Os ydych chi’n adnewyddu neu’n atgyweirio’ch eiddo neu’n trosi annedd sengl mae’n bosib y bydd arnoch angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu a/neu ganiatâd cynllunio.
Rheoli adeiladu
Os ydych chi’n gwneud unrhyw waith adeiladu, ac eithrio mân atgyweiriadau/gwelliannau, bydd arnoch angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu yn ôl pob tebyg. Mae’r rheoliadau adeiladu’n ofynion cyfreithiol sydd â’r nod o sicrhau bod adeiladau domestig a masnachol yn bodloni safonau gofynnol.
Fe gewch chi fwy o wybodaeth ar ein tudalen rheoli adeiladu.
Cynllunio
Mae’n debygol y bydd arnoch angen caniatâd cynllunio ar gyfer y mathau canlynol o waith:
- Newid defnydd annedd (gan gynnwys trosi i fflatiau neu dŷ amlfeddiannaeth)
- Rhoi estyniad ar eiddo presennol neu godi adeilad newydd.
Efallai y bydd arnoch angen cael caniatâd ar gyfer darnau bach eraill o waith mewn ardaloedd sy’n destun mwy o reolau (fel ardal gadwraeth, er enghraifft). Mae croeso ichi gysylltu â’n Hadran Gynllunio i gael cyngor cyn dechrau unrhyw waith ar eich eiddo.