Yng Nghymru ceir llawer o wahanol fathau o deuluoedd o wahanol gefndiroedd, diwylliannau, traddodiadau, arferion, swyddogaethau a pherthnasau. Mae plant yn medru cael eu magu mewn nifer o wahanol ffyrdd a chael gofal gan wahanol bobl.

Mae rhai plant yn byw gyda dau riant, rhai gydag un, rhai gyda rhieni maeth, rhai wedi’u mabwysiadu, ac eraill yn byw gyda gwarcheidwad arbennig. 

Beth mae bod gyda gwarcheidwad arbennig yn ei olygu?

Fel arfer rwyt ti’n byw â’r gwarcheidwaid arbennig drwy’r amser, nhw sy’n gofalu amdanat ac yn gyfrifol amdanat nes byddi di’n oedolyn.

Gall gwarcheidwad arbennig fod yn berthynas neu’n ffrind i’r teulu. Dydi bod â gwarcheidwad arbennig ddim yn rhywbeth newydd – mae o wastad wedi bodoli. Mae aelodau’r teulu a ffrindiau agos wedi dod ymlaen i ofalu am blant pan fo angen. Mae gorchymyn gwarchodaeth arbennig  yn golygu bod gan eich gwarcheidwad arbennig rai hawliau swyddogol.

Mae yno lawer o bethau da am gael gwarcheidwad arbennig. Dyma sydd gan rai pobl gyda gwarcheidwaid arbennig i’w ddweud am eu profiadau:

“Dw i’n cael byw efo rhywun dw i’n eu nabod yn barod, a rhywun dw i’n ymddiried ynddyn nhw. Mae’n golygu mod i wedi gallu aros yn yr un ardal, yn agos at fy ffrindiau. Dw i’n teimlo mod i’n perthyn yn rhywle.”

“Roedden ni i gyd yn mynd i’r un achlysuron fel teulu felly mi ges i weld fy nghefndryd a chyfnitherod a’r teulu drwy’r amser hefyd."

“Mae’n sefyllfa fwy sefydlog, ac yn ôl pob golwg mae’n helpu gyda fy marciau yn yr ysgol!”

Sut y gall rywun ddod yn warcheidwad arbennig i mi?

Nid yw’n bosib dewis unrhyw un i fod yn warcheidwad arbennig i chi – mae yna gamau sy’n rhaid eu cymryd i ddechrau:

1. Mae’n rhaid iddyn nhw fod eisiau bod yn warcheidwad arbennig ac yn fodlon gofalu amdanoch chi!
2. Mae’n rhaid iddynt fod yn oedolyn – dros 18 oed.
3. Mae’n rhaid iddynt gael eu gwirio gan yr awdurdod lleol, i wneud yn siŵr y byddi di’n ddiogel.
4. Mae’n rhaid iddynt lenwi ffurflen i wneud cais i’r Llys Teulu am orchymyn cyfreithiol.

Efallai bod hyn yn ymddangos yn drafferthus, ond mae dy awdurdod lleol yn gyfrifol amdanat ac mae angen iddynt wneud yn siŵr y byddi di’n ddiogel, ble bynnag yr wyt ti’n byw. Fe ddylen nhw siarad â thi a chlywed dy farn.

5. Os ydi dy awdurdod lleol yn fodlon ar y cynllun, byddant yn ysgrifennu adroddiad i roi gwybod i’r llys y bydd y gwarcheidwad arbennig yn gofalu amdanat ac yn gyfrifol amdanat.
6. Os yw’r llys yn cytuno, bydd yn gwneud gorchymyn gwarchodaeth arbennig. Drwy hyn bydd y cyfrifoldeb cyfreithiol amdanat ti’n trosglwyddo i dy warcheidwad arbennig tan fyddi di’n oedolyn. 
7. Mae bod yn warcheidwad arbennig yn gam mawr i rywun ei gymryd. Felly, yng Nghyngor Wrecsam rydym wedi gwneud yn siŵr fod yna lawer o gyngor a chymorth ar gael. 

I gael mwy o wybodaeth, siarada gyda dy weithiwr cymdeithasol neu anfon e-bost at: specialguardianshipsupportteam@wrexham.gov.uk.