Marchnata/hysbysebu eiddo

Hysbysebu’r eiddo eich hun

Fe allech chi hysbysebu’r eiddo ar-lein, neu ofyn a gewch chi roi arwydd ar hysbysfwrdd yn ffenestr siop leol neu’r llyfrgell. Efallai y bydd arnoch eisiau hysbysebu yn y papur lleol hefyd.

Os ydych chi’n targedu marchnad benodol mae arnoch angen sicrhau eich bod yn hysbysebu’r eiddo yn y ffordd fwyaf addas i ddod o hyd i ddarpar denantiaid (er enghraifft, gallech farchnata’r llety i fyfyrwyr drwy roi hysbyseb yn rhestri eiddo’r brifysgol).

Nodwch swm y rhent a maint yr eiddo yn eich hysbyseb er mwyn annog y darpar denantiaid mwyaf addas i ddod i’w weld.

Defnyddio asiant gosod tai i hysbysebu’r eiddo

Mae rhai landlordiaid yn defnyddio asiantau rheoli sy’n medru hysbysebu’r eiddo a dod o hyd i ddarpar denantiaid, yn ogystal â rheoli’r tenantiaethau wedi hynny. Os ydych chi’n ‘hunan-reoli’, fodd bynnag, gallech ddewis defnyddio asiant dim ond i farchnata’r eiddo.

Pennu’r rhent

Wrth bennu swm y rhent dylech ystyried y rhent a godir am eiddo tebyg yn yr ardal (gallai ymchwilio i rent y farchnad fod o fudd ichi). 

Os ydych chi’n codi llawer mwy o rent na landlordiaid eraill mae’n annhebygol y cewch chi lawer o bobl yn dangos diddordeb. Os yw’ch rhent yn uwch gan ei fod yn cynnwys costau nad ydynt bob amser yn rhan o’r rhent (fel costau gwresogi, Treth y Cyngor neu fand eang) dylech wneud hynny’n amlwg yn yr hysbyseb.

Byddwch yn hyblyg gyda’r rhent a meddyliwch am ostwng y pris, yn enwedig os ydych chi’n ffyddiog y bydd y darpar denantiaid yn gofalu am yr eiddo. Gallai gostwng y rhent ryw ychydig ddod â mwy o incwm ichi na gadael yr eiddo’n wag am ychydig fisoedd cyn ei osod. 

Paratoi i bobl ddod i weld yr eiddo

Sicrhewch fod golwg cystal â phosib ar yr eiddo cyn i rywun ddod i’w weld. Gallai hynny gynnwys pethau fel ail-baentio rhai darnau os oes angen, neu dorri’r gwair, yn ogystal â thwtio a glanhau. 

Byddwch yn barod i roi gwybodaeth am yr ardal leol – efallai y dymunwch amlygu manteision penodol (bod yn agos at ysgolion/siopau, er enghraifft, neu fod y lle’n dawel). 

Byddwch yn onest wrth ateb unrhyw gwestiynau gan ddarpar denantiaid pan fyddant yn dod i weld yr eiddo. Os yw’r tenant yn gwybod popeth cyn llofnodi cytundeb tenantiaeth maent yn llai tebygol o gael eu siomi’n ddiweddarach.

Hysbysu tenantiaid presennol

Efallai fod yno denantiaid yn eich eiddo’n barod (er enghraifft, os yw’r denantiaeth gyfredol yn dod i ben yn fuan a’ch bod yn chwilio am y tenant nesaf er mwyn osgoi cael yr eiddo’n wag yn rhy hir).

Sicrhewch fod unrhyw denantiaid presennol wedi cytuno ichi gael mynediad i ddod â darpar denantiaid i weld y lle. Rhowch o leiaf 24 awr o rybudd yn ysgrifenedig (hwn yw’r isafswm, ac yn ddelfrydol dylech roi rhybudd o’ch cais i gael mynediad cyn gynted â phosib).

Cofiwch y bydd arnynt angen amser i dacluso a rhoi pethau o’r neilltu. Efallai y byddant hefyd yn dymuno trefnu amserau/dyddiadau gwahanol i bobl ddod i weld yr eiddo.

Cael geirdaon gan denantiaid

Mae gwirio hanes ariannol darpar denantiaid a chael geirdaon cyn iddynt symud i mewn yn medru helpu i osgoi trafferthion fel mynd ar ei hôl hi gyda’r rhent. Mae gofyn am eirdaon gan landlordiaid a chyn-landlordiaid hefyd yn medru rhoi syniad ichi a fyddant yn denantiaid da.

Os penderfynwch fod arnoch eisiau gwirio credyd unrhyw ddarpar denant bydd arnoch angen eu caniatâd yn gyntaf.