Cynllun Ariannol Tymor Canolig

Mae’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig yn sefydlu canllaw strategol ar gyfer ein cynlluniau gwariant dros y tair blynedd nesaf i gefnogi blaenoriaethau’r Cyngor yng nghyd-destun cyllideb flynyddol gytbwys.

Datganiad cyfrifon  

Mae’r datganiad cyfrifon yn egluro cyllid y cyngor yn ystod y flwyddyn ariannol a’n sefyllfa ariannol ar ddiwedd y flwyddyn honno. Fe allwch anfon e-bost at finance@wrexham.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r cyfrifon a chyllidebau.
 

Llyfr y gyllideb refeniw

Mae ein llyfr cyllideb yn darparu gwybodaeth fanwl a dadansoddiad o gyllidebau gwasanaethau’r cyngor, gan gynnwys manylion ynglŷn â sut a lle y byddwn yn gwario arian dros y deuddeg mis nesaf.