Mae bod a theimlo’n ddiogel yn bwysig i drigolion ac ymwelwyr â’n Bwrdeistref Sirol a chanol y ddinas, a gall gael dylanwad dwys ar ansawdd bywyd pobl a’u gallu i ymgysylltu mewn modd cadarnhaol a boddhaus gyda’u cymuned. Mae’n bwysig ein bod yn creu amgylchedd lle mae pobl yn ddiogel ac yn teimlo’n ddiogel.

Gan weithio gyda’n partneriaid sector cyhoeddus, ein nod yw adeiladu cymuned lle mae llai o bobl yn cael eu heffeithio gan drosedd ac i ddiogelu pobl, yn arbennig y rhai sy’n ddiamddiffyn, rhag camfanteisio, trais a chamdriniaeth. Byddwn yn gweithio i sicrhau os yw trosedd yn digwydd, fod dioddefwyr yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt, a bod mwy o bobl yn ymwybodol o arwyddion camfanteisio a thrais ac yn gwybod sut i adrodd am eu pryderon os ydynt yn poeni am ddiogelwch neu les rhywun.

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cymuned deg, cyfiawn a chynhwysol a byddwn yn ymdrechu i adeiladu cymuned lle gall bawb gael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt i ffynnu a gwireddu eu potensial. Byddwn yn hyrwyddo a dathlu amrywiaeth a diwylliannau yn ein cymunedau er mwyn sicrhau eu bod yn gynhwysol, yn ymgysylltiedig ac yn groesawgar; a byddwn yn sicrhau y bydd pobl sy’n ceisio lloches yn y Fwrdeistref Sirol rhag rhyfel neu argyfwng dyngarol yn cael eu cefnogi i adeiladu dyfodol diogel a chynaliadwy.

Mae cartref diogel yn hanfodol ar gyfer lles a byddwn yn gweithio i alluogi pobl, yn arbennig y rhai mwyaf diamddiffyn, i gael mynediad at lety o ansawdd da, sy’n briodol i’w hanghenion, yn y sector tai cyhoeddus neu breifat.  Byddwn yn helpu pobl i gael mynediad at gymorth i gynnal eu tenantiaethau lle bod angen, gan leihau’r risg y bydd pobl yn profi digartrefedd a chysgu ar y stryd.

Yn 2021 roedd cyfanswm o 57,915 o aelwydydd ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. O’r rhain, roedd 53.1% yn ddifreintiedig mewn o leiaf un o’r pedwar dimensiwn difreintiedig yn ôl diffiniad Cyfrifiad 2021. Yn yr argyfwng costau byw presennol rydym yn cydnabod yr angen i fod yn ymatebol i heriau sy’n codi o amgylchiadau newidiol pobl. Byddwn yn gweithio tuag at sicrhau fod pawb, yn arbennig unrhyw un sy’n ddiamddiffyn, yn profi tlodi neu’n delio â heriau costau byw, yn cael mynediad at gymorth a gwasanaethau, gan gynnwys digidol, i alluogi gwell cadernid ariannol, gwell iechyd ac amodau byw a gwell ansawdd bywyd.

Ein Canlyniadau Blaenoriaeth; yr hyn yr ydym eisiau gweithio tuag ato:

*yn dynodi Amcan Cydraddoldeb Strategol

  1. Mae gwaith partneriaeth effeithiol yn cefnogi cymunedau i deimlo ac i fod yn fwy diogel, gyda gwell cymorth ar gyfer dioddefwyr trosedd.
  2. *Mae pobl yn cael eu diogelu rhag camfanteisio, trais a’r holl ffurfiau o gamdriniaeth, trwy weithio mewn partneriaeth i gynyddu ymwybyddiaeth o’r rhai sy’n ddioddef camfanteisio a’r llwybrau adrodd sydd ar gael.
  3. *Mae ein cymunedau yn groesawgar, rydym yn hyrwyddo ac yn dathlu amrywiaeth a diwylliannau ein cymunedau ac yn sicrhau mynediad priodol at bob gwasanaeth i bawb. 
  4. *Mae ein cwsmeriaid yn gallu cysylltu â ni’n hawdd, trwy systemau digidol sydd wedi’u hadeiladu o amgylch eu hanghenion. Mae ein gwasanaethau’n gynhwysol ac rydym yn sicrhau ein bod yn cefnogi’r cwsmeriaid hynny a hoffai ddefnyddio ein gwasanaethau digidol, yn ogystal â pharhau i gynnig ffyrdd mwy traddodiadol o gysylltu â ni ar gyfer y rhai sydd angen hynny.
  5. *Mae Wrecsam yn rhywle lle mae pawb yn gwybod y gallant gymryd rhan i ddylanwadu ar gynllunio a darparu gwasanaethau.  Mae pobl yn teimlo’r ymgysylltiad a bod y cyngor yn ymgynghori â nhw ar benderfyniadau sy'n effeithio arnynt, a ble bynnag bosib ein bod yn gweithio gyda'n gilydd i gynllunio a darparu gwasanaethau a gwneud i bethau ddigwydd gyda’n gilydd.
  6. *Mae pobl sy’n chwilio am loches rhag rhyfel neu argyfwng dyngarol yn cael eu cefnogi i adeiladu dyfodol cynaliadwy yn y Fwrdeistref Sirol.
  7. Gall ein deiliaid contract tai cyngor gael mynediad at fwy o dai o ansawdd uchel, a thai gwarchod wedi’u cefnogi gan wasanaethau ymatebol modern ac effeithlon.
  8. Mae mwy o bobl yn byw mewn llety sector preifat a chyhoeddus o ansawdd gwell, sy'n cydymffurfio â safonau a deddfwriaeth tai cenedlaethol.
  9. Bydd pobl yn cael eu cefnogi i ddod o hyd i lety addas ac i gynnal eu tenantiaethau, fel bod llai o bobl yn profi digartrefedd a llai yn cysgu ar y stryd.  
  10. Bydd gan yr holl gymunedau a phobl, yn arbennig y rhai diamddiffyn a’r rhai sy’n profi tlodi a/neu effeithiau’r argyfwng costau byw, fynediad at wasanaethau, cyngor a chymorth sy’n cefnogi lles ariannol ac iechyd da ac amodau byw, ynghyd â chyfleoedd i gymryd rhan mewn cyfleoedd hamdden, cymdeithasol a chyflogaeth, i wella eu hansawdd bywyd.      

Mae’r flaenoriaeth hon yn cyfrannu’n uniongyrchol tuag at y Nodau Lles canlynol:

  • Cymru ffyniannus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru iachach
  • Cymru sy’n fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymru sy’n gyfrifol yn fyd-eang