Rydym yn defnyddio fframwaith rheoli perfformiad i reoli ein perfformiad o fewn y cyngor. Golyga hyn ein bod yn mesur sut ydym yn cyflawni yn erbyn yr addewidion a nodir yng Nghynllun y Cyngor

Mae Cynllun y Cyngor yn ddogfen strategol lefel uchel sy’n gyrru gweithgareddau’r cyngor. Mae’r holl gynlluniau eraill yn cael eu hadeiladu ar hwn, gan gynnwys strategaethau penodol megis ein Cynllun Datgarboneiddio, Strategaeth Gwrth-dlodi a chynlluniau gwasanaeth, sy’n darparu manylion am gamau gweithredu, gweithgareddau a rhaglenni y bydd pob maes gwasanaeth yn eu cyflawni er mwyn cyfrannu tuag at gyflawni’r canlyniadau o fewn pob un o flaenoriaethau’r cyngor. 

Yn tanategu hyn oll mae cyfres o fesurau sy’n ein galluogi ni i olrhain sut ydym yn gwneud ac i ddeall effaith ein gwaith ar leoedd a phobl Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Dyma ein mesurau canlyniadau. Gallwch gael mwy o fanylion am y mesurau hyn ar dudalen Cynllun y Cyngor 2023-28: Fframwaith Rheoli Perfformiad, mesurau canlyniadau.

Byddwn yn adrodd yn flynyddol, gan ddefnyddio mesurau canlyniadau, ar y cynnydd tuag at wireddu ein datganiadau canlyniadau yn Adroddiad Perfformiad Blynyddol Cynllun y Cyngor.

Gellir dod o hyd i fwy o fanylion ar y ffordd rydym yn rheoli ein perfformiad ar ein tudalen fframwaith rheoli perfformiad.

Monitro perfformiad tuag at gyflawni ein canlyniadau cydraddoldeb

Er mwyn helpu i fonitro’r cynnydd rydym yn ei wneud tuag at ein canlyniadau cydraddoldeb, byddwn yn echdynnu’r mesurau canlyniad perthnasol i adroddiad amlygu canlyniadau cydraddoldeb o fewn ein hadroddiad Perfformiad Blynyddol Cynllun y Cyngor.