Mae Parc Brynkinalt yn ardal fawr o goetir cymunedol a man agored anffurfiol ar gyrion Y Waun. Mae gan y parc olygfeydd arbennig dros y Waun tuag at fryniau'r Berwyn a Swydd Amwythig.

Mae llethrau coediog yno gydag ardaloedd helaeth o goed brodorol eu plannu a dolydd blodau gwyllt. Mae’r ardaloedd hyn yn caniatáu i fywyd gwyllt ffynnu a hefyd yn annog aildyfiant naturiol coed yn y priddoedd adferedig.

Mae gan y parc hefyd arteffactau mwyngloddio, wagen lo a disg dorri i ddathlu treftadaeth ddiwydiannol y parc. Cyn cloddio am lo, roedd y tir yn rhan o Fferm Brynkinalt, ac mae cronfa ddŵr wedi’i gorchuddio ar y pwynt uchaf sy’n cyflenwi dŵr i Blas Brynkinalt hyd heddiw.

Ni chaniateir hedfan dronau ym mharciau Wrecsam.

Parcio ceir

Mae maes parcio ger Teras Middleton wrth fynedfa isaf y parc, ac ardal lai ar ben Ffordd Chirk Green, sy’n cysylltu â rhwydwaith o lwybrau cerdded o fewn y parc.

Cŵn

Mae croeso i gŵn ym Mharc Brynkinalt ond dylid eu cadw dan reolaeth bob amser. Cofiwch bod methu â chodi baw eich cŵn yn drosedd ddifrifol a gallech wynebu dirwyon.

Hanes

Mae tir y safle wedi ei adfer ar ôl hen domenni gwastraff o hen fwynglawdd Brynkinalt.

Dechreuwyd cloddio am lo ym Mrynkinalt pan suddwyd y siafft gyntaf yn y 1860au gan Brynkinalt Coal Co. Ltd.  Yn ei anterth yn 1923 roedd y pwll glo yn cyflogi 1,675 o lowyr.

Yn ystod streic 1912, anfonwyd dros 1,000 o filwyr i amddiffyn y pwll rhag glowyr a oedd ar streic o byllau glo cyfagos. Nid oedd Brynkinalt ar streic oherwydd bod gan berchennog y pwll glo berthynas dda gyda'i weithwyr, a oedd eisoes yn mwynhau'r consesiynau yr oedd y glowyr yn gofyn amdanynt. 

Yn 1928 rhoddwyd y gorau i gynhyrchu glo, ond cadwyd Brynkinalt fel siafft awyru ar gyfer pwll glo cyfagos Ifton yn St Martins.

Yn y pen draw caewyd y pwll glo pan roddwyd y gorau i fwyngloddio yn Ifton yn 1968. 

Cysylltwch â ni

Ebost: countryparks@wrexham.gov.uk (dydd Llun i ddydd Gwener)

Ffôn: 01978 822780 (ar benwythnosau)