Mae Mwynglawdd tua 7km i’r gorllewin o Wrecsam ar safle uchel ym mhen draw Dyffryn Clywedog, lle mae sgarp calchfaen amlwg Mynydd Esclus (neu Esclys). Mae topograffeg agored yr ucheldir, y tir noeth a’r diffyg gorchudd coed yn creu golygfeydd nodedig ac yn cynnig golygfeydd pell o Mwynglawdd ar hyd dyffryn Clywedog i gyfeiriad canol tref Wrecsam.

Mae’r ardal gadwraeth yn canolbwyntio ar anheddiad hanesyddol gwasgaredig ar ddwy ochr Dyffryn Clywedog. Dylanwadwyd yn drwm ar unrhyw ddatblygu yn yr ardal gan y gwaith cloddio am fwynau a cherrig yn ystod y Chwyldro Diwydiannol ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac mae gweddillion y gweithgarwch hwn ynghudd hyd heddiw yn y dirwedd amgylchynol.

Cafodd ffiniau Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd (AHNE) ei hymestyn yn ddiweddar i gynnwys llethr dwyreiniol Mynydd Esclus ynghyd â rhan o adran orllewinol yr ardal gadwraeth. Mae’r dynodiad hwn yn ategu arwyddocad y dirwedd i gymeriad Ardal Gadwraeth Mwynglawdd.

Cafodd Ardal Gadwraeth Mwynglawdd ei dynodi am y tro cyntaf ym mis Gorffennaf 1975 a newidiwyd ei ffin gan ei hehangu ym mis Mai 1981 a mis Gorffennaf 2002 i gynnwys rhagor o adeiladau hanesyddol yr ardal a gweddillion yr hen weithgarwch diwydiannol a rhannau o’r dirwedd amgylchynol sy’n cryfhau cymeriad yr ardal. Mabwysiadwyd Asesiad o Gymeriad a Chynllun Rheoli Ardal Gadwraeth Mwynglawdd ym mis Rhagfyr 2012.

I wneud cais am gopi o’r Asesiad o Gymeriad a Chynllun Rheoli, anfonwch neges e-bost i planning_admin@wrexham.gov.uk.