Sefydliadau yn darparu cynlluniau cymorth fel rhan o’r Grant Cymorth Tai.

Mae’r Grant Cymorth Tai yn rhaglen grant ymyrraeth gynnar sydd wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru. Sefydlwyd y rhaglen i helpu rhai o bobl fwyaf diamddiffyn Cymru er mwyn iddyn nhw fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain neu dai â chymorth.

Cymdeithas Tai Clwyd Alyn

Cynllun: Foyer Wrecsam

  • Rhif ffôn: 01978 262222
  • E-bost: help@clwydalyn.co.uk  
  • Pwy sy’n gymwys: Oedolion dros 16 sydd dan fygythiad o fynd yn ddigartref.
  • Faint o le sydd ar y cynllun: 18 ac 1 gwely argyfwng.

Disgrifiad o’r gwasanaeth

Prosiect byw â chymorth sy’n darparu llety i oedolion dros 16 oed sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, wedi’u hatgyfeirio drwy ein Tîm Dewisiadau Tai (Cyngor Wrecsam) neu’r gwasanaethau cymdeithasol.

Mae’r gwasanaethau cymorth yn canolbwyntio ar y cleientiaid ac yn cynnwys cefnogaeth gyda thai a’u cyfeirio at unrhyw asiantaethau perthnasol ar gais.

Cynllun: Hafan

  • Rhif ffôn: 01978 268110
  • Pwy sy’n gymwys: Pobl ifanc sengl a phobl ifanc sy’n gadael gofal, rhwng 16 a 25 oed, sy’n statudol ddigartref ym marn ein Tîm Dewisiadau Tai (Cyngor Wrecsam).
  • Faint o le sydd ar y cynllun: 10 ac 1 gwely argyfwng.

Disgrifiad o’r gwasanaeth

Prosiect byw â chymorth yn y Foyer i bobl ifanc ddiamddiffyn. Mae’r gwasanaethau cymorth yn canolbwyntio ar y cleientiaid ac yn cynnwys cefnogaeth gyda thai a’u cyfeirio at unrhyw asiantaethau perthnasol. 

Cynllun: Hurst Newton

  • Rhif ffôn: 01978 363761
  • Pwy sy’n gymwys: Pobl ifanc sengl rhwng 16 a 25 oed o ardal Wrecsam, sy’n ddigartref ar hyn o bryd ac wedi’u hatgyfeirio drwy ein Porth Cymorth Tai (Cyngor Wrecsam).
  • Faint o le sydd ar y cynllun: 12

Disgrifiad o’r gwasanaeth      

Mae Hurst Newton yn brosiect byw â chymorth ar gyrion Wrecsam sy’n cynnig llety graenus un ystafell yn ogystal â chyfleusterau cyffredin fel lolfa i breswylwyr, cegin, ystafell fwyta a gardd.

Darperir cefnogaeth gan staff 24 awr y dydd mewn lle diogel, gan roi’r cyfle i roi’r gorau i’r ffordd ddigartref o fyw.

Stori Cymru

Cynllun: Prosiect Pobl Ifanc

  • E-bost: Donna.Evans@storicymru.org.uk 
  • Rhif ffôn: 01978 823123
  • Pwy sy’n gymwys: Pobl ifanc sengl rhwng 16 a 25 oed sy’n ddiamddiffyn ac angen cefnogaeth. Gallant fod yn ddigartref neu dan fygythiad o fynd yn ddigartref; yn gadael gofal; yn rhieni sengl gyda phlant dan ddwy oed. Maent un ai wedi hunan atgyfeirio neu wedi eu hatgyfeirio trwy ein Porth Cymorth Tai (Cyngor Wrecsam) gan amrywiol asiantaethau proffesiynol, megis y gwasanaethau cymdeithasol, meddygon teulu, swyddogion tai, cymorth i ferched, neu Compass.
  • Faint o le sydd ar y cynllun: 9

Disgrifiad o’r gwasanaeth

Mae’r cynllun yn darparu llety mewn fflatiau hunangynhwysol wedi’u dodrefnu, gyda chyfleusterau cymunedol ar gyfer gwaith grŵp a digwyddiadau cymdeithasol.

Rhoddir cefnogaeth i helpu defnyddwyr y gwasanaeth i fodloni eu hanghenion a’u galluogi i ddatblygu’r annibyniaeth angenrheidiol i gymryd rheolaeth dros eu bywydau eu hunain.