O dan y Ddeddf Tai 2004 mae gennym ni (fel awdurdod lleol) ddyletswydd i sicrhau bod safonau tai ledled y sir yn cwrdd â lefelau derbyniol. 

Gallwn wneud hyn drwy ddefnyddio’r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai i gynnal asesiad risg ar yr eiddo a fydd yn nodi os oes unrhyw beryglon yn bresennol. 

Beth yw’r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS)?

Mae’r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai yn offeryn gwerthuso yn seiliedig ar risg a ddefnyddir gan awdurdodau lleol i asesu addasrwydd anheddau preswyl i’w meddiannu. 

Nod y system yw caniatáu i eiddo gael ei asesu i weld a oes yno risgiau neu beryglon posibl i iechyd a diogelwch. O’r asesiad hwn, gallwn bennu pa mor ddiogel yw’r eiddo ar gyfer y deiliaid ac unrhyw ymwelwyr. 

Dyma’r sail ar gyfer pennu a ddylid gwneud gwaith i wella’r eiddo er mwyn sicrhau nad oes peryglon diangen ac y gellir eu hosgoi yn bresennol.

Pa fath o beryglon sy’n cael eu cynnwys o fewn y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai?

Mae’r system yn asesu 29 categori o beryglon yn y cartref a allai effeithio ar iechyd a diogelwch, yn cynnwys problemau gyda: 

  • tamprwydd a llwydni
  • gorlenwi 
  • gormod o sŵn 
  • oerfel neu wres gormodol 
  • goleuadau gwael
  • diogelwch yr eiddo 
  • asbestos neu nwyon peryglus 
  • gosodiadau trydanol peryglus 
  • diogelwch tân a ffordd o ddianc 
  • peryglon a allai achosi rhywun i faglu, llithro neu ddisgyn 
  • diogelwch strwythur yr eiddo 

Sut y caiff peryglon eu graddio yn defnyddio’r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai?

Mae’r System yn rhoi sgôr i unrhyw berygl a nodir gan arolygydd. Mae gan bob perygl bwysoliad er mwyn helpu i’w sgorio a phennu a ddylid ei gynnwys yng ‘nghategori 1’ (perygl) neu yng ‘nghategori 2’ (arall).

Mae’r sgôr a roddir i beryglon yn seiliedig ar y ddwy elfen ganlynol: 

  • y tebygolrwydd o niwed yn digwydd yn ystod y flwyddyn ganlynol o ganlyniad i’r perygl 
  • difrifoldeb tebygol y niwed hwnnw i ddeiliaid yr eiddo petai’n digwydd

Mae perygl yn fwy tebygol o gael ei gynnwys yng nghategori 1 os yw’r canlynol yn berthnasol: 

  • mae damwain neu niwed yn debygol iawn o ddigwydd
  • byddai’r canlyniad yn debygol o fod yn ddifrifol iawn, yn enwedig ar gyfer pobl a fyddai mewn perygl ychwanegol o niwed (megis pobl hŷn neu blant) 

Beth all ddigwydd os ddaw peryglon i’r amlwg?

Peryglon Categori 1

Os daw perygl categori 1 i’r amlwg, mae’n ddyletswydd arnom ni (fel awdurdod lleol) i weithredu i leihau’r risg i ddeiliad neu ddeiliaid posibl. 

Gall y cam gweithredu hwn fod yn gam anffurfiol i ddechrau, drwy geisio gweithio gyda’r landlord a gofyn iddo wneud yr eiddo’n ddiogel. 

Os yw’r landlord yn gwrthod gwneud yr eiddo’n ddiogel, yna fe allwn gymryd camau ffurfiol i sicrhau bod yr atgyweiriadau yn cael eu gwneud, gellir gwneud hyn drwy: 

  • roi hysbysiad ymwybyddiaeth o berygl i’ch landlord
  • rhoi hysbysiad gwella i’ch landlord
  • cymryd camau brys 
  • ymgymryd â gwaith yn ddiofyn

Os nad oes ffordd ymarferol o leihau risgiau i lefel dderbyniol, mae’n bosib y bydd yn rhaid i ni ystyried gwneud gorchymyn gwahardd, neu gam gweithredu arall os oes angen. 

Byddai tenantiaid yn cael copi o unrhyw rybudd neu orchymyn a gyflwynir mewn perthynas â’r eiddo. 

Efallai y bydd rhai mathau o beryglon na ellir eu trwsio yn hawdd, ond byddai modd lleihau’r risg o ddioddef niwed drwy ddull arall yn y cyfamser (er enghraifft pan fo grisiau serth yn cael eu nodi fel perygl, byddai modd lleihau’r risg o syrthio drwy sicrhau bod y rheilen wedi’i gosod yn y lle cywir).  

Peryglon Categori 2 

Os daw perygl categori 2 i’r amlwg, mae gennym ni (fel awdurdod lleol) y pwerau disgresiwn i weithredu. 

Safonau tai amlfeddiannaeth

Yn ogystal â bodloni’r safonau tai a asesir yn y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai, mae’n rhaid i Dai Amlfeddiannaeth sydd angen trwydded fodloni safonau ychwanegol. Mae hyn yn cynnwys safonau ar gyfer gofod, gwresogi, cyfleusterau golchi a diogelwch.

Cysylltu â ni i ofyn am asesiad System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai

Mae’r rhan fwyaf o landlordiaid preifat yn gwneud gwaith trwsio unwaith y maent yn ymwybodol ohono. Fodd bynnag os nad yw eich landlord chi wedi gwneud y gwaith ymhen cyfnod rhesymol o amser, dylech gysylltu â ni i ofyn am asesiad System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai.

Gallwch wneud cais am archwiliad drwy anfon e-bost at healthandhousing@wrexham.gov.uk (os yw eich ymholiad yn un brys, gallwch ffonio 01978 292040). Os ydych yn gwneud cais, a fyddech cystal â darparu gymaint o wybodaeth â phosibl am y broblem os gwelwch yn dda.