Mae’r tablau canlynol yn nodi mesurau canlyniadau ar gyfer pob un o’r chwe blaenoriaeth a osodir yng Nghynllun y Cyngor (2023-28). Gan ddefnyddio ein fframwaith rheoli perfformiad byddwn yn asesu pa mor dda rydym yn ei wneud o ran darparu ein Cynllun y Cyngor ar gyfer trigolion a chymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.

Fframwaith Rheoli Perfformiad Darparu Gwasanaethau Stryd Effeithlon a Datgarboneiddio ein Hamgylchedd
Rhif mesur canlyniadDisgrifiad mesur canlyniadBeth sy’n cael ei ystyried yn berfformiad da?
CPEn1Canran yr arolygon o feysydd chwarae a gwblhawyd yn brydlon gan gymryd y camau gweithredu priodolCynnal
CPEn2Gostyngiad yn nifer yr adroddiadau swyddogol am faw cŵn a sbwrielGwella (gostyngiad)
CPEn3Canran yr achosion o dipio anghyfreithlon y cafwyd gwybod amdanynt a gafodd eu clirio o fewn 5 niwrnod gwaithCynnal
CPEn4Canran wythnosol gyfartalog yr achosion o fethu biniau y cafwyd gwybod amdanyntCynnal
CPEn5Canran yr arolygon priffyrdd a gwblhawyd yn unol â pholisiGwella (cynnydd)
CPEn6Canran y tyllau mwyaf difrifol a atgyweiriwyd yn unol â pholisiCynnal
CPEn7Canran yr arolygon o barciau gwledig / mannau agored a gwblhawyd yn unol â pholisi gan gymryd y camau gweithredu priodolGwella (cynnydd)
CPEn8Canran y systemau draenio priffyrdd a arolygwyd yn unol â’r amserlen gytunedigGwella (cynnydd)
CPEn9Gostyngiad yn yr allyriadau carbon cyffredinol neu ar y trywydd iawn i sicrhau gostyngiad yn yr allyriadau carbon cyffredinolGwella (gostyngiad)
CPEn10Canran yr adroddiadau Bwrdd Gweithredol a’r Cyngor sy’n cynnwys asesiad o effaith carbonGwella (cynnydd)
CPEn11Nifer y Cynlluniau Lleihau Carbon Cymunedau Carbon IselGwella (cynnydd)
CPEn12Gostyngiad yn yr allyriadau carbon sy’n gysylltiedig â fflyd trafnidiaeth CBSWGwella (gostyngiad)
CPEn13Gostyngiad yn Allyriadau Fflyd Lwyd CBSWGwella (gostyngiad)
CPEn14Canran y llwybrau teithio llesol i’r dyfodol a grëwyd (Map Rhwydwaith Teithio Llesol 2022)Gwella (cynnydd)
CPEn15Gostyngiad yn y carbon sy’n gysylltiedig ag ynni drwy allyriadau adeiladau CBSW neu ar y trywydd iawn i sicrhau gostyngiad mewn allyriadau carbon sy’n gysylltiedig ag ynni (gan gynnwys tynnu carbon o brosesau cynhyrchu)Gwella (gostyngiad)
CPEn16Canran y busnesau bach, canolig a mawr yn ein cadwyn gyflenwi gyda Chynlluniau Gostwng CarbonGwella (cynnydd)
CPEn17Gostyngiad yn yr allyriadau carbon sy’n gysylltiedig â’n cadwyn gyflenwiGwella (gostyngiad)
CPEn18Gorchudd Canopi CoedGwella (cynnydd)
CPEn19Metrau sgwâr o fannau agored a reolir er budd bioamrywiaethGwella (cynnydd)
CPEn20Gostyngiad mewn allyriadau carbon sy’n gysylltiedig â gwastraff tirlenwiGwella (gostyngiad)
CPEn21Canran y gwastraff sy’n cael ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostioGwella (cynnydd)
Fframwaith Rheoli Perfformiad Datblygu’r Economi
Rhif mesur canlyniadDisgrifiad mesur canlyniadBeth sy’n cael ei ystyried yn berfformiad da?
