Sefydliadau yn darparu cynlluniau cymorth fel rhan o’r Grant Cymorth Tai.

Mae’r Grant Cymorth Tai yn rhaglen grant ymyrraeth gynnar sydd wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru. Sefydlwyd y rhaglen i helpu rhai o bobl fwyaf diamddiffyn Cymru er mwyn iddyn nhw fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain neu dai â chymorth.

Age Connects Gogledd Ddwyrain Cymru

Rhif ffôn: 01352 753728

Cynllun: Gwasanaeth Cefnogaeth yn ôl yr Angen i Bobl Hŷn Wrecsam

  • Pwy sy’n gymwys: Mae’r gwasanaeth yn cefnogi deiliaid tai hŷn, diamddiffyn 55+ oed gyda phob math o ddaliadaeth a allai fod dan fygythiad o fynd yn ddigartref neu golli annibyniaeth yn y cartref.
  • Faint o le sydd ar y cynllun: 100

Disgrifiad o’r gwasanaeth

Mae’r gefnogaeth a ddarperir yn amrywio o gyngor tymor byr a chyfeirio pobl at wasanaethau i gymorth ymarferol sy’n galluogi pobl i gael cymaint o reolaeth ar dasgau domestig a chymdeithasol ag y bo modd i gynnal eu hannibyniaeth yn eu cartrefi a helpu i gadw eu cartrefi.

Lle bo angen, bydd defnyddwyr y gwasanaeth yn cael eu hatgyfeirio at gymorth mwy dwys neu fwy addas.

Gall cefnogaeth fod am dymor hwy ar yr amod bod yr anghenion cefnogaeth yn dal yn gymwys a bod ystyriaeth wedi’i rhoi o ran a oes gwasanaethau mwy addas, tymor hwy ar gael. Darperir cefnogaeth am hyd at ddwy flynedd. 

Cyngor Wrecsam Adran Tai

E-bost: housing@wrexham.gov.uk 

Cynllun: Gwasanaeth Tai Gwarchod (yn cynnwys wardeiniaid)

  • Pwy sy’n gymwys: Pobl 60 oed a hŷn, ond weithiau pobl 55 oed a hŷn sydd ag anableddau, neu sy'n gallu dangos yr angen am gefnogaeth.
  • Faint o le sydd ar y cynllun: 656

Disgrifiad o’r gwasanaeth

Mae yno 22 o gynlluniau Tai Gwarchod ym mwrdeistref Wrecsam. Mae’r llety’n anheddau hunangynhwysol heb ddodrefn – yn fflatiau neu fflatiau un ystafell yn bennaf, ond gyda rhai byngalos hefyd, gyda warden dibreswyl a gwasanaeth larwm argyfwng.

Darperir y Gwasanaeth Warden yn rhad ac am ddim i bobl sy’n derbyn Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol ar gyfer costau tai. Mae’r rhai sy’n talu am y gwasanaeth â’r hawl i gael Asesiad Ariannol i benderfynu eu gallu i dalu. Codir tâl am y rhent, taliadau gwasanaeth a’r gwasanaeth larwm.