Mae iechyd a lles da yn effeithio ar bob agwedd o’n bywydau ac yn ganolog i sicrhau fod pobl yn ein cymunedau’n cael y cyfleoedd bywyd gorau sydd ar gael iddynt. Felly mae cefnogi a galluogi unigolion, teuluoedd a chymunedau i fod yn gryf ac i gael iechyd corfforol ac iechyd a lles meddyliol da yn hanfodol, fel bod pobl yn gallu elwa o fyw’n annibynnol cyhyd â phosibl a bod effeithiau anghydraddoldebau iechyd wedi’u lleihau.  

I barhau ar ein siwrnai o welliant er mwyn gwella iechyd a lles byddwn yn symud ymlaen gyda’n gwaith i integreiddio a thrawsnewid ein gwasanaethau atal a chymorth cynnar, gan weithio’n agos gyda’n partneriaid i sicrhau fod pobl yn cael y cymorth iawn cyn gynted â phosibl, gan arwain at ganlyniadau gwell, a fydd yn ei dro yn lleihau’r galw ar wasanaethau yn hwyrach ymlaen. Byddwn yn canolbwyntio ar wasanaethau drws ffrynt effeithiol a gwell gwybodaeth, cyngor a chyfeirio ar y cyswllt cyntaf. I’r rhai sydd angen gwasanaethau statudol byddwn yn ceisio gwella llwybrau at y gofal iawn.

Wrth ddarparu iechyd a lles da byddwn yn parhau i adeiladu ar lwyddiant siwrnai welliant y gwasanaethau gofal cymdeithasol i ddarparu’r lefel iawn o ofal a chymorth. lle mae holl blant ac oedolion diamddiffyn yn, ac yn teimlo’n ddiogel ac yn cael y cyfle i gyflawni i’w llawn botensial a byw bywydau hapus a boddhaus lle mae lleisiau unigolion yn ganolog i’n harferion.

O fewn y flaenoriaeth hon rydym wedi cydnabod pryderon cynyddol o amgylch cymorth iechyd meddwl. Mae iechyd meddwl da yn bwysig ar bob cam o fywyd ac yn helpu i benderfynu sut ydym yn gwneud dewisiadau bywyd yn hirdymor, yn cysylltu ag eraill ac yn ymdopi â straen. Rydym wedi ymrwymo i ganolbwyntio ar wella’r gefnogaeth ar gyfer plant ac oedolion i gael iechyd meddwl da. Byddwn yn gwneud hyn drwy gydweithio gyda’n partneriaid gwasanaeth cyhoeddus, sefydliadau cymunedol a gwasanaethau eraill y cyngor, gan ganolbwyntio ar atal yn gynnar a helpu i leihau’r achosion lle bo heriau iechyd meddwl yn datblygu i fod yn fwy cymhleth.

Trwy gydol y flaenoriaeth hon byddwn yn gweithio’n agos gyda chymunedau, budd-ddeiliaid a phartneriaid i adeiladu cymunedau cryf, iach a chadarn lle mae lles corfforol a meddyliol yn cael ei hybu a chefnogi pobl i gyflawni eu potensial.

Ein Canlyniadau Blaenoriaeth; yr hyn yr ydym eisiau gweithio tuag ato:

*yn dynodi Amcan Cydraddoldeb Strategol

  1. Mae llai o blant sydd angen gofal gan y cyngor o ganlyniad i wasanaethau ymyrraeth gynnar ac atal effeithiol, gan leihau’r angen am ymyrraeth bellach.
  2. Mae gan blant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal fynediad at ofal maeth hirdymor sefydlog, a lleoliadau preswylio â chefnogaeth ( gyda mwy o ddarpariaeth mewnol) ac yn cael profiadau da o fewn y lleoliadau hyn gan eu galluogi i ffynnu a chyflawni’r canlyniadau iawn. 
  3. Mae pobl yn derbyn y gofal a’r cymorth iawn ar gyfer eu hanghenion, yn y lle iawn ac ar yr amser iawn, trwy ofal gwell yn y cartref, ail-alluogi a chapasiti therapi galwedigaethol (gyda llai o amseroedd aros ar gyfer asesiadau Therapi Galwedigaethol), wedi’i gyflawni drwy waith partneriaeth effeithiol.
  4. *Mae cymunedau a gwasanaethau yn cydweithio i helpu plant ac oedolion i gael iechyd meddwl a lles da. Mae ffocws ar gymorth iechyd meddwl a ddarperir drwy wasanaethau iechyd meddwl atal a chymorth cynnar er mwyn lleihau’r galw am wasanaethau yn hwyrach ymlaen. 
  5. Mae gan bawb fynediad at y lefel iawn o ofal a chymorth ar gyfer eu hanghenion, drwy ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol cyson o ansawdd da, wedi’i gefnogi gan Fwrdd Gwella Gofal Cymdeithasol.
  6. *Rydym yn sicrhau bod ein gwasanaethau gofal cymdeithasol yn diwallu anghenion y rhai sy’n eu defnyddio drwy wrando ar yr hyn y mae plant, oedolion, teuluoedd a gofalwyr yn ei ddweud wrthym. 
  7. Mae plant, oedolion a theuluoedd yn cael eu diogelu gan y gwasanaeth Gofal Cymdeithasol a phartneriaid statudol.

Mae’r flaenoriaeth hon yn cyfrannu’n uniongyrchol at y Nodau Lles canlynol:

  • Cymru Iachach
  • Cymru sy’n Fwy Cyfartal
  • Cymru â Chymunedau Cydlynol