Mae dod â thenantiaeth ei ben fel arfer yn digwydd mewn un o ddwy ffordd; naill ai drwy ddod â hi i ben yn unol â’r contract, neu o ganlyniad i gamau cyfreithiol i droi tenant allan.

Mae’r canllawiau hyn yn rhoi crynodeb o’r ffyrdd y gellir dod â thenantiaethau i ben mewn gwahanol sefyllfaoedd ond dylech gysylltu â chyfreithiwr i gal cyngor yn hyn o beth (yn enwedig os ydych yn ansicr ynghylch y weithdrefn i’w dilyn). Dylech geisio cyngor cyfreithiol wrth lunio cytundebau tenantiaeth a dod â hwy i ben er mwyn sicrhau y pennir trefniadau’r contract yn iawn a’ch bod yn medru gweithredu’r cymalau perthnasol os oes angen.

Bydd y ffordd iawn o ddod â thenantiaeth i ben yn dibynnu ar y math o gytundeb sydd gennych. Mae’r rhan helaeth o denantiaethau yn y sector rhentu preifat yn denantiaethau byrddaliadol sicr. 

Gofyn i denant adael

Gyda’r rhan helaeth o denantiaethau bydd y weithdrefn briodol yn cynnwys cyflwyno hysbysiad ymadael cyfreithiol a digonol i’r tenant.

Os ydych chi’n pennu’r modd y cyflwynir y fath hysbysiadau yn y cytundeb tenantiaeth dylech ddilyn y weithdrefn honno (neu fel arall gallai’r llys wrthod eich cais am orchymyn i ildio meddiant).

Sut i gyflwyno hysbysiad

Yn ddelfrydol dylech gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r tenant wyneb yn wyneb. Dylai fod tyst yn bresennol wrth wneud hynny, a dylid darparu’r hysbysiad ar ffurf arall hefyd (drwy’r post cofrestredig, er enghraifft). Pan wnewch chi’r cais i’r llys bydd yn ofynnol ichi roi tystiolaeth eich bod wedi cyflwyno’r hysbysiad.

Os yw’r hysbysiad ar ffurf anghywir, neu’ch bod wedi’i gyflwyno mewn modd anghywir, gallech golli’r achos. 

Pan ddaw tenantiaeth fyrddaliadol sicr i ben wedi cyfnod penodol, os nad ydych chi’n gofyn i’r tenant adael a’u bod yn penderfynu aros yn yr eiddo, bydd y denantiaeth yn adnewyddu’n awtomatig o un cyfnod rhent i’r llall (ar yr un telerau â’r denantiaeth flaenorol). Gelwir hyn yn denantiaeth gyfnodol statudol. Bydd y denantiaeth yn parhau fel hyn hyd oni chytunir ar denantiaeth gyfnodol newydd neu denantiaeth am gyfnod penodol, neu hyd nes y mae’r tenant yn gadael neu fod y llys yn dyfarnu meddiant i’r landlord.

Os na ddymunwch i’r denantiaeth barhau fel tenantiaeth gyfnodol statudol bydd arnoch angen cyflwyno hysbysiad adran 21 er mwyn dod â’r denantiaeth i ben. Fe’i gelwir yn hysbysiad adran 21 gan fod eich hawl i adennill meddiant a’r weithdrefn hysbysu wedi’u pennu yn adran 21 o Ddeddf Tai 1988. Mae’n rhaid cyflwyno’r hysbysiad i’r tenant o leiaf deufis cyn y dyddiad y dymunwch ddod â’r denantiaeth i ben.

Os cyflwynir hysbysiad i ddod â thenantiaeth fyrddaliadol sicr i ben, nid oes rhaid dilyn unrhyw ffurf ragnodedig a gallwch gyflwyno’r hysbysiad drwy lythyr cyn belled â’ch bod yn bodloni’r ddau amod isod:

  • rhaid rhoi o leiaf deufis o rybudd 
  • rhaid i’r hysbysiad beidio â dod i ben yn gynharach na’r cyfnod penodol yn y cytundeb (gall ddod i ben ar unrhyw ddyddiad ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw). 

