Rydym yn darparu llawer o wasanaethau i chi, p'un a ydych yn byw yma, yn gweithio yma neu'n ymweld, megis: ysgolion, casglu gwastraff, gofal cymdeithasol, tai cyngor, gwasanaethau cynllunio, ffyrdd, amgueddfeydd, parciau gwledig, safonau masnach. Fodd bynnag, nid yw’n ddigon cynnal y rhain, rydym eisiau canolbwyntio ar welliannau ar gyfer y dyfodol a bod yn uchelgeisiol gyda’n cynlluniau. Ein cynllun yw’r lle yr ydym yn gosod ein blaenoriaethau ar gyfer y cyngor am y pum mlynedd nesaf; mae’n rhoi gweledigaeth a chyfeiriad ar gyfer yr hyn y byddwn yn gweithio tuag ato yn y tymor canolig drwy ganolbwyntio ar ddyfodol hirdymor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. 

Mae Cynllun y Cyngor yn sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o’n cyfraniad tuag at saith nod lles cenedlaethol Cymru (dolen gyswllt allanol) a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, sy’n ceisio gwella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae Cynllun y Cyngor yn cyflwyno ein hamcanion lles sef blaenoriaethau’r Cyngor. Gallwch weld manylion am sut mae blaenoriaethau ein cyngor yn cysylltu â nodau lles Cymru ar dudalennau unigol blaenoriaeth y cyngor

Cyflwynodd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 hefyd yr egwyddor datblygu cynaliadwy (dolen gyswllt allanol) - sy’n galw arnom i weithredu mewn ffordd sy’n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb gyfaddawdu gallu cenedlaethau'r dyfodol i gwrdd â’u hanghenion eu hunain. Mae’r ddeddf yn sicrhau wrth ddatblygu ein blaenoriaethau fel cyngor, ein bod yn sefydlu ‘pum ffordd o weithio’ i lywio ein penderfyniadau a sicrhau ein bod yn gweithio mewn modd mwy cynaliadwy, gan gynnwys:

  • Edrych i’r hirdymor.
  • Gweithredu mewn modd integredig.
  • Cynnwys pobl mewn penderfyniadau.
  • Gweithio mewn modd cydweithredol.
  • Deall yr achosion sydd wrth wraidd problemau er mwyn eu rhwystro rhag digwydd neu waethygu.