Hawliau landlordiaid

Hawl i gael mynediad

Fel landlord gallwch fynd i mewn i’r eiddo i wneud gwaith trwsio’r ydych yn gyfrifol amdano, o fewn rheswm.

Ni allwch arfer yr hawl hon, fodd bynnag, ond os ydych wedi gofyn am gael mynediad drwy roi o leiaf 24 o rybudd yn ysgrifenedig i’r tenant gan nodi diben yr ymweliad, oni bai fod y tenant yn cytuno fel arall. Nid yw'r amodau hyn ond yn berthnasol lle mae’r tenant neu’r tenantiaid (os yw’n gyd-denantiaeth) â meddiant llwyr-gyfyngedig.

Rhaid hefyd bod unrhyw ymweliadau’n digwydd ar adegau rhesymol o’r dydd i’r tenant a pheidio â bod yn ymwthiol, neu fel arall gallent gyfrif fel aflonyddu.

Gallwch gael mynediad i fannau cyhoeddus yn yr adeilad sydd dan eich rheolaeth ar unrhyw adeg resymol ond dylech roi digon o rybudd i’ch tenant ac esbonio pam rydych chi’n dod yno (er enghraifft, i gynnal prawf rheolaidd ar y system larwm tân).

Argyfyngau

Er bod achlysuron fel hyn yn brin, gallai fod amser pan mae mater brys yn golygu bod yn rhaid ichi fynd i mewn i’r eiddo heb ddilyn y weithdrefn arferol (ar amser afresymol/heb rybudd ysgrifenedig). Ni ddylai hyn ond digwydd mewn argyfwng lle mae angen rhoi sylw brys i’r mater a bod y tenant neu’r eiddo dan fygythiad.

Mae cyrff statudol hefyd yn medru mynd i mewn o dan amgylchiadau priodol (gan gynnwys y Grid Cenedlaethol, cwmnïau nwy a dŵr, neu’r heddlu).  

Anhawster cael mynediad

Mae gan denantiaid hawl i fwynhau eu llety mewn tawelwch. Hyd yn oed os rhowch chi rybudd priodol o’r ymweliad gallai’r tenant wrthod rhoi mynediad o dan y gyfraith. Os yw’r tenant yn gwrthod rhoi mynediad dylech geisio datrys y mater eich hun cyn mynd i gyfraith. Gallech wneud hynny drwy gynnig newid amser/dyddiad yr ymweliad. 

Os ydych chi’n cael trafferth mynd i mewn i’r eiddo ar gyfer ymweliad rheolaidd, cynnal a chadw neu mewn argyfwng dylech geisio cyngor cyfreithiol a/neu gysylltu â’n tîm Iechyd yr Amgylchedd

Ni ddylech ystyried cymryd camau cyfreithiol i gael mynediad i’r eiddo ond os yw’r tenant yn cyfyngu ar eich gallu i gyflawni eich rhwymedigaethau cyfreithiol fel landlord oherwydd eu bod:

  • yn gwrthod gwneud trefniadau gwahanol
  • yn achosi oedi’n gyson

Os ewch chi i mewn i’r eiddo heb ganiatâd y tenant neu'n groes i’w dymuniadau mae’n rhaid ichi fedru dangos, os cewch eich herio, ei bod yn rhesymol ichi fynd i mewn o dan yr amgylchiadau.

Niwsans ac ymddygiad gwrthgymdeithasol

Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn golygu unrhyw ymddygiad sy’n aflonyddu ar un neu fwy o bobl nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd, eu dychryn neu beri gofid iddynt, neu sy’n debygol o wneud. Mae hynny’n cynnwys pethau fel sŵn, trais, camdriniaeth, bygythiadau a defnyddio eiddo ar gyfer ymwneud â chyffuriau anghyfreithlon. 

