Rhwng Rhos a Johnstown mae Parc Stryt Las lle ceir ardaloedd o laswelltir, coetir a phyllau. Mae llwybrau cerdded o amgylch y parc yn caniatáu i chi archwilio’r ardal, lle gallwch chwilio am y cerflun anferth o fadfall a gwylio adar y dŵr.

Mae brogaod, llyffantod, madfallod llyfn a madfallod palfog i gyd yn byw yn y parc, ond mae poblogaeth y Fadfall Ddŵr Gribog wedi rhoi statws arbennig i’r safle. Mae'r Fadfall Ddŵr Gribog yn brin ar draws ei chynefin naturiol yng Ngogledd Ewrop, fodd bynnag mae’r ardaloedd isel o amgylch Wrecsam yn gadarnle i’r amffibiad hwn. 

Mae gan Barc Stryd Las statws Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac mae’n rhan o Ardal Cadwraeth Arbennig Johnstown (ynghyd â Pharc Gwledig Bonc yr Hafod) oherwydd y Madfallod Dŵr Cribog.

Ni chaniateir hedfan dronau ym mharciau Wrecsam.

Parcio ceir

Mae yna hefyd faes parcio bach yng Nghwm Glas / Stryt y Parc

Cŵn

Mae croeso i gŵn ym Mharc Stryt Las ond dylid eu cadw dan reolaeth bob amser. Cofiwch bod methu â chodi baw eich cŵn yn drosedd ddifrifol a gallech wynebu dirwyon.

Cyfeiriad / cyfarwyddiadau

Parc Stryt Las 
Cwm Glas / Stryt y Parc
Johnstown
LL14 2AB
Wrecsam

Mae Stryt Las ar y B5605 rhwng Rhos a Johnstown, ychydig funudau o ffordd osgoi Wrecsam yr A483 a gellid cyrraedd yno’n hawdd o ganol tref Wrecsam. Mae maes parcio bach ar Ffordd Cwm Glas.

Cysylltwch â ni

Ebost: countryparks@wrexham.gov.uk (dydd Llun i ddydd Gwener)

Ffôn: 01978 822780 (ar benwythnosau)