Mae Parc Gwledig Tŷ Mawr ar lannau Afon Dyfrdwy yn Nyffryn Llangollen, sy’n rhan o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Sitting underneath the Cefn Viaduct, Tŷ Mawr provides some of the best scenery around.
Enillodd Tŷ Mawr achrediad Gwobr y Faner Werdd am y tro cyntaf yn 2006 ac mae wedi llwyddo i’w gadw byth ers hynny.
Mae yna lawer o anifeiliaid fferm i’w cyfarfod yn Nhŷ Mawr, fel defaid, moch a geifr. Gallwch hyd yn oed fwydo’r ieir a’r hwyaid buarth neu edmygu Carlos a Pedro y lamas, sy'n gwarchod ein defaid rhag llwynogod.
Gallwch fynd am dro o amgylch y parc gan ddilyn y llwybrau, neu eistedd ac ymlacio ar lan yr afon, ac os ydych yn ddigon ffodus efallai y gwelwch eogiaid yn neidio o'r dŵr.
Yn Nhŷ Mawr nid ydym yn defnyddio cemegau na phlaladdwyr ar y tir. Dyna pam fod gennym lawer o rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid gwyllt ac yn yr haf mae ein dolydd gwair traddodiadol yn fôr o liw.
Parcio ceir
Codir tâl ar ymwelwyr y parc am barcio bob dydd.
Y tâl dyddiol yw £1, fodd bynnag gall deiliaid Bathodyn Glas barcio am ddim mewn unrhyw le parcio heb gyfyngiad amser.
Mae’r peiriannau talu ac arddangos wedi’u lleoli mewn mannau cyfleus yn y maes parcio. Dim ond arian parod a dderbynnir fel tâl gan y peiriannau.
Gall ymwelwyr hefyd ddewis talu trwy ddefnyddio system dalu ddi-arian JustPark.
Tocyn tymor
Gellir prynu tocyn tymor ar gyfer parcio ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun, Melin y Nant a Pharc Gwledig Tŷ Mawr am gost o £50 y flwyddyn.
Mae tocynnau tymor ar gael i’w prynu ar-lein trwy ein e-siop.
Cŵn
Mae croeso i gŵn ym Melin y Nant ond mae’n rhaid eu cadw dan reolaeth bob amser ac ar dennyn o fewn yr ardaloedd dynodedig sydd wedi'u harwyddo.
Cofiwch bod methu â chodi baw eich cŵn yn drosedd ddifrifol a gallech wynebu dirwyon. Mae bagiau baw cŵn ar werth yn y ganolfan ymwelwyr.
Digwyddiadau
Cynhelir digwyddiadau ar gyfer oedolion a phlant trwy gydol y flwyddyn yn Nhŷ Mawr. Mae rhestr o’r digwyddiadau a gynhelir yn y parciau gwledig yn ymddangos ar ein cronfa ddata digwyddiadau.
Cysylltwch â ni
Ebost: countryparks@wrexham.gov.uk (dydd Llun i ddydd Gwener)
Ffôn: 01978 822780 (ar benwythnosau)