Un o’r amodau safonol i Dai Amlfeddiannaeth sydd angen trwydded gennym ni (yr awdurdod lleol) yw bod yn rhaid i ymddygiad y tenantiaid beidio ag amharu ar gymdogion ac eiddo gerllaw.

Os ydych chi, ein tîm Iechyd yr Amgylchedd neu’r heddlu’n tybio fod ymddygiad gwrthgymdeithasol yn digwydd yn eich eiddo, efallai y bydd angen ichi weithio gyda ni a/neu’r heddlu er mwyn datrys y mater. Mae gennych hawl i geisio cymorth i ymdrin â materion sy’n effeithio ar eich eiddo os oes rhaid.

Niwsans sŵn

Os oes sŵn yn dod o’r eiddo dylech gysylltu â’n tîm Iechyd yr Amgylchedd i weld a oes modd cymryd camau gorfodi yn erbyn y tenant dan sylw.

Cyfrifoldebau landlordiaid

Fel landlord preifat mae gennych gyfrifoldebau penodol o dan y gyfraith ac mae’n rhaid ichi gyflawni’r rheiny (rydych yn dal yn gyfrifol am gydymffurfio â’r gyfraith hyd yn oed os oes gennych asiant i reoli’r eiddo ar eich rhan).

Cofrestru a thrwyddedu gyda Rhentu Doeth Cymru

Os ydych chi’n landlord ag eiddo yng Nghymru mae’n ofynnol o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 eich bod yn cofrestru â Rhentu Doeth Cymru. Mae arnoch hefyd angen trwydded eich hun os ydych chi’n landlord sy’n ‘hunan-reoli’ neu fel arall bydd arnoch angen defnyddio asiant trwyddedig.

Mae gan landlordiaid ac asiantau trwyddedig ddyletswydd i gydymffurfio â Chod Ymarfer fel rhan o amodau eu trwyddedau.

Diogelu blaendaliadau tenantiaeth

Os ydych chi’n gofyn i’ch tenant dalu blaendal bydd angen diogelu’r blaendal hwnnw drwy gynllun dan nawdd y llywodraeth.

Cael mynediad i eiddo

Mae Adran 11 o Ddeddf Landlord a Thenant 1985 yn pennu hawliau landlord i gael mynediad i eiddo lle mae ganddynt gyfrifoldebau perthnasol i gynnal a chadw. O dan y ddeddfwriaeth hon mae gan landlordiaid (neu bobl y maent yn eu hawdurdodi) yr hawl i gael mynediad i eiddo at y diben o gael golwg ar gyflwr yr eiddo.

Ni ellir cael mynediad ond ar adegau rhesymol o’r dydd ac mae’n rhaid ichi roi o leiaf 24 awr o rybudd yn ysgrifenedig i’r tenant.

Os yw’r tenant yn gwrthod rhoi mynediad ichi wneud gwaith trwsio yna ni fyddant yn medru cwyno am yr eiddo na hawlio unrhyw iawndal am gyflwr gwael, neu unrhyw niwed personol y mae’r cyflwr gwael yn ei achosi.

Os yw methiant y tenant i ganiatáu mynediad ichi wneud gwaith trwsio’n arwain at ddirywiad pellach neu ddifrod i’r eiddo, gallent fod yn atebol am hynny (a fyddai’n rhoi’r hawl ichi ddidynnu unrhyw gostau ychwanegol o’u blaendal).

Os pennir amser anghyfleus ar gyfer rhyw apwyntiad penodol, bydd disgwyl i’r tenant gytuno i drefnu apwyntiad ar adeg arall. Os yw’r tenant yn gwrthod caniatáu mynediad yn llwyr yna dylech geisio cyngor cyfreithiol.

Yn gyffredinol dylech ochel rhag mynd i mewn i’r eiddo pan nad yw’r tenant gartref. Os yw’r tenant wedi rhoi caniatâd ond wedi dweud na fyddant gartref eu hunain, argymhellir fod yno dyst yn bresennol gyda chi neu’r asiant.

