- Mae’r disg tocyn tymor yn ddilys ym Mharc Gwledig Tŷ Mawr, Canolfan Ymwelwyr Melin y Nant a Pharc Gwledig Dyfroedd Alyn Gwersyllt a meysydd parcio Llai. Nid yw’n ddilys mewn unrhyw feysydd parcio eraill y cyngor.
- Nid oes modd trosglwyddo disgiau tocyn tymor a gyflwynir i ddeiliad. Caiff y disgiau eu cyflwyno i’r rhif cofrestru cerbyd sydd wedi’i nodi ar y cais. Os bydd deiliad y tocyn yn newid cerbyd, dylid anfon y manylion newydd dros e-bost at countryparks@wrexham.gov.uk; yna caiff tocyn newydd ei anfon trwy’r post.
- Ni fydd cerbydau gyda Bathodyn Glas dilys yn ddarostyngedig i gostau ac felly ni fydd angen disg tocyn tymor.
- Mae tocynnau’n ddilys am 12 mis o’r dyddiad cyflwyno.
- Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ("y cyngor") yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am golled neu ddifrod i geir na’u cynnwys wedi'u parcio yn y maes parcio, oni bai fod colled neu ddifrod o'r fath yn cael ei achosi gan esgeulustod y cyngor.
- Nid yw’r cyngor yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw anaf personol i ddeiliad tocyn tymor, nac unrhyw deithiwr gyda deiliad y tocyn tymor neu unrhyw bersonau a awdurdodir gan y perchennog i fynd mewn i'r maes parcio mewn cysylltiad â defnyddio’r tocyn tymor, oni bai fod anaf o'r fath yn cael ei achosi gan esgeulustod y cyngor.
- Dylid gosod y disg tocyn tymor mewn lle amlwg yn ffenestr flaen cerbyd deiliad y disg er mwyn i swyddog awdurdodedig y cyngor ei weld yn hawdd (er mwyn gwirio ei fod yn ddilys a chyfredol mewn perthynas â'r maes parcio.)
- Ni fydd deilydd y tocyn tymor yn achosi neu ganiatáu i’w g/cherbyd gael ei barcio mewn modd sy’n rhwystro mynediad, maes gwasanaeth neu fae, hydrant, is-orsaf neu unrhyw fynedfa neu allanfa o adeiladau sydd ger y maes parcio tra’u bod yn y maes parcio.
- Bydd y disg tocyn tymor a roddwyd i'r deilydd yn aros yn eiddo i'r cyngor a bydd yn cael ei ildio i'r cyngor ar y dyddiad y daw i ben, neu ar benderfyniad cynt am yr hawl i barcio yn y maes parcio a nodir yn y disg tocyn tymor os bydd yn cael ei dynnu yn ôl gan y cyngor am ba reswm bynnag.
- Os bydd deilydd y tocyn tymor yn colli’r disg a gyhoeddwyd iddo/iddo, gellir cael disg newydd am £10 (deg punt). Bydd hyn yn ychwanegol at unrhyw daliadau rhybudd tâl cosb sy'n ddyledus am ei golli.
- Mae'r cyngor yn cadw'r hawl i gau’r maes parcio y mae'r disg tocyn tymor yn ymwneud ag ef ar unrhyw ddiwrnod pan fo angen y maes parcio ar gyfer unrhyw achlysur dinesig neu achlysur arbennig arall, mewn tywydd garw, neu mewn achos o argyfwng cyhoeddus neu pan fo angen gwaith atgyweirio a chynnal a chadw yn y maes parcio ei hun neu i unrhyw adeiladau neu gyfleusterau cyfagos.
- Mae'r cyngor yn cadw'r hawl i derfynu'r hawl i barcio a roddir gan y tocyn tymor. Ni fydd y cyngor yn gwneud unrhyw ad-daliadau os bydd y gostyngiad tocyn tymor yn dod i ben neu os na fydd y deilydd angen y tocyn ddim mwy.
- Mae’r cyngor yn cadw'r hawl i gyflwyno rhybudd tâl cosb mewn unrhyw achos os:
a) Nad oes disg tocyn tymor wedi’i arddangos
b) Os ydi’r cerbyd wedi ei barcio’n anghywir
c) Os na chaniateir y math o gerbyd yn yr ardal honno
d) Os yw trelar y cerbyd wedi’i adael neu’n cael ei ddefnyddio yn y lle parcio heb docyn.
e) Os oes unrhyw doriad arall o orchymyn (man parcio oddi ar y stryd) Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â sut rydym ni (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) yn ymdrin â data personol, darllenwch ein hysbysiadau preifatrwydd ar ein gwefan.