Sefydliadau yn darparu cynlluniau cymorth fel rhan o’r Grant Cymorth Tai.

Mae’r Grant Cymorth Tai yn rhaglen grant ymyrraeth gynnar sydd wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru. Sefydlwyd y rhaglen i helpu rhai o bobl fwyaf diamddiffyn Cymru er mwyn iddyn nhw fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain neu dai â chymorth.

Cyngor Wrecsam adran tai

Cynllun: Llety â Chymorth ac Allgymorth y Moorlands

  • E-bost: housingsupportgateway@wrexham.gov.uk     
  • Pwy sy’n gymwys: Mae’n rhaid bodloni’r meini prawf cymhwyso canlynol i dderbyn y gwasanaeth: 
     
    • Rhaid bod â diagnosis o anabledd dysgu ysgafn i gymedrol a/neu fod yn oedolyn diamddiffyn sy’n ffinio ar fod ag anabledd dysgu
    • Rhaid bod heb angen am gefnogaeth 24 awr y dydd 
    • Rhaid bod ag angen am gymorth cymwys â thai  
    • Rhaid bod yn fodlon cymryd rhan mewn gweithgareddau yn ystod y dydd 
    • Rhaid bod yn fodlon derbyn cefnogaeth drwy ddull rhwydwaith
  • Faint o le sydd ar y Cynllun: 10 (llety), 45 (allgymorth)

Disgrifiad o’r gwasanaeth

Llety hunangynhwysol â chymorth yn y Moorlands – i gynorthwyo deiliaid contractau i fagu’r sgiliau ar gyfer symud ymlaen yn llwyddiannus i lety a byw’n annibynnol.

Allgymorth y Moorlands – cynorthwyo pobl fregus i gadw eu llety, cynorthwyo â budd-daliadau, cyfleustodau ac unrhyw faterion eraill er mwyn atal digartrefedd.

Cyngor Wrecsam gofal cymdeithasol

Cynllun: Llety Byw â Chymorth

  • Rhif ffôn: 01978 292066
  • Pwy sy’n gymwys:    
    • Pobl ag anableddau dysgu neu anableddau corfforol / niwroamrywiaeth / anghenion iechyd meddwl / anghenion synhwyraidd. 
    • Pobl ifanc ac oedolion 16 oed a hŷn, a gwaith pontio gyda phobl ifanc 15 oed sy’n bwriadu symud i lety Byw â Chymorth. 
    • Pobl sydd â chynllun cyflawni personol sy’n cadarnhau’r angen am gefnogaeth â thai, pobl â Chontract Meddiannaeth neu hawl i breswylio
       

Disgrifiad o’r gwasanaeth

Llety parhaol â chymorth. Cefnogaeth ar amryw ffurfiau: rhai adegau o’r dydd / yn ôl yr angen; 24 awr y dydd gyda gweithiwr yn cysgu dros nos; cefnogaeth 24 awr uwch gyda gweithiwr yn cysgu dros nos / gweithio drwy’r nos.