Mae Cefn Mawr ger ffin dde-orllewinol Wrecsam a Sir Ddinbych, rhwng Rhiwabon a Llangollen, tua 7 milltir o Wrecsam. Mae’r pentref ar frigiad tywodfaen serth bron i 100 metr uwchben llawr Dyffryn Dyfrdwy ac mae’n nodi’r porth dwyreiniol i Ddyffryn Llangollen.

Mae’r ardal gadwraeth yn cynnwys y craidd hanesyddol, a ffurfiwyd ar sawl haen ar ochr y bryn o amgylch chwarel ganolog, i greu treflun unigryw a hynod. Oherwydd ei safle dyrchafedig ceir golygfeydd godidog o Gefn Mawr ar hyd Dyffryn Llangollen tuag at Ddyfrbont Pontcysyllte, a ddynodwyd yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO ym mis Mehefin 2009.

Cafodd Ardal Gadwraeth Cefn Mawr ei dynodi ym mis Tachwedd 2004. Daeth cyfarwyddyd erthygl 4(2) Ardal Gadwraeth Cefn Mawr i rym ym mis Ionawr 2006. Mabwysiadwyd Asesiad o Gymeriad a Chynllun Rheoli Ardal Gadwraeth Cefn Mawr ym mis Medi 2012.