Sefydliadau yn darparu cynlluniau cymorth fel rhan o’r Grant Cymorth Tai.

Mae’r Grant Cymorth Tai yn rhaglen grant ymyrraeth gynnar sydd wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru. Sefydlwyd y rhaglen i helpu rhai o bobl fwyaf diamddiffyn Cymru er mwyn iddyn nhw fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain neu dai â chymorth.

Uned Diogelwch Trais Teuluol Gogledd Cymru (DASU)

Rhif ffôn: 01978 310203
E-bost: wrexham@dasunorthwales.co.uk 

Cynllun: Gwasanaeth Cefnogaeth Gymunedol

  • Pwy sy’n gymwys: Pobl sy’n ffoi rhag trais domestig, a’u plant.

Disgrifiad o’r gwasanaeth

Mae’r gwasanaeth cefnogaeth gymunedol yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer unrhyw un sydd ag eisiau cefnogaeth neu gyngor ynglŷn â chamdriniaeth ddomestig.

Mae’r gwasanaeth yn cynnig cefnogaeth emosiynol ac ymarferol, gan gynnwys rhywfaint o eitemau ‘gwella diogelwch’ i helpu i gadw pobl yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain. Bydd yr Uned Diogelwch Trais Teuluol yn gofyn cyfres o gwestiynau i bob unigolyn er mwyn asesu’r perygl o niwed a chasglu rhagor o wybodaeth i helpu i baratoi pecyn cefnogaeth. Gallant gynghori pobl ynglŷn â beth i’w wneud nesaf a’u helpu i deimlo’n ddiogel.

Mae’r llinell gymorth Byw Heb Ofn ar gael 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos i unrhyw un sydd ag angen cefnogaeth o safbwynt trais domestig (0808 80 10 800).

Stori Cymru

E-bost: Donna.Evans@storicymru.org.uk 

Cynllun: Prosiect Cefnogaeth yn ôl yr Angen ar gyfer Cam-drin Domestig

  • Rhif ffôn: 01978 855168
  • Pwy sy’n gymwys: Dynion a merched diamddiffyn sydd ag angen am gefnogaeth â thai ac sy’n wynebu, neu wedi wynebu, camdriniaeth ddomestig.
  • Faint o le sydd ar y Cynllun: 24
     

Disgrifiad o’r gwasanaeth

Mae’r prosiect hwn yn darparu cefnogaeth yn ôl yr angen â thai i bobl ddiamddiffyn, boed ganddynt blant neu beidio, yn eu cartrefi eu hunain. Y nod yw galluogi pobl i gynnal eu tenantiaethau presennol a hyrwyddo llety newydd sy’n ariannol gynaliadwy.

Cynllun: Cynllun Llety Gwasgaru

  • Rhif ffôn: 01978 823123
  • Pwy sy’n gymwys: Merched neu ddynion 16 oed neu hŷn (sengl neu gyda phlant) sy’n wynebu camdriniaeth ddomestig ac angen cefnogaeth, ac sydd naill ai wedi eu cyfeirio’u hunain at y cynllun neu gael eu hatgyfeirio gan amrywiaeth o asiantaethau proffesiynol fel y Gwasanaethau Cymdeithasol, Meddygon Teulu neu Swyddogion Tai.
  • Faint o le sydd ar y Cynllun: 2
     

Disgrifiad o’r gwasanaeth

Cefnogaeth yn seiliedig ar lety. Mae Stori’n gweithio â merched a dynion o bob oedran a’u plant (os oes ganddynt rai) sydd ag angen am gymorth neu dai â chymorth, er mwyn eu helpu i fodloni eu hanghenion a’u galluogi i ddatblygu’r annibyniaeth angenrheidiol i gymryd rheolaeth dros eu bywydau eu hunain.

Cynllun: Llochesi Gwasgaru

  • Rhif ffôn: 01978 823123
  • Pwy sy’n gymwys: Merched neu ddynion 16 oed neu hŷn (sengl neu gyda phlant) sy’n wynebu camdriniaeth ddomestig ac angen cefnogaeth, ac sydd naill ai wedi eu cyfeirio’u hunain at y cynllun neu gael eu hatgyfeirio gan amrywiaeth o asiantaethau proffesiynol fel y Gwasanaethau Cymdeithasol, Meddygon Teulu neu Swyddogion Tai.
  • Faint o le sydd ar y Cynllun: 3 
     

Disgrifiad o’r gwasanaeth

Llochesi rhag cam-drin domestig â mynediad uniongyrchol. Mae Stori’n darparu llety â chymorth dros dro i ferched a dynion o bob oedran a’u plant (os oes ganddynt rai) sy’n ffoi rhag trais domestig, er mwyn eu helpu i fodloni eu hanghenion a’u galluogi i ddatblygu’r annibyniaeth angenrheidiol i gymryd rheolaeth dros eu bywydau eu hunain.