Mae Parc Gwledig a Phyllau Plwm y Mwynglawdd yn rhoi cipolwg diddorol ar hanes diwydiannol Dyffryn hardd Clywedog. Mae’r Mwynglawdd wedi’i leoli ym mhen draw’r dyffryn ac mae’n fan cychwyn da i fwynhau’r cefn gwlad cyfagos, gan gynnwys Mynydd y Mwynglawdd ar gyfer cerddwyr brwd. Mae Parc Gwledig y Mwynglawdd yn cwmpasu 53 acer o laswelltir, coetir a safleoedd archeolegol ac yn cynnwys amrywiaeth wych o fywyd gwyllt a chyfleoedd diddiwedd i archwilio ardal o hedd a thawelwch. Gall marchogwyr a beicwyr ddefnyddio’r llwybr ar hyd yr hen reilffordd.
Mae Parc Gwledig Dyffryn Moss wedi’i leoli rhwng Gwersyllt a Brynteg, dair milltir i’r gogledd o Wrecsam. Mae gan y dyffryn siâp ‘V’ goetir o goed derw a ffawydd, yn ogystal â dau lyn bach ac ardaloedd o laswelltir agored. Mae’r dyffryn yn gynefin llawn bywyd gwyllt ac mae’n arbennig o nodedig am ei adar.
Mae Parc Gwledig Tŷ Mawr ar lannau Afon Dyfrdwy yn Nyffryn Llangollen, sy’n rhan o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.
Yng Nghymru ceir llawer o wahanol fathau o deuluoedd o wahanol gefndiroedd, diwylliannau, traddodiadau, arferion, swyddogaethau a pherthnasau. Mae plant yn medru cael eu magu mewn nifer o wahanol ffyrdd a chael gofal gan wahanol bobl.