Tai Amlfeddiannaeth

Os ydych yn landlord ar dŷ amlfeddiannaeth mae’n debygol bod gennych gyfrifoldebau rheoli ychwanegol y mae angen ichi eu cyflawni.

Fe gewch chi gyngor ar ein tudalen trwyddedu a rheoli tai amlfeddiannaeth.

Amodau tai

Mae Deddf Tai 2004 yn rhoi dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i adnabod peryglon ac asesu risgiau yng nghyswllt iechyd a diogelwch tenantiaid. Mae’n ofynnol i awdurdodau lleol ddefnyddio system o’r enw’r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai er mwyn adnabod risgiau a’u hasesu.

Er nad oes rhwymedigaeth gyfreithiol gyffredinol yn hyn o beth, dylai landlordiaid adnabod unrhyw beryglon i iechyd a diogelwch yn eu heiddo ac asesu eu risgiau, a chymryd camau adferol lle bo angen.

O dan adran 4 o Ddeddf Mangreoedd Diffygiol 1972 mae gennych ddyletswydd gofal yng nghyswllt unrhyw unigolion y gallai diffygion effeithio arnynt ‘i gymryd unrhyw ofal rhesymol o dan yr hol amgylchiadau i weld a ydynt yn rhesymol ddiogel rhag niwed personol neu ddifrod i’w heiddo wedi’i achosi gan ddiffyg penodol’. Yn yr achos hwn mae’r fangre’n cynnwys popeth sy’n cael ei rentu, gan gynnwys gerddi, patios a waliau yn ogystal â mannau cyffredin mewn stad neu adeiladau amlfeddiannaeth (gan gynnwys lifftiau, tyllau sbwriel, grisiau a choridorau).

Gwaith trwsio a chynnal a chadw

Os oes gan eich tenant gytundeb tenantiaeth ar sail prydles fer (llai na saith blynedd) yna rydych yn gyfrifol am gadw’r pethau canlynol mewn cyflwr da:

  • strwythur yr annedd a’i thu allan
  • gosodiadau ar gyfer cyflenwi dŵr, nwy, trydan a glanweithdra
  • gosodiadau ar gyfer gwresogi ystafelloedd a chynhesu dŵr 
  • mannau cyffredin a gosodiadau sy’n gysylltiedig â’r annedd (gweler adran 11 fel y’i diwygiwyd), lle mae’r rheiny dan reolaeth y landlord

Diogelwch nwy

Mae’n rhaid i chi fel landlord sicrhau bod y cyflenwad nwy a’r offer nwy a ddarperir yn eich eiddo: 

  • mewn cyflwr diogel
  • wedi’u gosod neu’u trwsio gan beiriannydd wedi cofrestru â Gas Safe.

Mae’n ofynnol yn ôl y rheoliadau eich bod yn sicrhau y caiff yr holl offer nwy ei gynnal a chadw’n foddhaol a bod peiriannydd nwy cofrestredig yn cynnal gwiriad diogelwch bob deuddeg mis o leiaf. Mae’n rhaid ichi hefyd ddarparu copi o’r cofnod diogelwch nwy i unrhyw denant newydd pan symudant i mewn, ac i denant(iaid) presennol mewn 28 diwrnod ar ôl gwiriad diogelwch.

Diogelwch trydanol

Fel landlord mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i chi sicrhau:

  • bod y gosodiadau trydanol yn yr eiddo (gan gynnwys socedi a ffitiadau) yn ddiogel pan mae tenantiaeth yn dechrau
  • y cedwir y gosodiadau trydanol mewn cyflwr diogel gydol unrhyw denantiaeth
  • bod unrhyw offer a ddarperir yn ddiogel a bod arno o leiaf farc CE (fel hyn y mae’r gwneuthurwr yn dangos ei fod yn cydymffurfio â holl ofynion cyfraith Ewrop)
  • bod unigolyn â chymwysterau addas yn cynnal prawf o bryd i’w gilydd, ac o leiaf bob pum mlynedd, os yw’r eiddo’n Dŷ Amlfeddiannaeth, a’ch bod yn cael tystysgrif i ddangos canlyniadau’r prawf. 

