Sefydliadau yn darparu cynlluniau cymorth fel rhan o’r Grant Cymorth Tai.

Mae’r Grant Cymorth Tai yn rhaglen grant ymyrraeth gynnar sydd wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru. Sefydlwyd y rhaglen i helpu rhai o bobl fwyaf diamddiffyn Cymru er mwyn iddyn nhw fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain neu dai â chymorth.

Adferiad

Cynllun: Tai Wrecsam

  • Pwy sy’n gymwys: Oedolion dros ddeunaw â phroblemau iechyd meddwl ac/neu anghenion cymhleth.
  • Faint o le sydd ar y cynllun: 15

Disgrifiad o’r gwasanaeth

Tair o ganolfannau rhannu bywydau sy’n cefnogi preswylwyr â’u sgiliau bywyd beunyddiol er mwyn hyrwyddo annibyniaeth a’u hannog i fyw’n annibynnol. 

Mae dwy o’r canolfannau hynny (y naill â 5 ystafell wely a’r llall â 6) yn darparu cymorth i breswylwyr rhwng 9am ac 8pm bob dydd. Mae’r ganolfan arall â thair o ystafelloedd gwely i oedolion ag anghenion llai dwys. 

Yn ogystal â hynny mae yno fflat hunangynhwysol ag un ystafell wely.

Cynllun: Tai Wrecsam (24 awr)

  • Pwy sy’n Gymwys: Oedolion dros ddeunaw â phroblemau iechyd meddwl ac/neu anghenion cymhleth.
  • Faint o le sydd ar y cynllun: 5

Disgrifiad o’r gwasanaeth

Canolfan rhannu bywydau â phump o ystafelloedd gwely sy’n cynnig cefnogaeth gan staff 24 awr y dydd, gan gynnwys gweithwyr dros nos ac aelod o staff sy’n cysgu yno dros nos.

Y gwasanaeth gan gefnogi preswylwyr â’u sgiliau bywyd beunyddiol er mwyn hyrwyddo annibyniaeth a’u hannog i fyw’n annibynnol.

Cynllun: Swyddog Cysylltiol Iechyd Meddwl 

  • Rhif ffôn: 01978 310936
  • E-bost: wots@adferiad.org  
  • Pwy sy’n gymwys: Pobl sydd dan fygythiad o fynd yn ddigartref, gorfod cysgu ar soffas ffrindiau neu sy’n byw mewn llety dros dro, ac sydd hefyd â phroblemau iechyd meddwl, yn ddibynnol ar sylweddau neu ag anghenion cymhleth. 
  • Faint o le sydd ar y cynllun: 10
     

Disgrifiad o’r gwasanaeth

Cefnogaeth i gysylltu â gwasanaethau iechyd meddwl a meddygon teulu ac ymdrin â budd-daliadau a dyledion. Cefnogir pobl sy’n symud o lety dros dro i lety annibynnol / byw â chymorth i ddatblygu ei sgiliau ar gyfer y denantiaeth, ac fe’u cynorthwyir i symud ymlaen i wasanaethau cymorth eraill. 

Cynllun: Swyddog Cysylltiol Iechyd Meddwl

  • Rhif ffôn: 01978 310936
  • E-bost: wots@adferiad.org  
  • Pwy sy’n gymwys: Pobl sydd dan fygythiad o fynd yn ddigartref, gorfod cysgu ar soffas ffrindiau neu sy’n byw mewn llety dros dro, ac sydd hefyd â phroblemau iechyd meddwl, yn ddibynnol ar sylweddau neu ag anghenion cymhleth. 
  • Faint o le sydd ar y cynllun: 10

Disgrifiad o’r gwasanaeth

Cefnogaeth i gael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl, apwyntiadau â’r meddyg a gwasanaethau camddefnyddio sylweddau; cymorth â budd-daliadau a rheoli dyledion. 

Cyngor Wrecsam gwasanaeth adfer

Cynllun: Allgymorth / Cefnogaeth yn ôl yr Angen

  • Pwy sy’n gymwys: Pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl sydd wedi’u hatgyfeirio gan weithwyr iechyd meddwl proffesiynol

Disgrifiad o’r gwasanaeth

Cefnogaeth allgymorth i unigolion ag anghenion am gefnogaeth ag iechyd meddwl yn y gymuned.

Gellir defnyddio hyn fel dull ataliol i gadw pobl yn eu cartrefi a’u cymunedau eu hunain, neu i ddarparu gofal cam-i-lawr i bobl sy’n symud o lety byw â chymorth i fyw’n annibynnol. Mae’r gefnogaeth yn hyblyg a gellir ei haddasu yn ôl anghenion a dymuniadau’r unigolyn.

Cynllun: Cynllun Fflatiau â Chymorth

  • Pwy sy’n gymwys: Pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl sydd wedi’u hatgyfeirio gan weithwyr iechyd meddwl proffesiynol.
  • Faint o le sydd ar y cynllun: 6

Disgrifiad o’r gwasanaeth

Bydd y cynllun llety â chymorth hwn yn cefnogi pobl sy’n gwella o afiechyd meddwl ac sy’n barod i symud i fyw’n fwy annibynnol. Efallai eu bod yn ddigartref ar ôl bod am gyfnod yn yr ysbyty, neu wedi bod yn byw mewn llety â chymorth mwy dwys.

Darperir hyd at ddeg awr o gefnogaeth bob wythnos gan staff sy’n gweithio ar y safle, ar adegau sy’n gyfleus i’r unigolyn.

Mae’r llety yn cynnwys fflatiau hunangynhwysol ac un ystafell wely. Mae’r gefnogaeth yn ymdrin â sgiliau bywyd, gosod cyllidebau, sgiliau cartref a sgiliau cymdeithasol, gan baratoi pobl ar gyfer bod yn annibynnol.