
2023 Ch2 Llywodraeth Lleol (dolen gyswllt allanol)5/393
2023 Ch1 Llywodraeth Lleol (dolen gyswllt allanol)41/404
2022 Ch4 Llywodraeth Lleol (dolen gyswllt allanol)55/403
2022 Ch3 Llywodraeth Lleol (dolen gyswllt allanol)15/410
2022 Ch2 Llywodraeth Lleol (dolen gyswllt allanol)16/410
2022 Ch1 Llywodraeth Lleol (dolen gyswllt allanol)22/410

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Rydym bob amser yn awyddus i wella hygyrchedd y wefan hon. Os dewch chi o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi eu rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn credu nad ydym yn bodloni gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch a thîm y Gwasanaethau Digidol, webmaster@wrexham.gov.uk.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar Mawrth 24, 2020. Cafodd ei ddiweddaru ddiwethaf ar Mawrth 1, 2024.