Sefydliadau yn darparu cynlluniau cymorth fel rhan o’r Grant Cymorth Tai.

Mae’r Grant Cymorth Tai yn rhaglen grant ymyrraeth gynnar sydd wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru. Sefydlwyd y rhaglen i helpu rhai o bobl fwyaf diamddiffyn Cymru er mwyn iddyn nhw fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain neu dai â chymorth.

Y Wallich

Cynllun: Doorstop Wrecsam

  • Rhif ffôn: 01978 800700 neu 07824 991360
  • E-bost: wrexhamdoorstop@thewallich.net      
  • Pwy sy’n gymwys: Pobl sy’n ddeunaw oed a hŷn sydd angen cymorth oherwydd camddefnyddio sylweddau (cyffuriau neu alcohol, neu’r ddau) ac â hanes o droseddu/mewn perygl o droseddu; neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref neu’n cael problemau’n ymwneud â thai.
  • Faint o le sydd ar y Cynllun:    60

Disgrifiad o’r gwasanaeth

Cymorth llety â chymorth byrdymor a chymorth tenantiaeth yn ôl yr angen sy’n cynnwys cymorth i ddatblygu sgiliau byw’n annibynnol, gostwng arwahanrwydd cymdeithasol, a gostwng y tebygolrwydd o droseddu.