Sefydliadau yn darparu cynlluniau cymorth fel rhan o’r Grant Cymorth Tai.

Mae’r Grant Cymorth Tai yn rhaglen grant ymyrraeth gynnar sydd wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru. Sefydlwyd y rhaglen i helpu rhai o bobl fwyaf diamddiffyn Cymru er mwyn iddyn nhw fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain neu dai â chymorth.

Cymdeithas Tai Clwyd Alyn

Cynllun: Llety â Chymorth i Rieni a Babanod

  • Rhif ffôn: 01978 515555
  • Pwy sy’n gymwys: Bydd y gwasanaeth yn darparu llety a chymorth i ferched beichiog a rhieni sengl â babanod dan ddwy oed. Rhaid i’r rhai sy’n defnyddio’r gwasanaeth fod yn 16 oed neu’n hŷn, yn feichiog neu’n rhiant, yn statudol ddigartref ym marn ein Tîm Dewisiadau Tai, ac angen cefnogaeth sy'n ymwneud â thai.  Daw’r atgyfeiriadau’n uniongyrchol gan ein Porth Cymorth Tai (Cyngor Wrecsam).
  • Faint o le sydd ar y cynllun: 4

Disgrifiad o’r gwasanaeth

Mae’r prosiect yn darparu llety graenus un ystafell gyda chyfleusterau en suite yn ogystal â chyfleusterau cyffredin fel lolfa i breswylwyr, cegin / ystafell fwyta a gardd. 

Darparwn gefnogaeth 24 awr y dydd mewn lle diogel gan addasu’r gefnogaeth honno yn ôl anghenion yr unigolion.