Yn 2016, pasiodd Llywodraeth Cymru Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.

Mae’r ddeddf wedi bod ar waith ers 1 Rhagfyr, 2022. Cyflwynodd lawer o newidiadau i gyfreithiau tenantiaeth ac mae’n berthnasol i’r sectorau rhentu cymdeithasol a phreifat.

Mae’r dywediadau ‘contract meddiannaeth’ a ‘deiliaid contract meddiannaeth sy’n cael eu defnyddio ar y dudalen hon yn cymryd lle'r dywediadau ‘contractau tenantiaeth’ a ‘thenantiaid’.

Pwrpas y ddeddf 

Nod y ddeddf yw:

  • gwneud hi’n haws ac yn fwy syml i landlordiaid a deiliaid contract meddiannaeth i rentu cartref yng Nghymru  
  • symleiddio cytundebau a gwella cyflwr cartrefi rhent yng Nghymru
  • cynnig mwy o ddiogelwch a sicrwydd i ddeiliaid contract meddiannaeth a landlordiaid  

Ar bwy mae’r ddeddf yn effeithio 

  • Pob landlord - preifat a chymdeithasol 
  • Holl ddeiliaid contract meddiannaeth - preifat a chymdeithasol  

Newidiadau penodol

  • Disodlwyd cytundebau tenantiaeth gan gontractau meddiannaeth.
  • Sicrwydd cynyddol i ddeiliaid contract meddiannaeth rhent preifat - mae’n rhaid i landlordiaid roi rhybudd o 6 mis cyn belled â bod y contract heb ei dorri. 
  • Rhaid i bob eiddo fod yn ddiogel ac o safon y gellir byw ynddynt - mae hyn yn cynnwys cael larymau mwg sy’n gweithio, larymau carbon monocsid a phrofion diogelwch trydanol. 
  • Mae deiliaid contract meddiannaeth wedi cynyddu hawliau olyniaeth i’w basio ar eu cartref
  • Gellir ychwanegu neu ddileu deiliad contract heb fod angen terfynu’r contract. 
  • Gall landlordiaid adfeddiannu eiddo a adawyd heb orchymyn llys, ar yr amod bod ymchwiliadau wedi'u cynnal.

Beth mae’n ei olygu i chi fel landlord

Mae’r ddeddf yn:  

  • symleiddio a gwella eich gallu i gael meddiant o’ch eiddo 
  • gwella sut mae landlordiaid yn rheoli cartrefi rhent yng Nghymru 

Sut mae’n effeithio’n uniongyrchol arnoch chi

  • Bydd unrhyw gytundeb tenantiaeth bresennol yn cael ei newid yn awtomatig i gontract newydd a rhaid i chi roi copi o’r contract meddiannaeth newydd i’ch deiliaid erbyn 1 Mehefin, 2023.
  • Bydd yn rhaid i unrhyw ddeiliaid contract meddiannaeth newydd yn eich eiddo arwyddo eich contract yn y ffordd arferol ac mae’n rhaid cyflwyno copi o fewn 14 diwrnod.  

Beth sydd angen i chi ei wneud?

Rydym yn eich cynghori i fynd i wefan Llywodraeth Cymru i ddysgu am eich hawliau a’ch cyfrifoldebau.