Sefydliadau yn darparu cynlluniau cymorth fel rhan o’r Grant Cymorth Tai.

Mae’r Grant Cymorth Tai yn rhaglen grant ymyrraeth gynnar sydd wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru. Sefydlwyd y rhaglen i helpu rhai o bobl fwyaf diamddiffyn Cymru er mwyn iddyn nhw fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain neu dai â chymorth.

Bawso

Rhif ffôn: 01978 355818 

Cynllun: Gwasanaeth Cefnogaeth yn ôl yr Angen Wrecsam

  • Pwy sy’n gymwys: Pobl Ddu ac o leiafrifoedd ethnig sy’n cael problemau â chamdriniaeth ddomestig, tai neu dlodi, gan gynnwys problemau eraill sy’n peri iddynt fod dan fygythiad. 
  • Faint o le sydd ar y Cynllun: 14
     

Disgrifiad o’r gwasanaeth

Gwasanaeth cefnogaeth yn ôl yr angen i bobl Ddu, Asiaidd ac o Leiafrifoedd Ethnig sydd wedi cael profiad o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ac/neu sy’n symud ymlaen o lety’r Gwasanaeth Cynnal Cenedlaethol i Geiswyr Lloches ac angen cefnogaeth i setlo yn y gymuned ehangach a ffynnu.

Os yw’n briodol, gall y prosiect gynnig cymorth i bobl sydd wedi’u dal mewn sefyllfaoedd camdriniol neu sydd dan fygythiad o rywun yn camfanteisio arnynt am eu bod heb hawl i gyllid cyhoeddus.

Uned Diogelwch Trais Teuluol Gogledd Cymru (DASU)

Rhif ffôn: 01978 310203

E-bost: wrexham@dasunorthwales.co.uk 

Cynllun: Lloches Wrecsam

  • Pwy sy’n gymwys: Merched sy’n ffoi rhag trais domestig, a’u plant.
  • Faint o le sydd ar y Cynllun: Lloches Wrecsam – pump o unedau (a mwy o le yn Sir y Fflint, Conwy a Sir Ddinbych gan gynnwys llochesi i ddynion).
     

Disgrifiad o’r gwasanaeth

Mae’r lloches yn darparu llety diogel dros dro i ferched a phlant.

Darparu llety, cyngor, gwybodaeth, cefnogaeth emosiynol ac ymarferol wrth adfer ar ôl camdriniaeth ddomestig/iechyd a lles, dewisiadau tai hirdymor, budd-daliadau, materion cyfreithiol ac unrhyw gefnogaeth arall sydd ei hangen ar bobl tra byddant yn aros yn yr Uned Diogelwch Trais Teuluol.

Cynllun: Gwasanaeth Cefnogaeth Gymunedol

  • Pwy sy’n gymwys: Pobl sy’n ffoi rhag trais domestig, a’u plant.

Disgrifiad o’r gwasanaeth

Mae’r gwasanaeth cefnogaeth gymunedol yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer unrhyw un sydd ag eisiau cefnogaeth neu gyngor ynglŷn â chamdriniaeth ddomestig.

Mae’r gwasanaeth yn cynnig cefnogaeth emosiynol ac ymarferol, gan gynnwys rhywfaint o eitemau ‘gwella diogelwch’ i helpu i gadw pobl yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain. Bydd yr Uned Diogelwch Trais Teuluol yn gofyn cyfres o gwestiynau i bob unigolyn er mwyn asesu’r perygl o niwed a chasglu rhagor o wybodaeth i helpu i baratoi pecyn cefnogaeth. Gallant gynghori pobl ynglŷn â beth i’w wneud nesaf a’u helpu i deimlo’n ddiogel.

Mae’r llinell gymorth Byw Heb Ofn ar gael 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos i unrhyw un sydd ag angen cefnogaeth o safbwynt trais domestig (0808 80 10 800).

Stori Cymru

E-bost: Donna.Evans@storicymru.org.uk  

Cynllun: Prosiect Cefnogaeth yn ôl yr Angen ar gyfer Cam-drin Domestig

  • Rhif ffôn: 01978 855168
  • Pwy sy’n gymwys: Dynion a merched diamddiffyn sydd ag angen am gefnogaeth â thai ac sy’n wynebu, neu wedi wynebu, camdriniaeth ddomestig.
  • Faint o le sydd ar y Cynllun: 24

Disgrifiad o’r gwasanaeth

Mae’r prosiect hwn yn darparu cefnogaeth yn ôl yr angen â thai i bobl ddiamddiffyn, boed ganddynt blant neu beidio, yn eu cartrefi eu hunain. Y nod yw galluogi pobl i gynnal eu tenantiaethau presennol a hyrwyddo llety newydd sy’n ariannol gynaliadwy.

Cynllun: Llochesi Gwasgaru

  • Rhif ffôn: 01978 823123
  • Pwy sy’n gymwys: Merched neu ddynion 16 oed neu hŷn (sengl neu gyda phlant) sy’n wynebu camdriniaeth ddomestig ac angen cefnogaeth, ac sydd naill ai wedi eu cyfeirio’u hunain at y cynllun neu gael eu hatgyfeirio gan amrywiaeth o asiantaethau proffesiynol fel y Gwasanaethau Cymdeithasol, Meddygon Teulu neu Swyddogion Tai.
  • Faint o le sydd ar y Cynllun: 3 
     

Disgrifiad o’r gwasanaeth

Llochesi rhag cam-drin domestig â mynediad uniongyrchol. Mae Stori’n darparu llety â chymorth dros dro i ferched a dynion o bob oedran a’u plant (os oes ganddynt rai) sy’n ffoi rhag trais domestig, er mwyn eu helpu i fodloni eu hanghenion a’u galluogi i ddatblygu’r annibyniaeth angenrheidiol i gymryd rheolaeth dros eu bywydau eu hunain.

Cynllun: Cynllun Llety Gwasgaru

  • Rhif ffôn: 01978 823123
  • Pwy sy’n gymwys: Merched neu ddynion 16 oed neu hŷn (sengl neu gyda phlant) sy’n wynebu camdriniaeth ddomestig ac angen cefnogaeth, ac sydd naill ai wedi eu cyfeirio’u hunain at y cynllun neu gael eu hatgyfeirio gan amrywiaeth o asiantaethau proffesiynol fel y Gwasanaethau Cymdeithasol, Meddygon Teulu neu Swyddogion Tai.
  • Faint o le sydd ar y Cynllun: 2
     

Disgrifiad o’r gwasanaeth

Cefnogaeth yn seiliedig ar lety. Mae Stori’n gweithio â merched a dynion o bob oedran a’u plant (os oes ganddynt rai) sydd ag angen am gymorth neu dai â chymorth, er mwyn eu helpu i fodloni eu hanghenion a’u galluogi i ddatblygu’r annibyniaeth angenrheidiol i gymryd rheolaeth dros eu bywydau eu hunain.