Mae’n rhaid bod â gweithlu medrus, amrywiol a chynaliadwy i ddarparu’r gwasanaethau y mae ein cymunedau eu hangen a’u heisiau. Byddwn yn ymdrechu i sicrhau bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn ‘Gyflogwr Delfrydol’ er mwyn denu, recriwtio a chadw unigolion sydd â’r sgiliau a’r profiadau a fydd yn fanteisiol i’n cymunedau.  Rydym yn sylweddoli fod hon yn dasg heriol yn y cyd-destun cenedlaethol o farchnad recriwtio hynod gystadleuol ac rydym yn anelu at barhau i ymateb gyda mentrau newydd i gefnogi recriwtio a dal gafael ar staff, er enghraifft yr ymagwedd ‘Tyfu eich Talent Eich Hun’ i fynd i’r afael ag anawsterau recriwtio, yn enwedig mewn rhai meysydd penodol fel gofal cymdeithasol.  

Mae iechyd a lles ein gweithwyr yn hanfodol o ran cynnal gweithlu cryf a hyblyg i ddarparu ein gwasanaethau.  Byddwn yn cefnogi ein gweithlu drwy sicrhau ein bod yn cynnal ein hymagwedd weithredol tuag at les gweithwyr a lles corfforaethol.  Byddwn yn sicrhau bod arferion rheoli pobl cadarn yn eu lle i gefnogi a rheoli gweithwyr sy’n profi cyfnodau o salwch ac i gynnal lefelau uchel o bresenoldeb a pharhau i leihau lefelau absenoldeb.

Byddwn yn dal ati’n weithredol i hyrwyddo a chynnal y Gymraeg a diwylliant Cymru yn ein gweithlu a’n cymunedau i ysgogi balchder yn ein Cymreictod.  Mae’n hollbwysig fod y cyngor yn parhau i sicrhau ei fod yn cadw at Safonau’r Gymraeg.

Mae’r amcan hwn yn un trawsbynciol ac yn helpu’r cyngor i ddarparu gwelliannau ar draws ei holl amcanion llesiant a’n gwasanaethau a bydd yn cyfrannu at bob un o’r saith Nod Llesiant – ond yn benodol mae’n cefnogi’n uniongyrchol y nodau o Gymru Gydnerth sy’n gyfrifol yn fyd-eang gyda diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu.  

Ein Canlyniadau Blaenoriaeth; yr hyn yr ydym eisiau gweithio tuag ato: 

*yn nodi Amcan Cydraddoldeb Strategol

  1. Mae gan y cyngor ddiwylliant rheoli pobl cryf a threfniadau i gefnogi lles gweithwyr a rheoli absenoldeb salwch yn effeithiol, gan arwain at well presenoldeb a lefelau is o absenoldeb salwch.
  2. Mae lles ein gweithwyr wedi’i gefnogi gan amrywiaeth o fentrau iechyd a lles corfforaethol
  3. *Mae’r cyngor yn ‘gyflogwr delfrydol’ sy’n gallu recriwtio a dal gafael ar weithlu amrywiol a chynaliadwy, gydag ymagwedd fodern tuag at waith a fframwaith o wobrau a buddion gweithwyr.   
  4. *Bydd unrhyw wahaniaeth mewn tâl rhwng dynion a merched yn cael ei adolygu er mwyn ei ddeall yn well. Bydd unrhyw waith priodol yn dechrau i fynd i’r afael â’r bwlch hwn ac unrhyw fylchau eraill mewn tâl lle bo hynny’n briodol.
  5. *Mae’r Gymraeg a diwylliant Cymru’n ffynnu yn ein gweithlu a’n cymunedau ac yn cael eu hyrwyddo a’u cefnogi’n weithredol.  
  6. Mae cyllid y cyngor yn cael ei reoli’n dda a chaiff adnoddau eu clustnodi i gefnogi darpariaeth gwasanaethau cynaliadwy a gwydn sy’n cefnogi darpariaeth ein gwasanaethau’n uniongyrchol.

Mae’r Flaenoriaeth hon yn cyfrannu’n uniongyrchol at y Nodau Llesiant canlynol:

  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru iachach
  • Cymru sy’n fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymru sy’n gyfrifol yn fyd-eang