Gofynion ar gyfer ildio meddiant o dan adran 21

Ni all y llys wneud gorchymyn i ildio meddiant o dan adran 21 yn ystod chwe mis cyntaf y denantiaeth. Dyma’r gofynion i gael gorchymyn llys i ildio meddiant o dan adran 21:

  • rhaid bod y denantiaeth yn un fyrddaliadol sicr
  • rhaid bod cyfnod penodol y denantiaeth wedi dod i ben
  • rhaid bod hysbysiad priodol yn unol â darpariaethau adran 21 wedi’i lunio, ei gyflwyno i’r tenant ac wedi dod i ben 
  • rhaid bod unrhyw flaendal a dalwyd wedi’i ddiogelu’n briodol o dan y rheoliadau perthnasol ar gyfer tenantiaethau a sefydlwyd ar 6 Ebrill 2007 neu wedi hynny
  • rhaid bod wedi ymgeisio am unrhyw drwydded sy’n ofynnol o dan Ddeddf Tai 2004 (er enghraifft, trwydded orfodol ar gyfer tŷ amlfeddiannaeth)

Cyfyngiadau ar gyflwyno hysbysiadau adran 21

Os nad ydych chi (neu’ch asiant) wedi cofrestru â Rhentu Doeth Cymru a bod gofyn ichi wneud, ni fydd hysbysiad adran 21 yn ddilys yn ôl y gyfraith.

Ni fydd hysbysiad adran 21 yn ddilys yn ôl y gyfraith chwaith os talodd eich tenant flaendal pan ddechreuodd y denantiaeth a’ch bod heb wneud yr un o’r canlynol:

  • ei ddiogelu yn un o’r cynlluniau diogelu blaendal a gymeradwyir gan y llywodraeth
  • darparu’r wybodaeth ofynnol i’r tenant am y cynllun diogelu a ddefnyddiwyd.

Os yw’r eiddo’n dŷ amlfeddiannaeth yna ni fydd hysbysiad adran 21 yn ddilys ond os caiff ei gyflwyno tra bod gennych drwydded briodol gyda ni.

Dod â thenantiaeth cyfnod penodol i ben yn fuan

Bydd rhai achosion yn codi lle byddwch wedi cytuno ar gyfnod penodol (llety myfyrwyr, er enghraifft) ond bod arnoch angen dod â’r denantiaeth i ben yn gynnar oherwydd newid yn eich amgylchiadau, neu oherwydd trafferthion gyda’r tenant.

Os dymunwch adennill meddiant o’r eiddo yn ystod cyfnod penodol tenantiaeth sicr neu denantiaeth fyrddaliadol sicr, ni allwch wneud cais i adennill meddiant ond os yw un o’r rhesymau ar gyfer hynny a nodir yn Atodlen 2 o Ddeddf Tai 1988 (fel y’i diwygiwyd) yn berthnasol, yn ogystal ag un o’r canlynol:

  • bod yno gymal yn y cytundeb tenantiaeth yn darparu ar gyfer hynny (gelwir hyn weithiau’n gymal ailfynediad neu gymal fforffedu, er nad oes modd defnyddio fforffediad ar gyfer tenantiaethau sicr/byrddaliadol sicr) 
  • eich bod yn gweithredu cymal terfynu a ddrafftiwyd yn briodol ac yna’n defnyddio gweithdrefn adran 21 (ar gyfer tenantiaethau byrddaliadol sicr yn unig).

Cymalau terfynu

Nid yw cymal terfynu’n ddilys ond os yw’r tenant yn medru ei ddefnyddio hefyd (yn hytrach na’i fod ar gael i’r landlord yn unig).

Rhesymau dros adennill meddiant

Mae’r rhesymau ar gyfer adennill meddiant wedi’u rhannu’n rhai gorfodol (Rhesymau 1-8) a dewisol (Rhesymau 9-17).

Mae rhesymau gorfodol yn golygu bod yn rhaid i’r llys wneud gorchymyn i ildio meddiant os ydych chi’n profi’r honiad. Drwy resymau dewisol gallai’r llys wneud gorchymyn i ildio meddiant os caiff yr honiadau eu profi a bod y llys o’r farn ei bod yn rhesymol i wneud gorchymyn.

Mae’n rhaid nodi’r rhesymau yn yr hysbysiad, ac mae’n rhaid i hwnnw fod yn hysbysiad adran 8. Rhaid i’r rhybudd hwn fod ar ffurf ragnodedig. Mae adran 8 o Ddeddf Tai 1988 hefyd yn nodi isafswm y rhybudd y dylid ei roi – ac mae hynny’n dibynnu ar ba reswm neu resymau a ddefnyddir.

Ymadawiad tenant

Er y gallwch adennill meddiant os yw’n amlwg bod y tenant wedi ymadael â’r eiddo, fel arfer bydd arnoch angen cael gorchymyn llys. Mae troi tenant allan heb orchymyn llys yn drosedd (a phrin iawn yw’r eithriadau).