Sefydliadau yn darparu cynlluniau cymorth fel rhan o’r Grant Cymorth Tai.
Mae’r Grant Cymorth Tai yn rhaglen grant ymyrraeth gynnar sydd wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru. Sefydlwyd y rhaglen i helpu rhai o bobl fwyaf diamddiffyn Cymru er mwyn iddyn nhw fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain neu dai â chymorth.
Bawso
Rhif ffôn: 01978 355818
Cynllun: Gwasanaeth Cefnogaeth yn ôl yr Angen Wrecsam
- Pwy sy’n gymwys: Pobl Ddu ac o leiafrifoedd ethnig sy’n cael problemau â chamdriniaeth ddomestig, tai neu dlodi, gan gynnwys problemau eraill sy’n peri iddynt fod dan fygythiad.
- Faint o le sydd ar y Cynllun: 14
Disgrifiad o’r gwasanaeth
Gwasanaeth cefnogaeth yn ôl yr angen i bobl Ddu, Asiaidd ac o Leiafrifoedd Ethnig sydd wedi cael profiad o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ac/neu sy’n symud ymlaen o lety’r Gwasanaeth Cynnal Cenedlaethol i Geiswyr Lloches ac angen cefnogaeth i setlo yn y gymuned ehangach a ffynnu.
Os yw’n briodol, gall y prosiect gynnig cymorth i bobl sydd wedi’u dal mewn sefyllfaoedd camdriniol neu sydd dan fygythiad o rywun yn camfanteisio arnynt am eu bod heb hawl i gyllid cyhoeddus.