Rhoi gwybod am niwsans sŵn ar-lein

Dechreuwch rŵan

 

Mae sawl math o sŵn a all gael ei ystyried yn niwsans sŵn, yn enwedig os yw’r sŵn i’w glywed am gyfnodau maith ar amseroedd anaddas (yn hwyr gyda’r nos a chyn ben bore).

Os oes arnoch chi angen rhoi gwybod am niwsans sŵn brys neu barhaus, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt ar 01978 292040 neu rhowch wybod ar-lein.

Enghreifftiau o synau cyffredin a allent gael eu hystyried yn niwsans sŵn...

Sain wedi ei seinchwyddo

Gall sain wedi ei seinchwyddo a ddaw o dai cymdogion (megis teledu, cerddoriaeth, radio) fod yn niwsans sŵn, yn enwedig os yw’r sŵn uchel yn cael ei chwarae ger wal, llawr neu nenfwd a rennir.

Dylid cadw sain wedi ei seinchwyddo at lefel dderbyniol ac yn ddelfrydol dylid chwarae unrhyw sain ar ôl ben bore/cyn gyda’r nos.

Cŵn yn cyfarth

Er bod cyfarth yn gyffredin a naturiol i gŵn, os yw ci yn cyfarth/ swnian yn gyson, yna gall wylltio neu darfu ar gymdogion. Gall cŵn gyfarth yn fwy na’r disgwyl am sawl rheswm, yn cynnwys diflastod, unigrwydd, ofn neu ymddygiad tiriogaethol. Os nad yw perchennog yn cymryd camau i hyfforddi a gofalu am ei gi i wneud yn siŵr nad yw’n cyfarth yn ormodol, yna gall ddod yn niwsans sŵn.

Larymau tresmaswyr (lladron) clywadwy

Er y gall larymau tresmaswyr clywadwy fod yn ffordd ddefnyddiol o ddiogelu eiddo, gallant hefyd achosi niwsans i breswylwyr cyfagos os ydynt yn canu’n gyson oherwydd nam. Byddwn yn mynd i eiddo i ddistewi larwm sydd wedi bod yn canu’n gyson am dros 20 munud neu o bryd i’w gilydd am dros awr ac yn amharu ar yr unigolion gerllaw. Byddwn yn codi tâl ar y perchennog/y meddiannydd am unrhyw gost sy’n gysylltiedig â chymryd y cam hwn.

Larymau cerbydau

Gall larymau cerbydau sy’n canu ar y stryd neu dir preifat fod yn niwsans sŵn.

Mae ‘stryd’ yn golygu priffordd, ffordd, troedffordd, sgwâr neu gwrt sydd ar agor i’r cyhoedd. Os yw larwm cerbyd yn canu ar y stryd, nid oes angen gwarant i ni gynnal gwaith i atal y niwsans sŵn.

Os yw larwm cerbyd yn canu ar dir preifat, mae angen gwarant i atal y niwsans sŵn. Byddwn yn ymchwilio i ffynhonnell y sŵn, yn perfformio chwiliad y DVLA i ganfod y perchennog ac, os nad oes modd canfod y perchennog, yn cyflwyno rhybudd i’r perchennog i ddiffodd y larwm.

Gellir diffodd y larwm a/neu symud y cerbyd awr ar ôl cyflwyno’r Rhybudd. Mae diffodd larymau a/neu symud cerbydau  yn gofyn am arbenigedd cwmnïau arbenigol i weithredu ar ein rhan.

Sŵn drwm

Gallai sŵn drymiau’n cael eu chwarae mewn cartref neu mewn garej gael ei ystyried yn niwsans sŵn os yw’r drymiau’n cael eu chwarae yn ystod oriau afresymol ac am gyfnod hirach na 30 munud ar y tro. Fel arfer, ystyrir yn gynnar yn y bore - cyn 9am a gyda’r nos -wedi 7pm (yn enwedig ar benwythnosau a gwyliau banc) yn amseroedd afresymol. Mae’n bosib y gallwn gymryd camau gweithredu os yw niwsans sŵn yn cael ei achosi gan ddrymiau’n cael eu chwarae yn eithafol, yn cynnwys atafaelu’r offer sy’n achosi’r sŵn.

