Sefydliadau yn darparu cynlluniau cymorth fel rhan o’r Grant Cymorth Tai.

Mae’r Grant Cymorth Tai yn rhaglen grant ymyrraeth gynnar sydd wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru. Sefydlwyd y rhaglen i helpu rhai o bobl fwyaf diamddiffyn Cymru er mwyn iddyn nhw fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain neu dai â chymorth.

Partneriaeth Parc Caia

Cynllun: Engage Wrecsam

  • Rhif ffôn: 01978 310984
  • Pwy sy’n gymwys: I bobl sydd angen cymorth er mwyn cael neu gadw eu tenantiaeth. Gallant hunan atgyfeirio neu gael eu hatgyfeirio trwy ein Porth Cymorth Tai (Cyngor Wrecsam).
  • Faint o le sydd ar y cynllun: 74
     

Disgrifiad o’r gwasanaeth

Cefnogaeth yn ôl yr angen i gleientiaid yn eu cartrefi eu hunain er mwyn eu galluogi i osgoi’r perygl o fynd yn ddigartref. Er enghraifft, cynnal cyflwr yr annedd, lleihau arwahanrwydd cymdeithasol a’u helpu i deimlo’n ddiogel.

Cymdeithas Tai Clwyd Alyn

Cynllun: Foyer Wrecsam

  • Rhif ffôn: 01978 262222
  • E-bost: help@clwydalyn.co.uk 
  • Pwy sy’n gymwys: Oedolion dros 16 sydd dan fygythiad o fynd yn ddigartref.
  • Faint o le sydd ar y cynllun: 18 ac 1 gwely argyfwng.

Disgrifiad o’r gwasanaeth

Prosiect byw â chymorth sy’n darparu llety i oedolion dros 16 oed sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, wedi’u hatgyfeirio drwy ein Tîm Dewisiadau Tai (Cyngor Wrecsam) neu’r gwasanaethau cymdeithasol. Mae’r gwasanaethau cymorth yn canolbwyntio ar y cleientiaid ac yn cynnwys cefnogaeth gyda thai a’u cyfeirio at unrhyw asiantaethau perthnasol ar gais. 

Cynllun: Preswylfa

  • Rhif ffôn: 01978 268109
  • Pwy sy’n gymwys: Prosiect byw â chymorth sy’n darparu llety i oedolion dros 16 oed sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, wedi’u hatgyfeirio drwy ein Tîm Dewisiadau Tai (Cyngor Wrecsam) neu’r gwasanaethau cymdeithasol.
  • Faint o le sydd ar y cynllun: 10
     

Disgrifiad o’r gwasanaeth

Mae’r prosiect hwn yn y Foyer yn darparu llety a chymorth â thai. Mae gan y bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth anghenion tai cyffredinol.

Nod y gwasanaeth yw galluogi pobl ddiamddiffyn i ennill y sgiliau sydd eu hangen i ddod o hyd i rywle i fyw a’i gadw drwy roi’r grym iddynt gymryd rheolaeth o’u harian, deall eu cyfrifoldebau fel tenantiaid a gwella eu sgiliau bywyd, gan leihau’r tebygolrwydd o fod yn ddigartref eto.
 

Cyfiawnder Tai Cymru

Cynllun: Prosiect Citadel

  • Rhif ffôn: Joanne 07517 497131 neu Hayley 07891 294289
  • E-bost: Rheolwr: h.grist@housingjustice.org.uk, Cydlynydd Wrecsam j.jones@housingjustice.org.uk 
  • Pwy sy’n gymwys: Pobl 18 oed a hŷn; sy’n ddigartref neu dan fygythiad o fynd yn ddigartref; yn gwybod beth yw Citadel ac yn fodlon cael eu hatgyfeirio atom; yn medru sgwrsio yn Saesneg; ddim yn risg uchel (ffoniwch i drafod os nad ydych chi’n siŵr); yn fodlon llofnodi ein cytundeb a chadw ato; yn medru ymwrthod â chyffuriau / alcohol er mwyn derbyn cefnogaeth.

Disgrifiad o’r gwasanaeth

Mae Citadel yn brosiect atal digartrefedd sy’n cefnogi pobl sy’n ddigartref neu dan fygythiad o fynd yn ddigartref i sefydlu neu gynnal tenantiaeth a chreu cartref iddynt eu hunain. Gweithiwn gyda gwirfoddolwyr i gyflawni hyn. Atal, cymorth ailgartrefu brys a chefnogaeth â thenantiaethau.

