Mae Hanmer tua 9 milltir i’r de-ddwyrain o Wrecsam, ger y ffin â Lloegr, ac mae’r prif fynedfa i’r pentref oddi ar ffordd yr A539 rhwng Whitchurch ac Owrtyn. Mae’r pentref mewn ardal o’r enw Maelor Saesneg lle nodweddir y dirwedd gan ffermdir isel, pantiog, gwledig yn bennaf ynghyd â gwrychoedd wedi’u rheoli’n dda a choetiroedd bach yn torri ar draws patrwm y caeau. Gwelir ôl dylanwad yr ystadau cynlluniedig hanesyddol, ac mae’n debyg mai ystad Hanmer yw’r mwyaf amlwg o’r rhain.

Mae’r ardal gadwraeth yn cynnwys y rhan fwyaf o’r pentref, gydag Eglwys St Chad yn y canol yn sefyll uwchben y tai o’i hamgylch ac yn wynebu ardal dawel a phrydferth Hanmer Mere. Mae’r golygfeydd hyfryd o’r dirwedd agored amgylchynol yn cydweddu â lleoliad yr ardal gadwraeth wrth ochr y Mere gan gyfrannu at y teimlad cryf o le.

Cafodd Ardal Gadwraeth Hanmer ei dynodi am y tro cyntaf yn 1971 a newidiwyd ei ffin ym mis Ebrill 2000. Mabwysiadwyd Asesiad o Gymeriad a Chynllun Rheoli Ardal Gadwraeth Hanmer ym mis Rhagfyr 2011.