DIY

Gallai sŵn DIY gael ei ystyried yn niwsans sŵn os yw’n digwydd y tu allan i oriau rhesymol. Ein hawgrym ni o ran oriau rhesymol yw rhwng 8am ac 8pm yn ystod dyddiau’r wythnos, rhwng 9am a 5pm ar ddyddiau Sadwrn a rhwng 10am a 4pm ar ddyddiau Sul / Gwyliau Banc (byddem hefyd yn argymell nad oes unrhyw waith DIY swnllyd yn cael ei wneud ar ddyddiau Sul a Gwyliau Banc os oedd gwaith hefyd wedi’i gynnal yn ystod yr wythnos flaenorol, h.y. dydd Llun i ddydd Sadwrn. Mae’n bosib y gallwn gymryd camau gweithredu mewn achosion o sŵn DIY eithafol.

Sŵn adeiladu

Mae gweithgarwch adeiladu a dymchwel fel arfer yn swnllyd iawn. Mae angen cydbwysedd i sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau mor gyflym â phosibl o fewn yr amserlen a drefnwyd gan wneud yn siŵr eich bod chi, fel preswylwyr lleol, yn cael eich heffeithio cyn lleied â phosibl yn ystod y gwaith. Nid oes rheolau swyddogol yn ymwneud â pha sŵn a ganiateir o safle adeiladu, fodd bynnag rydym yn aml yn cysylltu â datblygwyr sydd wedi cyflwyno ceisiadau cynllunio (cyn ystyried neu gymeradwyo unrhyw ganiatâd cynllunio) er mwyn dweud wrthynt am ffyrdd addas o leihau lefelau sŵn yn ystod y cyfnod adeiladu.

Mae gennym ni (fel awdurdod lleol)  bwerau dan Ddeddf Rheoli Llygredd sydd yn ein galluogi ni i osod cyfyngiadau penodol ar weithgareddau adeiladu a dymchwel - fel cyfyngu ar oriau gweithio a’r peiriannau a ddefnyddir. Fodd bynnag,gan fod cyflwyno rhybuddion cyfreithiol ac achosion gerbron y llys yn cymryd amser, mae’r gwaith adeiladu dan sylw yn aml wedi’i gwblhau a’r broblem wedi’i datrys yn ystod y cyfnod hwn. Oherwydd hyn, mae’n well gennym ni ganfod datrysiad yn anffurfiol rhwng y preswylwyr a’r datblygwyr lle bo hynny’n bosibl.

Ceiliog (neu iâr) yn clochdar

Gall ceiliog yn clochdar fod yn niwsans sŵn i breswylwyr cefn gwlad pan fo’n amharu ar eu cwsg, yn enwedig yn gynnar yn y boreau yn ystod yr haf. Rydym ni’n argymell y dylai ceiliogod ond gael eu cadw gan breswylwyr sy’n byw y tu allan i ardaloedd trefol Wrecsam (gall ieir gael eu cadw ar eiddo o fewn ardaloedd trefol). Gall ieir sy’n clochdar hefyd achosi problem ond mae hyn yn llawer llai cyffredin a gall fod yn arwydd o salwch. Dylai perchnogion ieir gymryd camau i sicrhau nad yw eu hanifeiliaid yn achosi niwsans sŵn drwy glochdar.

Clychau Eglwys

Yn gyffredinol, mae clychau eglwysi’n canu o fewn amserlen gytunedig er mwyn sicrhau nad yw’r sŵn yn amharu’n ormodol ar drigolion lleol. Gall eglwysi drefnu bod y clychau’n cael eu canu ar gyfer gwasanaethau a sesiynau ymarfer, yn ogystal ag angladdau a phriodasau’n achlysurol. Gallai’r weithred o ganu clychau gael ei hystyried yn niwsans sŵn os yw’r weithred yn cael ei gwneud ar adeg heb ei threfnu. Os ydych chi’n credu bod eich eglwys leol yn achosi niwsans sŵn drwy ganu clychau, efallai yr hoffech gysylltu â’r eglwys yn uniongyrchol. Os yw’r broblem yn parhau, gallech gymryd camau pellach eich hun drwy gwyno i Lys Ynadon dan Adran 82 o’r Ddeddf uchod neu ddechrau Achos Sifil am niwsans sŵn drwy Gyfraith Gyffredin.