Gweledigaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: cefnogi’r bobl sy’n byw yma i gyrraedd eu llawn botensial, i lwyddo a chyrraedd safon uchel o les. Byddwn yn arweinydd cymunedol cryf a chynhwysol i helpu i wneud i hyn ddigwydd.
Cynllun y Cyngor yw’r ymdriniaeth y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi’i defnyddio i gyhoeddi ei Ddatganiad Lles a diffinio ei Amcanion Lles fel sy'n ofynnol yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Rhagair
Llythyr gan yr Arweinydd a Phrif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Croeso i Gynllun Newydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam 2023 – 2028. Yn y ddogfen hon byddwn yn nodi ein gweledigaeth a’n huchelgeisiau ar gyfer y pum mlynedd nesaf, wedi’u llywio gan eich barn a’ch dyheadau chi ar gyfer Wrecsam a’ch cymunedau. Mae’r cynllun yn ddogfen strategol lefel uchel sy’n gyrru gweithgareddau’r cyngor, wedi’i chefnogi gan Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y cyngor a’i thanategu gan ein strategaethau a’n prosiectau lefel gwasanaeth. Mae’r cynllun yn rhoi manylion ein hamcanion lles, sef blaenoriaethau ein cyngor a’r canlyniadau yr ydym eisiau eu cyflawni o fewn y blaenoriaethau hyn er mwyn gwella lles cymdeithasol, diwylliannol, economaidd ac amgylcheddol Wrecsam.
Roedd datblygu cynllun newydd yn rhoi cyfle i’r cyngor adlewyrchu’r hyn sydd wedi cael ei gyflawni dros y tair blynedd diwethaf, o dan amgylchiadau digynsail y pandemig Covid-19 a’r adferiad. Mae Wrecsam bellach ar bwynt cyffrous o’r siwrnai wella ac rydym eisiau parhau i adeiladu ar y cynnydd a wnaed, sydd wedi digwydd o ganlyniad i gydweithio rhwng cynghorwyr, y gweithlu, partneriaid a chymunedau. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, does amheuaeth fod tref Wrecsam wedi’i rhoi ar y map gan lwyddo i ennill statws dinas a bod yn agos i’r brig ar gyfer Dinas Diwylliant. Heb anghofio llwyddiannau yn y byd chwaraeon sydd wedi gweld Wrecsam a’r bobl sy’n byw yma’n cael eu hyrwyddo’n fyd-eang. Mae prosiect Porth Wrecsam ac amgueddfa bêl-droed Cymru yn enghreifftiau gwych o brosiectau sy’n rhoi proffil cenedlaethol i ni.
Rydym eisiau adeiladu ar gyffro ac uchelgeisiau’r Fwrdeistref Sirol dros y pum mlynedd nesaf er mwyn gwneud gwahaniaeth ar gyfer pobl Wrecsam, lle gallant wireddu eu breuddwydion a’u dyheadau. Rydym eisiau gweithio tuag at le sy’n gynaliadwy, yn fwy gwyrdd, yn diogelu ein pobl mwyaf diamddiffyn, yn uchelgeisiol a lle mae lles pobl yn dda.
Fodd bynnag, ar y cyd â hyn rydym yn cydnabod yr heriau parhaus mae ein cymunedau yn eu hwynebu, gan gynnwys yr argyfwng costau byw, anghydraddoldebau o fewn ein Bwrdeistref Sirol a newid hinsawdd. Mae hyn yn ychwanegol at yr effaith hirdymor y mae’r pandemig Covid-19 wedi ei gael ar ein cymunedau, yn arbennig ar y mwyaf diamddiffyn, ac ar blant mewn cyfnodau allweddol o’u datblygiad. Mae’r pryderon hyn wedi siapio blaenoriaethau ein cyngor a bydd yn parhau i sbarduno ein siwrnai tuag at welliant. Rydym wedi plethu ein canlyniadau cydraddoldeb i mewn i’r cynllun hwn, i wireddu ein hymrwymiad i gyflawni canlyniadau gwell a theg ar gyfer pawb, gan hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth a lleihau effaith anfantais economaidd-gymdeithasol. Rydym eisiau gwrando mwy ar ein cymunedau ac adeiladu perthnasoedd gwell, lle mae pobl Wrecsam yn rhan o’r siwrnai. Mae gennym ysbryd cymunedol cryf yn Wrecsam yr ydym eisiau ei feithrin er mwyn grymuso ein cymunedau. Rydym am i Fwrdeistref Sirol Wrecsam fod yn lle y mae ein trigolion yn ffynnu ynddo.
Er mwyn cyflawni hyn rhaid i ni ddod yn gyngor effeithiol ac yn 2022 cyflawnom ein hunanasesiad cyhoeddedig gyntaf, o dan y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) newydd, sy’n ei gwneud yn ofynnol i ni adolygu sut yr ydym yn gweithio a pha mor effeithlon yr ydym o rn ein defnydd o’n hadnoddau. Byddwn yn parhau i adolygu a chyhoeddi ein hunanasesiad bob blwyddyn a bydd ymateb i’r canfyddiadau yn cefnogi darpariaeth ein gweledigaeth.
Rhaid cael gweithlu medrus, amrywiol a chynaliadwy er mwyn darparu’r gwasanaethau sydd eu hangen ar ein cymunedau. Ymdrechwn i sicrhau fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ‘gyflogwr o ddewis’ er mwyn denu, recriwtio a chadw unigolion gyda’r sgiliau a phrofiad a fydd o fantais i’n cymunedau. Rydym yn sylweddoli fod hon yn dasg heriol yng nghyd-destun y farchnad recriwtio genedlaethol sy’n hynod o gystadleuol a byddwn yn ceisio dal ati i ymateb i hyn drwy fentrau newydd i gefnogi recriwtio a dal gafael ar staff, er enghraifft cyflwyno dull ‘Meithrin eich Talent eich Hun’, i fynd i’r afael ag anawsterau recriwtio mewn meysydd penodol, megis gofal cymdeithasol.
Wrth ddatblygu’r cynllun hwn, rydym wedi cydnabod na allwn gyflawni hyn ar ein pen ein hunain, ac mai cydweithrediad rhwng ein partneriaid, busnesau a chymunedau fydd yn ein galluogi ni i gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer pobl Wrecsam. Wrth ddatblygu’r gweithgareddau a strategaethau hyn sy’n tanategu gwaith y cynllun, rydym wedi sicrhau ein bod yn ymrwymo i ddulliau cynaliadwy o weithio gan gynnwys integreiddio a chydweithio. Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau darllen am ein gweledigaeth ar gyfer Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac rydym eisiau parhau i gydweithio gyda chi, pobl a chymunedau Wrecsam i gyflawni ar y cynllun.
Y Cynghorydd Mark Pritchard – Arweinydd y Cyngor
Ian Bancroft – Prif Weithredwr
Croesawn eich sylwadau ar gynnwys a fformat Cynllun y Cyngor. Os oes gennych awgrymiadau neu sylwadau ynglŷn â sut i wneud y cynllun yn fwy darllenadwy, neu os ydych o’r farn y dylai’r Cyngor ganolbwyntio ar feysydd eraill neu ychwanegol, cysylltwch â ni yn y cyfeiriad isod. Bydd pob awgrym ynglŷn â meysydd eraill i ganolbwyntio arnynt yn cael eu hystyried fel rhan o’r gwaith o reoli perfformiad a diweddaru’r cynllun hwn. Bydd sylwadau ynglŷn â’r cynllun yn cael eu hystyried cyn y dyddiad cyhoeddi nesaf.