CPEc1Buddsoddiad i gefnogi’r economi, wedi’i sicrhau gan CBSW drwy bortffolio’r Fargen DwfCynnal
CPEc2Gwerth Economaidd-Gymdeithasol (swyddi/cyllid) Canlyniadau Buddsoddi Cymwys a gefnogir gan y Gwasanaeth Cymorth i FusnesauMesur gwaith newydd
CPEc3Nifer y busnesau sy’n cael mynediad at Gefnogaeth y CyngorGwella (cynnydd)
CPEc4Cyfradd Eiddo Gwag yng Nghanol y DdinasGwella (gostyngiad)
CPEc5Nifer yr adeiladau gwag / nad ydynt yn cael eu defnyddio i’w potensial llawn a gaiff eu defnyddio eto o fewn 3 blynedd i ymyrraeth y cyngorGwella (cynnydd)
CPEc6Nifer yr unigolion (cyflogwyr / gwirfoddolwyr) sydd wedi’u hachredu gan Gynllun Llysgenhadon Wrecsam i gefnogi’r sector twristiaeth a lletygarwch ym Mwrdeistref Sirol WrecsamGwella (cynnydd)
CPEc7Nifer y canlyniadau swyddi - Cymunedau am Waith a MwyCynnal
Fframwaith Rheoli Perfformiad Sicrhau bod Wrecsam yn Lle Teg a Diogel
Rhif mesur canlyniadDisgrifiad mesur canlyniadBeth sy’n cael ei ystyried yn berfformiad da?
CPFs1Canran y plant a phobl ifanc y mae eu risg o Gaethwasiaeth Fodern wedi’i lleihauCynnydd (lle bo hynny’n ddiogel ac yn briodol)
CPFs2Nifer y digwyddiadau / gweithgareddau ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru i hyrwyddo integreiddio rhwng grwpiau a helpu i ddatblygu a chynnal perthnasoedd cymunedol daCynnal
CPFs3Canran y cwsmeriaid sy'n defnyddio gwasanaethau ar-lein ac yn teimlo ei bod yn hawdd cael mynediad at wasanaethau'r Cyngor ar ein gwefanCynnal
CPFs4Canran y ceisiadau gwasanaeth trwy hunan wasanaeth yn hytrach na thrwy deleffonio wedi’i gyfrynguGwella (cynnydd)
CPFs5Llai o amrywiad rhwng grwpiau sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig (Deddf Cydraddoldeb 2010) o’i gymharu â demograffeg y Fwrdeistref Sirol, yng ngweithgareddau cynhwysiant y CyngorGwella (lleihau’r amrywiad yn y grŵp gwarchodedig a nodwyd)
CPFs6Canran yr aelwydydd ar y Cynlluniau Cartrefi i Wcráin ac Uwch-noddwr sydd wedi derbyn cefnogaeth i symud ymlaen i lety mwy hirdymor a chynaliadwy yn Wrecsam ac mewn ardaloedd eraill yng Nghymru a LloegrCynnal (uwch na’r cyfartaledd yng Nghymru)
CPFs7Canran y bobl sydd wedi cael eu hadsefydlu dan gynllun y Polisi Adleoli a Chynorthwyo Affganiaid a’r Cynllun Adleoli Unigolion Diamddiffyn (oedolion) sy’n cael mynediad at gyflogaeth, hyfforddiant, gwaith gwirfoddol neu addysg (gan eithrio Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL)Gwella (cynnydd)
CPFs8Y cynnydd yn ein stoc dai o ganlyniad i adeiladau a chaffaeliadau newyddCynnal
CPFs9Canran y stoc tai Cyngor sy’n cydymffurfio â Safon Ansawdd Tai Cymru 2023Gwella (cynnydd)
CPFs10Nifer yr ymyriadau mewn eiddo rhent sector preifat i fynd i’r afael â pheryglon (peryglon fel y’u diffinnir yng nghanllawiau gweithredu Deddf Tai 2004)Gwella (cynnydd)
CPFs11Nifer y bobl sy’n cysgu ar y stryd yn WrecsamCynnal
CPFs12Lleihau nifer y bobl a gaiff eu troi allan o eiddo CBSW a’u gwneud yn ddigartrefGwella (gostyngiad)
CPFs13Gostyngiad yn y cyfnod y mae pobl yn ei dreulio mewn llety gwely a brecwast neu westaiCynnal
Fframwaith Rheoli Perfformiad Gwella Addysg a Dysgu
Rhif mesur canlyniadDisgrifiad mesur canlyniadBeth sy’n cael ei ystyried yn berfformiad da?
