Mae Parc Gwledig a Phyllau Plwm y Mwynglawdd yn rhoi cipolwg diddorol ar hanes diwydiannol Dyffryn hardd Clywedog. Mae’r Mwynglawdd wedi’i leoli ym mhen draw’r dyffryn ac mae’n fan cychwyn da i fwynhau’r cefn gwlad cyfagos, gan gynnwys Mynydd y Mwynglawdd ar gyfer cerddwyr brwd.

Mae Parc Gwledig y Mwynglawdd yn cwmpasu 53 acer o laswelltir, coetir a safleoedd archeolegol ac yn cynnwys amrywiaeth wych o fywyd gwyllt a chyfleoedd diddiwedd i archwilio ardal o hedd a thawelwch.

Gall marchogwyr a beicwyr ddefnyddio’r llwybr ar hyd yr hen reilffordd. 

Ni chaniateir hedfan dronau ym mharciau Wrecsam.

Parcio ceir

Mae maes parcio gyda digonedd o leoedd parcio.

Cŵn

Mae croeso i gŵn ym Mharc y Mwynglawdd ond dylid eu cadw dan reolaeth bob amser. Cofiwch bod methu â chodi baw eich cŵn yn drosedd ddifrifol a gallech wynebu dirwyon.

Digwyddiadau

Am wybodaeth am ddigwyddiadau a gweithgareddau, ewch i dudalen Facebook Dewch i Ymweld â’r Mwynglawdd neu cysylltwch â Groundwork Gogledd Cymru.

Cyfeiriad / cyfarwyddiadau

Parc Gwledig Pyllau Plwm y Mwynglawdd
Y Mwynglawdd 
Wrecsam 
LL11 3DU

Mae’r Mwynglawdd wedi’i leoli ger pentrefi New Brighton a'r Mwynglawdd a gellir cyrraedd yno o’r A483 trwy ddilyn arwyddion “Clywedog” ar yr A483 ac yna “Pyllau Plwm y Mwynglawdd” ar yr A525.

Cysylltwch â ni

Ebost: countryparks@wrexham.gov.uk (dydd Llun i ddydd Gwener)

Ffôn: 01978 822780 (ar benwythnosau) 

Gallwch hefyd gysylltu â Groundwork Gogledd Cymru am fwy o wybodaeth.