Sefydliadau yn darparu cynlluniau cymorth fel rhan o’r Grant Cymorth Tai.

Mae’r Grant Cymorth Tai yn rhaglen grant ymyrraeth gynnar sydd wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru. Sefydlwyd y rhaglen i helpu rhai o bobl fwyaf diamddiffyn Cymru er mwyn iddyn nhw fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain neu dai â chymorth.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam canolfannau teuluoedd

Cynllun: Cynllun Cymorth i Deuluoedd

  • Rhif ffôn: 01978 295670
  • E-bost: housingsupportgateway@wrexham.gov.uk              
  • Pwy sy’n gymwys: Teuluoedd â phlant sydd dan fygythiad o golli eu tenantiaethau, neu a allai fod. Derbynnir atgyfeiriadau gan Weithwyr Cymdeithasol, Canolfannau Teuluoedd, Tîm Dechrau’n Deg, Cyflawni Newid Gyda'n Gilydd, yr Uned Diogelwch Trais Teuluol, Gweithwyr Cyfiawnder Ieuenctid a Gweithwyr Cymdeithasol Addysg.
  • Faint o le sydd ar y cynllun: 20

Disgrifiad o’r gwasanaeth

Nod y cynllun yw darparu cefnogaeth yn ôl yr angen i deuluoedd diamddiffyn er mwyn eu hatal rhag mynd yn ddigartref drwy hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol a mwy o annibyniaeth.

Mae’r gefnogaeth yn cynnwys: cymorth â gosod cyllidebau a hawlio budd-daliadau, ymgeisio am lety addas i fodloni anghenion y teulu, hyfforddiant sgiliau bywyd, diogelwch a diogeledd y cartref, gwaith trwsio, delio ag anghydfod rhwng cymdogion, meithrin cyswllt gyda pherthnasau a gweithwyr proffesiynol.

Mae’r cynllun hefyd yn gweithio gyda theuluoedd i sefydlu arferion y gellir eu cynnal o gwmpas y cartref a gwneud cais am grantiau ar gyfer eitemau’r cartref. Rydym hefyd yn cefnogi teuluoedd i gael mynediad at adnoddau perthnasol yn eu cymunedau eu hunain.