Mae pentref bach Marchwiel tua 2 filltir i’r dwyrain o Wrecsam. Mae’r anheddiad wedi datblygu ar batrwm llinol ar hyd ffordd yr A525 rhwng Wrecsam a Whitchurch. Saif y pentref ar fryncyn bach a cheir golygfeydd eang i’r gogledd ar draws gorlifdiroedd afon Dyfrdwy i gyfeiriad Swydd Gaer a thu hwnt.

Mae’r ardal gadwraeth yn canolbwyntio ar yr ardal o amgylch Eglwys Sant Deiniol a’r Santes Farchell a’r ffordd dyrpeg hanesyddol rhwng Caer a’r Amwythig sy’n dyddio o ddechrau’r ddeunawfed ganrif. I’r de o’r ardal gadwraeth, mae’r ardal amgylchynol yn wledig ei chymeriad, ac yn cynnwys caeau pori a bryniau tonnog yn bennaf. I’r gogledd, mae’r cymeriad yn drefol yn bennaf ac yn cynnwys ystadau preswyl o’r 20fed ganrif yn bennaf.

Cafodd Ardal Gadwraeth Marchwiel ei dynodi yn 1975 a newidiwyd y ffin a’i lleihau ym mis Ebrill 2000. Mabwysiadwyd Asesiad o Gymeriad a Chynllun Rheoli Ardal Gadwraeth Marchwiel ym mis Chwefror 2011.