Y Wallich

Cynllun: Prosiectau St John’s House / Richmond House / Ffordd Rhosddu

  • Rhif ffôn: 01978 355155 
  • Pwy sy’n gymwys: Pobl sengl deunaw oed â hŷn sy’n dod o Fwrdeistref Sirol Wrecsam sy’n ddigartref neu dan fygythiad o fynd yn ddigartref. Gallant hunan atgyfeirio neu gael eu hatgyfeirio trwy ein Porth Cymorth Tai (Cyngor Wrecsam).
  • Faint o le sydd ar y cynllun: 22

Disgrifiad o’r gwasanaeth

Mae gan y gwasanaeth llety â chymorth dros dro 22 o unedau ar dri o safleoedd lle cynigir mynediad at gefnogaeth ar y safle 24 awr y dydd. Mae’r tŷ a rennir ar Ffordd Rhosddu ar gyfer pobl sy’n barod i symud ymlaen o St John’s House neu Richmond House ac yn bwriadu dychwelyd i weithio.

Mae’r tri phrosiect yn darparu cymorth a chyngor ac yn cyfeirio pobl at wasanaethau arbenigol lle bo hynny’n berthnasol, fel gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, meddygon teulu a gwasanaethau iechyd meddwl.

Mae’r prosiect hefyd yn cefnogi pobl i ddatblygu sgiliau byw'n annibynnol a’u helpu i gael mynediad at wasanaethau eraill fel gofal iechyd, hyfforddiant ac addysg.

Mae’r Wallich yn cefnogi unigolion drwy ddefnyddio egwyddorion Gofal sy’n Ystyriol o Drawma ac Amgylchedd sy’n Ystyriol o Gyflwr Seicolegol er mwyn ceisio cyflawni’r canlyniadau gorau i’r rhai hynny sy’n defnyddio’r gwasanaeth.

Bydd y cynllun yn caniatáu i bobl ddod â’u hanifeiliaid anwes lle bo modd, a byddwn yn penderfynu yn ôl rhinweddau pob achos.

Cynllun: Gwasanaeth Datrys Gwrthdaro

  • Rhif ffôn: 01978 357926
  • Pwy sy’n gymwys: 16 oed a hŷn ac yn byw yng ngogledd ddwyrain Cymru. Digartref neu dan fygythiad o fynd yn ddigartref. Gall pobl eu cyfeirio eu hunain at y gwasanaeth.
  • Faint o le sydd ar y cynllun: 5 (Wrecsam)

Disgrifiad o’r gwasanaeth

Gwasanaeth diduedd ac annibynnol a ddarperir gan staff wedi’u hyfforddi a’u hachredu yn Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Chonwy.

Darperir y gwasanaeth yn rhad ac am ddim i bobl sy’n mynd drwy anghydfod nad yw’n gyfreithiol nac yn dreisgar sy’n effeithio ar eu sefyllfa tai.Gallai hyn fod o ganlyniad i deulu’n chwalu, dadl â chymydog neu anghydfod rhwng landlord a thenant.

Mae datrys gwrthdaro’n broses lle mae pobl sy’n anghydweld neu’n anghytuno â’i gilydd yn defnyddio trydydd unigolyn (cyfryngwr) i’w helpu i gyfathrebu a datrys y problemau.

Defnyddir cyfryngu i alluogi pobl i siarad yn effeithiol am faterion a’u helpu i ddod i gytundeb sy’n dderbyniol i bawb.

Cyngor Wrecsam adran tai

Cynllun: Cynllun Cymorth Tai CBSW

  • E-bost: housingsupportgateway@wrexham.gov.uk   
  • Pwy sy’n gymwys: Unigolion diamddiffyn sydd ag angen cefnogaeth er mwyn cael llety neu aros ynddo. Gall cleientiaid eu cyfeirio eu hunain i’r cynllun neu gael eu hatgyfeirio drwy’r Porth gan swyddogion tai, Gweithwyr Cymdeithasol neu weithwyr proffesiynol eraill.
     

Disgrifiad o’r gwasanaeth

Cefnogaeth i bobl ddiamddiffyn yn eu cartrefi eu hunain neu lety dros dro er mwyn eu galluogi i osgoi’r perygl o fynd yn ddigartref drwy gynnig cyngor i sefydlu neu redeg eu cartref.

Cyngor ar gyllid a gosod cyllidebau, hawlio budd-daliadau, talu biliau a phob agwedd ar y denantiaeth. Gellir cynorthwyo pobl i ddefnyddio gwasanaethau eraill a chael cyngor proffesiynol, teimlo’n ddiogel, dod o hyd i waith neu waith gwirfoddol, a theimlo’n rhan o’r gymuned. 

Cynllun: Effaith Prosiect

  • Rhif ffôn: 01978 292069
  • Pwy sy’n gymwys: Deiliaid contractau â CBSW sydd wedi’u hatgyfeirio neu ar fin cael eu hatgyfeirio at y Gwasanaeth Gorfodi Tai, neu bobl ag anghenion mwy cymhleth am gymorth â thai. 
  • Faint o le sydd ar y cynllun: 40
     

Disgrifiad o’r gwasanaeth

Cefnogaeth ddwys yn ôl yr angen i ddeiliaid contractau sydd dan fygythiad o fynd yn ddigartref a hefyd ag anghenion cymhleth.