Os ydych chi’n trin eich tenantiaid yn dda maent yn fwy tebygol o’ch parchu chi a gofalu am yr eiddo. Maent hefyd yn fwy tebygol o fod eisiau aros yn yr eiddo, sy’n lleihau’r perygl o fod ag eiddo gwag a cholli incwm.

Gofalu am yr eiddo

Mae cynnal a chadw’ch eiddo o fudd i’r tenantiaid presennol a bydd hefyd yn helpu i ddenu tenantiaid newydd os bydd arnoch angen gosod yr eiddo eto yn y dyfodol.

Gallwch gadw’ch eiddo mewn cyflwr da drwy:

  • wneud gwaith trwsio’n rhesymol o brydlon, gan gynnwys ffitiadau ac eitemau sy’n gwneud yr eiddo’n lle braf i fyw 
  • prynu dodrefn graenus a fydd yn para’n dda (os ydych chi’n darparu dodrefn yn yr eiddo) 
  • adnewyddu’r eiddo yn ystod y denantiaeth yn hytrach nag aros tan mae’r tenant yn gadael. 

Gwnewch unrhyw waith trwsio sydd ei angen cyn gynted â phosib.

Cofiwch y bydd yr eiddo’n dal yn eich meddiant am amser maith wedi i’r tenant symud allan, felly mae arnoch angen sicrhau y gofalir amdano. Mae oedi sy’n ymddangos yn ddiangen, yn ogystal â phroblemau mynych gyda gwaith plymio neu drydan, yn medru peri rhwystredigaeth i denantiaid ac arwain at ddiffyg ymddiriedaeth.

Dewiswch gwmni’r ydych yn ymddiried ynddynt a rhowch wybod fod angen iddynt roi rhybudd i’r tenant o’r angen i gael mynediad i wneud gwaith trwsio. Peidiwch byth â rhoi allwedd i gontractwr adael ei hun i mewn i’r eiddo, oni bai fod y tenant yn rhoi caniatâd i hynny ddigwydd gyda phob darn o waith.

Dylech ystyried llunio amserlen cynnal a chadw i’w dilyn gydol y denantiaeth.

Bod yn broffesiynol

Mae’n bwysig ichi fod yn gyson gwrtais a phroffesiynol wrth ddelio â’ch tenant – hyd yn oed os nad ydynt hwythau’n ymddwyn felly.

Mae gan eich tenant yr hawl i fwynhau’r eiddo mewn tawelwch, felly ni ddylech ymweld ond pan mae’n angenrheidiol (fel gwaith trwsio neu gynnal a chadw, er enghraifft). Cofiwch, os ydych chi’n bwriadu mynd i mewn i’r eiddo mae’n ofynnol ichi roi rhybudd rhesymol i’ch tenant o flaen llaw – 24 awr fel rheol. Os na rowch chi ddigon o rybudd, neu os byddwch yn ymweld yn rhy aml, gallai’ch tenantiaid deimlo eich bod yn aflonyddu arnynt.

Parchwch amser eich tenantiaid a pheidiwch â disgwyl iddynt aros yn yr eiddo yn ystod y dydd i adael contractwyr i mewn.

Cynyddu’r rhent

Wrth bennu swm y rhent dylech ystyried y rhent a godir am eiddo tebyg yn yr ardal (gallai ymchwilio i rent y farchnad fod o fudd ichi). Mae’n rhaid bod unrhyw gynnydd yn y rhent yn deg ac yn realistig.

Gydag unrhyw fath o gytundeb tenantiaeth mae’n rhaid hefyd ichi gael caniatâd y tenant os dymunwch gynyddu’r rhent yn fwy na’r hyn a gytunwyd eisoes.

Tenantiaethau cyfnod penodol

Os yw’r denantiaeth yn para am gyfnod penodol o chwe mis neu fwy, dylai’r cytundeb ddatgan y bydd y rhent naill ai:

  • wedi’i bennu’n derfynol ar gyfer y cyfnod cyfan, neu
  • yn cael ei adolygu’n rheolaidd – dylid cynnwys gwybodaeth am sut wneir yr adolygiad

Os yw’r cytundeb yn seiliedig ar denantiaeth flynyddol, mae’n rhaid ichi roi chwe mis o rybudd i’r tenant.

