I gyflawni ein gweledigaeth fe gytunom i ganolbwyntio ar chwe maes blaenoriaeth a fydd yn rhoi cyfeiriad ar gyfer ein holl wasanaethau dros y pum mlynedd nesaf. O fewn pob blaenoriaeth, rydym wedi nodi pa ganlyniadau rydym eisiau gweithio tuag atynt. Mae’r canlyniadau yn nodi’r cyfeiriad ar gyfer ein siwrnai tuag at welliant ar gyfer Bwrdeistref Sirol Wrecsam, pobl Wrecsam a’n cymunedau. 

Ein chwe blaenoriaeth fel Cyngor yw:

Rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw amgylchedd glan, deniadol a chynaliadwy i les cymunedau ac ar gyfer y rhai hynny sy’n byw, yn gweithio ac yn ymweld â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.  Mae gwasanaethau amgylcheddol effeithiol a chadarn yn hanfodol bwysig o ran sicrhau bod canol ein dinas, ein cymunedau a’n priffyrdd yn cael eu gofalu amdanynt ac mewn cyflwr da. Byddwn yn canolbwyntio ar ddarparu Gwasanaethau Stryd Effeithiol yn unol â’r ymrwymiadau gwasanaeth yr ydym wedi eu gwneud. Wrth wella ein hamgylchedd byddwn yn sicrhau bod Argyfwng yr Hinsawdd, un o faterion pwysicaf ein hoes, yn ystyriaeth flaenllaw yn yr holl benderfyniadau yr ydym yn eu gwneud.  Byddwn yn edrych ar yr hirdymor ac yn creu cymunedau cynaliadwy a chryf sy’n gallu addasu i heriau amgylcheddol y dyfodol.

Yr hyn a ddywedodd Asesiad Lles Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Wrecsam wrthym:  Gall byw wrth ymyl, a defnyddio mannau gwyrdd helpu i wella iechyd, ni waeth beth yw dosbarth cymdeithasol pobl.

Mae’r economi yn sbardun pwysig ar gyfer gwella Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Rydym eisiau creu economi cryf, ffyniannus a theg sy’n cefnogi ein cymunedau ac yn rhoi hyder ac anogaeth i ddatblygwyr, busnesau a sefydliadau fuddsoddi yma. Rydym am i sir Wrecsam gael ei gweld fel y porth i Ogledd Cymru gyda threftadaeth unigryw a chefn gwlad hardd. Bydd ein heconomi yn cefnogi pobl yn ein cymunedau i gael mynediad at ystod o gyfleoedd cyflogaeth, gyda chyflogau uwch a gwell boddhad mewn swydd. 

Yr hyn a ddywedodd ein preswylwyr wrthym ni: “Mae angen adfywio canol y ddinas a’r ardaloedd cyfagos, gyda mwy o gyfleusterau twristiaeth, hamdden ac adloniant ac annog mewnfuddsoddiad”.

Yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, mae bod yn ddiogel a theimlo’n ddiogel yn bwysig i breswylwyr ac ymwelwyr a gall canol y dref gael dylanwad mawr ar ansawdd bywyd pobl. Byddwn yn gweithio tuag at greu Bwrdeistref Sirol sy’n gymuned deg, cyfiawn a chynhwysol, lle gall bobl gael mynediad at dai a llety safonol diogel sy’n briodol ar gyfer eu hanghenion. Gyda’r argyfwng costau byw parhaus, byddwn yn gweithio tuag at sicrhau fod pawb, yn arbennig unrhyw un sy’n ddiamddiffyn, sy’n profi tlodi neu’n delio â heriau costau byw, yn cael mynediad at gymorth a gwasanaethau i alluogi gwell ansawdd bywyd.

Yr hyn a ddywedodd ein preswylwyr wrthym ni: “Mae’n bwysig fod pawb yn cael mynediad teg a chyfartal at wasanaethau”.

Yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, rydym yn cydnabod yr effaith mae addysg a dysgu yn ei gael ar bob grŵp oedran. Byddwn yn gweithio ar draws holl wasanaethau’r cyngor a gyda’n partneriaid i gefnogi pobl yn ein cymunedau i gael mynediad at y cyfleoedd dysgu iawn er mwyn gwireddu eu potensial, beth bynnag eu cefndir neu amgylchiadau. Byddwn yn ceisio mynd i’r afael ag anghydraddoldebau mewn canlyniadau addysgol drwy gefnogi dysgwyr i oresgyn rhwystrau rhag dysgu a gwella cyfleoedd dysgu gydol oes. Rydym eisiau darparu gwasanaeth a chymorth addysgol a dysgu a fydd yn fuddiol i bobl yn ein cymunedau i ddatblygu eu sgiliau a chyflawni eu dyheadau.

Beth ddywedodd ein preswylwyr wrthym ni: “Mae gwella safonau a chyfleoedd addysgol bob amser yn mynd i fod yn ddyhead, mae’n bwysig canolbwyntio ar sgiliau bywyd a chyflogadwyedd ar gyfer dysgwyr o bob oed”.

Mae iechyd a lles da yn ganolog i sicrhau fod pobl yn ein cymunedau’n cael y cyfleoedd bywyd gorau sydd ar gael iddynt. Byddwn yn cefnogi pobl yn ein cymunedau i elwa o iechyd a lles da trwy alluogi unigolion, teuluoedd a chymunedau i fod yn gadarn a thrwy leihau effaith anghydraddoldebau iechyd. Ar y cyd â’n partneriaid rydym eisiau darparu gwasanaethau atal a chymorth cynnar sy’n lleihau’r angen am ymyraethau mwy acíwt yn ddiweddarach. Rydym eisiau i bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau gofal cymdeithasol deimlo bod eu llais yn cael ei glywed ac i gael yr offer i fyw mor annibynnol â phosibl.

Yr hyn a ddywedodd ein preswylwyr wrthym ni: “Mae lles plant yn hollbwysig. Gall profiadau andwyol yn y blynyddoedd cynnar fod yn anodd iawn i’w goresgyn yn ddiweddarach mewn bywyd”.

Rhaid bod â gweithlu medrus, amrywiol a chynaliadwy i ddarparu’r gwasanaethau y mae ein cymunedau eu hangen ac yn dymuno eu cael.  Mae iechyd a lles ein gweithwyr yn hollbwysig o safbwynt cynnal gweithlu cadarn sy’n barod i addasu er mwyn darparu gwasanaethau. Byddwn yn cefnogi ein gweithlu drwy sicrhau ein bod yn cynnal ein hymagwedd weithredol tuag at les gweithwyr ac yn sicrhau y sefydlir arferion rheoli pobl cadarn i gefnogi a rheoli gweithwyr sy’n profi cyfnodau o salwch, i gynnal lefelau uchel o bresenoldeb a pharhau i leihau lefelau absenoldeb.

Yr hyn a ddywedodd ein preswylwyr wrthym ni: “Mae’n bwysig sicrhau bod y cyngor yn darparu cyfleoedd cyflogaeth da a chyfleoedd i ddatblygu gyrfa er mwyn denu gweithlu medrus ac amrywiol”.