Diogelwch tân

Mae’ch cyfrifoldebau fel landlord ynghylch diogelwch tân yn golygu bod yn rhaid i chi:

  • ddarparu larwm mwg ar bob llawr a larwm carbon monocsid ymhob ystafell sydd ag offer llosgi tanwydd solet (fel tân glo neu stôf losgi pren)
  • gwirio bod eich tenantiaid yn medru mynd at yr allanfeydd argyfwng ar bob adeg
  • darparu larymau tân a diffoddyddion a’u cynnal a chadw’n unol â’r safonau gofynnol ar gyfer y math penodol o eiddo

Diogelwch tân mewn Tai Amlfeddiannaeth

Mae diogelwch tân mewn tai amlfeddiannaeth yn dod o dan Ddeddf Tai 2004 a Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 sy’n rhoi’r grym i Awdurdodau Tân ac Achub gymryd camau gorfodi i sicrhau diogelwch tân mewn mannau cyffredin mewn tai amlfeddiannaeth o fathau penodol.

Mewn gwirionedd mae yno brotocol sy’n golygu mai awdurdodau lleol yn bennaf sy’n gyfrifol am orfodi, wedi ymgynghori â’r awdurdod tân. O dan y ddeddfwriaeth hon mae’n rhaid i’r unigolyn cyfrifol gynnal asesiad risg diogelwch tân a gweithredu a chynnal cynllun rheoli tân. 

Dodrefn a chelfi

Os ydych chi fel landlord yn darparu dodrefn/celfi yn y llety sydd gennych ar osod, mae’n ofynnol ichi gydymffurfio â Rheoliadau Dodrefn a Chelfi (Tân) (Diogelwch) 1988 fel y’u diwygiwyd. 

Mae’n rhaid i’r holl ddodrefn yn yr eiddo (ac eithrio dodrefn a wnaed cyn 1950) fodloni’r holl ofynion ynghylch ymwrthedd i dân.

Mae’r rheoliadau’n pennu’r gofynion ymwrthedd i dân ar gyfer dodrefn â gorchudd, gan gynnwys sicrhau:

  • bod y dodrefn yn bodloni prawf ymwrthedd i sigaréts
  • bod y defnydd sy’n gorchuddio’r dodrefn, boed hwnnw’n barhaol neu’n orchudd llaes, yn bodloni prawf ymwrthedd i fatsien 
  • bod yr holl ddefnydd stwffio mewn dodrefn yn bodloni profion taniadwyedd.

Mae tenantiaethau a ddechreuodd cyn 1993 wedi’u heithrio o’r rheoliadau ond mae’n rhaid bod unrhyw ddodrefn a ychwanegwyd wedi 1993 gydymffurfio â’r gofynion ynghylch ymwrthedd i dân.

Niwsans ac ymddygiad gwrthgymdeithasol

Mae’r dudalen ar gyfer cwynion am sŵn yn cynnwys gwybodaeth am synau cyffredin sy’n cyfrif fel niwsans.

Os oes sŵn yn dod o’r eiddo dylech gysylltu â’n tîm Iechyd yr Amgylchedd i weld a oes modd cymryd camau gorfodi yn erbyn y tenant dan sylw.

Cysylltwch â’n Tîm Iechyd yr Amgylchedd

E-bost: healthandhousing@wrexham.gov.uk

Ffôn: 01978 292040 (gofynnwn ichi gysylltu â ni drwy e-bost oni bai fod gennych ymholiad brys, fel pryderon ynglŷn â throi tenant allan yn anghyfreithlon, er enghraifft).