Ni allwch gynyddu’r rhent ar gyfer tenantiaeth cyfnod penodol ond os yw’r tenant yn cytuno. Os nad yw’n cytuno ni ellir cynyddu’r rhent ond pan ddaw’r cyfnod penodol i ben.

Tenantiaethau cyfnodol

Os yw’r denantiaeth yn un gyfnodol (ar sail cytundeb treigl o un wythnos neu fis i’r llall) dylai’r cytundeb nodi mor aml yr adolygir y rhent. Mae’n rhaid ichi roi o leiaf mis o rybudd i’r tenant o gynnydd yn y rhent os ydynt yn talu bob wythnos neu bob mis.

Gallwch chi a’r tenant ddod i gytundeb ar gynnydd yn y rhent ar gyfer tenantiaeth gyfnodol ar unrhyw adeg, a dylid cadarnhau’r cynnydd yn ysgrifenedig.

Dylech gynnwys cymal yn y cytundeb i’ch galluogi i gynyddu’r rhent bob blwyddyn. Fel arfer ni allwch gynyddu’r rhent fwy nag unwaith y flwyddyn heb fod y tenant yn cytuno i hynny.

Datrys problemau rhent

Dylid mynd i’r afael ag unrhyw broblemau gyda’r rhent cyn gynted â phosib. Dylai’ch cytundeb nodi fod y rhent yn daladwy’n rheolaidd ar ddiwrnod penodol o’r wythnos, y mis neu’r flwyddyn.

Os methir taliad dylech gysylltu â’r tenant ar unwaith a gofyn am yr arian. Os oes ôl-ddyledion rhent sylweddol mae’r gyfraith yn eich galluogi i gael eich eiddo’n ôl cyn belled â’ch bod yn dilyn y gweithdrefnau priodol.

Cadw cofnodion cywir

Cadwch gofnod manwl o unrhyw drafodion ariannol a chyfreithiol gyda’ch tenant, yn ogystal â gohebiaeth ffurfiol ac anffurfiol. Mae’n bwysig ichi fedru olrhain hanes unrhyw faterion cynnal a chadw’r ydych wedi ymdrin â hwy, yn ogystal ag unrhyw rybuddion neu geisiadau’r ydych wedi’u cyflwyno, rhag ofn y bydd angen ichi gyfeirio atynt yn y dyfodol.

Cadwch gopi o bob e-bost a llythyr rhyngoch chi a’ch tenant ac ysgrifennwch ddyddiadau a manylion unrhyw sgyrsiau a gewch chi dros y ffôn.

Parhau â thenantiaeth

Os ydych chi a’r tenant yn fodlon, efallai y byddwch yn cytuno i barhau â’r denantiaeth. Gan ddibynnu ar y math o gytundeb sydd gennych, dylai’r denantiaeth barhau heb ichi orfod gwneud dim, ond mewn achosion eraill mae’n bosib y byddai’n well gennych lunio cytundeb o’r newydd.

Bydd tenantiaeth gyfnodol yn parhau hyd nes eich bod chi neu’r tenant yn dod â hi i ben.

Bydd tenantiaeth sicr am gyfnod penodol (anfyrddaliadol) yn parhau ar ôl y dyddiad terfyn, ac ni allwch ddod â hi i ben ond am resymau penodol.

Mae’r rhan helaeth o denantiaethau yn y sector rhentu preifat yn dechrau fel tenantiaethau sicr am gyfnod penodol.

Pan ddaw cyfnod penodol tenantiaeth fyrddaliadol sicr i ben a’ch bod yn dymuno parhau â’r denantiaeth, y rhain yw eich dewisiadau:

  • dod i gytundeb â’r tenant ar denantiaeth fyrddaliadol am gyfnod penodol o’r newydd
  • cytuno i denantiaeth fyrddaliadol sicr newydd ar sail gyfnodol, sy’n cael ei galw’n denantiaeth gyfnodol dan gontract
  • gwneud dim a gadael i’r denantiaeth fyrddaliadol sicr barhau ar yr un telerau fel tenantiaeth gyfnodol statudol