Mae Parc Ponciau yn barc traddodiadol rhwng Ponciau a Rhosllanerchrugog.

Mae gan y parc rwydwaith o lwybrau cerdded tarmac a seddi sy’n edrych allan ar olygfeydd eang dros wastatir Swydd Gaer. Mae’r parc hefyd yn gartref i Glwb Bowlio Parc Ponciau, trac BMX, parc sgrialu, cyrtiau tennis a phêl fasged, bandstand a maes chwarae mawr. 

Ni chaniateir hedfan dronau ym mharciau Wrecsam.

Parcio ceir

Mae yna faes parcio bach di-dâl wrth ymyl y fynedfa uchaf i’r parc (ger Stryd y Bedyddwyr). Mae yna hefyd faes parcio yn is i lawr ger Lôn yr Ysgol/Stryt Clarke.

Cŵn

Mae croeso i gŵn ym Mharc Ponciau ond dylid eu cadw dan reolaeth bob amser. Cofiwch bod methu â chodi baw eich cŵn yn drosedd ddifrifol a gallech wynebu dirwyon.

Cyfeillion Parc Ponciau

Os hoffech ddweud eich dweud am ddatblygiad Parc Ponciau yn y dyfodol, gallech ymuno â grŵp ‘Cyfeillion Parc Ponciau’.

Mae’r grŵp wedi llwyddo i godi arian trwy gynnal dyddiau hwyl cymunedol bob blwyddyn er mwyn gwario ar gyfleusterau a gweithgareddau ar gyfer y parc (fel meinciau ar y lawntiau bowlio).

Gallech ymuno â’r grŵp i helpu gyda:
●    rhedeg stondinau
●    gwneud cacennau
●    gwaith cynnal a chadw ymarferol
●    cynnal digwyddiadau
●    codi arian

Trac BMX

Gosodwyd y trac BMX yn 2006 ac mae’n atyniad poblogaidd. Mae’r trac ar agor i’r cyhoedd drwy gydol y flwyddyn.

Ambell waith yn ystod gwyliau’r haf, mae sesiynau hyfforddi BMX yn cael eu cynnal gan hyfforddwr cymwys. Os oes gan eich plentyn ddiddordeb mewn cymryd rhan, ffoniwch 01978 844028 i weld a oes lle ar gael.

Parc Sgrialu

Mae cyfleoedd cyffrous i sgrialu a reidio i’w cael ar y rampiau sgrialu. Mae cysgodfa ieuenctid wedi’i gosod ger y parc sgrialu hefyd.

Lawntiau Bowlio

Mae dwy lawnt fowlio ar y safle. Mae Clwb Bowlio Parc Ponciau yn chwarae ar y lawntiau yn rheolaidd.Mae’r clwb yn croesawu bowlwyr sy'n newydd i’r gamp neu fowlwyr canolradd neu brofiadol.

Yn ystod y tymor, mae’r tîm yn cystadlu bob yn ail brynhawn Mawrth, ond maent hefyd yn cyfarfod ar brynhawn Mercher a gyda’r nos yn ystod yr wythnos ambell waith.

Mae'r clwb hefyd yn gallu benthyca offer i ddefnyddwyr o’r gymuned.

Gallwch ffonio Swyddog y Parc am ragor o fanylion (manylion cyswllt).

Cyrtiau chwaraeon

Mae dau gwrt chwaraeon ym Mharc Ponciau. Mae un ar gyfer tennis yn unig ac mae’r ail wedi’i farcio ar gyfer tennis a phêl fasged.

Ardaloedd Chwarae Plant

Mae’r ardal chwarae wedi’i chreu ar gyfer plant a phlant bach ac mae ffens o’i hamgylch i atal cŵn rhag dod i mewn.

Mae gan yr ardal chwarae siglenni ar gyfer plant a phlant bach, rowndabowt, reidiau sbring, fframiau dringo, bar troi a sleidiau.

Cylch Meini’r Orsedd

Mae cylch meini'r orsedd yn coffau’r Eisteddfod a gynhaliwyd ar safle’r parc.

Hanes

Roedd mwyngloddio yn digwydd ar raddfa fasnachol yn ardal Ponciau, ond hefyd ar raddfa lai gan deuluoedd lleol yn ystod streic y glowyr yn y 1920au. Pan gapiwyd y mwyngloddiau cafodd y safle ei adael yn dir gwastraff tan y 1930au.

Yn ystod y 1930au daeth gwirfoddolwyr o’r Gymdeithas Heddwch Wirfoddol Ryngwladol (IVSP) o Ewrop i Ponciau i greu parc fel prosiect ar y cyd â’r glowyr a oedd ar streic. Dros y blynyddoedd, creodd gwirfoddolwyr lleol a rhyngwladol lawer o dirwedd y parc a welwn heddiw.

Yn 2009 gwnaethpwyd gwaith ailwampio trwy Gronfa Dreftadaeth Y Loteri i wella llwybrau, gosod goleuadau, cyfleusterau a phlannu, er mwyn adfer y parc i’w ogoniant yn y 1950au.

Cyfeiriad / cyfarwyddiadau

Parc Ponciau,
Stryt y Bedyddwyr,
Ponciau,
Wrecsam
LL14 1RL

Trowch oddi ar yr A483 ar hyd y B5605 i Rhos. Trowch i’r dde wrth y goleuadau traffig ac ewch i fyny Allt y Gwter / Stryt yr Allt. Trowch i’r dde oddi ar Stryt y Frenhines i Stryt Lydan. Trowch i’r dde ar hyd Stryt Pedr a chymerwch yr ail droad i’r dde ar hyd Stryt y Bedyddwyr. Byddwch yn cyrraedd pen uchaf y parc (mae’r maes parcio uchaf fel yr ewch chi i mewn drwy’r fynedfa ar y chwith).

Cysylltwch â ni

Ebost: countryparks@wrexham.gov.uk (dydd Llun i ddydd Gwener)

Ffôn: 01978 822780 (ar benwythnosau)