Mae’r Grant Cymorth Tai yn rhaglen grant ymyrraeth gynnar sydd wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r rhaglen yn darparu cymorth hanfodol i bobl sydd mewn amgylchiadau anodd. Sefydlwyd y rhaglen i helpu rhai o bobl fwyaf diamddiffyn Cymru er mwyn iddyn nhw fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain neu dai â chymorth.

Dod o hyd i gynlluniau cymorth

Gellir cynnig cymorth i unrhyw un sy’n gymwys, os ydych mewn tŷ/llety ai peidio.

Mae pob un o’r cynlluniau a restrir o dan gontract â’n tîm Grant Cymorth Tai i ddarparu cymorth tai. Mae gan bob darparwr ei bolisïau penodol ei hun ar gyfer cymhwyster, asesu a dyrannu cymorth.

Mae cynlluniau wedi eu categoreiddio yn ôl y math o gefnogaeth a ddarperir, er bod rhai cynlluniau’n ymddangos mewn mwy nag un categori ble’n briodol.