Mae’r Waun ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, tua 9 milltir i’r de-orllewin o ganol tref Wrecsam a 5 milltir i’r gogledd o Groesoswallt. Mae’r pentref mewn pant isel rhwng ystadau hanesyddol Castell y Waun, sy’n edrych dros y pentref i’r gorllewin, a Brynkinallt sydd wedi’i guddio i’r dwyrain gan gefn llethrog ac sydd wedi’i wahanu o’r pentref gan ffordd osgoi fodern yr A483.
Mae’r ardal gadwraeth yn canolbwyntio ar graidd hanesyddol y pentref sy’n sefyll ar frigiad bach uwchben afon Ceiriog, yn edrych i lawr dros harddwch Dyffryn Ceiriog. Mae’r ardal gadwraeth yn cynnwys yr anheddiad canoloesol gwreiddiol o amgylch Eglwys y Santes Fair a Stryd yr Eglwys ac mae’n ymestyn i’r gorllewin ar hyd Station Avenue a Ffordd y Castell i gynnwys Dyfrbont a Thraphont y Waun, sydd bellach yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte.
Mae ffin yr ardal gadwraeth yn ymestyn hefyd i’r gogledd i gynnwys rhan o Ffordd Caergybi a gafodd ei dargyfeirio fel rhan o gynllun ffordd hanesyddol Thomas Telford rhwng Llundain a Chaergybi, sef yr A5.
Cafodd Ardal Gadwraeth y Waun ei dynodi am y tro cyntaf ym mis Awst 1975 a newidiwyd ac ehangwyd ei ffin ym mis Hydref 1997 ac yn 2013/2014. Daeth cyfarwyddyd erthygl 4(2) Ardal Gadwraeth y Waun i rym ym mis Gorffennaf 2002. Mabwysiadwyd Asesiad o Gymeriad a Chynllun Rheoli Ardal Gadwraeth y Waun yn 2013/2014.