CPEl1Mesur Canlyniadau Cynnydd CA4Mesur gwaith newydd
CPEl2Canran y dysgwyr Cyfnod Allweddol Pedwar sy’n symud ymlaen i’r chweched dosbarth, coleg, prentisiaethau neu gyflogaethGwella (cynnydd)
CPEl3Presenoldeb cyffredinol mewn ysgolion uwchraddGwella (parhau i adfer yn unol â thueddiadau cenedlaethol)
CPEl4Presenoldeb cyffredinol mewn ysgolion cynraddGwella (parhau i adfer yn unol â thueddiadau cenedlaethol)
CPEl5Presenoldeb cyffredinol mewn ysgolionGwella (parhau i adfer yn unol â thueddiadau cenedlaethol)
CPEl6Gostyngiad yn nifer y disgyblion y mae eu presenoldeb yn llai na 85%Gwella (cynnydd)
CPEl7Nifer y dysgwyr ar Gynllun Cefnogaeth FugeiliolGwella (gostyngiad)
CPEl8Nifer y dysgwyr â Chynllun Cefnogaeth Fugeiliol sy’n cael profiad pontio 16 cadarnhaol (Cynllun Cefnogaeth Fugeiliol)Gwella (cynnydd)
CPEl9Canran y disgyblion (gan ddefnyddio Agweddau Disgyblion atynt eu Hunain a'r Ysgol, PASS) sy’n ymateb mewn modd cadarnhaol i ba mor hyderus a llwyddiannus maent yn teimlo am eu galluoedd fel dysgwyr.Gwella (cynnydd)
CPEl10Mesur Canlyniadau Cynnydd - Prydau Ysgol am Ddim (PYADd) CA4Mesur gwaith newydd
CPEl11Canran y dysgwyr ADY sy’n gadael Blwyddyn 11 ac yn pontio’n llwyddiannus o’r ysgol statudol i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant Gwella (cynnydd)
CPEl12Canran y dysgwyr PYADd sy’n gadael Blwyddyn 11 ac yn pontio’n llwyddiannus o’r ysgol statudol i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.Gwella (cynnydd)
CPEl13Nifer yr adeiladau ysgol sy’n addas i’r diben ac yn bodloni categori cyflwr A neu B - CynraddGwella (cynnydd)
CPEl14Nifer yr adeiladau ysgol sy’n addas i’r diben ac yn bodloni categori cyflwr A neu B - UwchraddGwella (cynnydd)
Fframwaith Rheoli Perfformiad Hybu Iechyd a Lles da (gan ganolbwyntio ar wasanaethau cymdeithasol ac iechyd meddwl da)
Rhif mesur canlyniadDisgrifiad mesur canlyniadBeth sy’n cael ei ystyried yn berfformiad da?
CPHw1Nifer y plant sy’n derbyn gofalCynnal
CPHw2Canran y Plant sy’n Derbyn Gofal - darpariaeth breswyl fewnolGwella (cynnydd)
CPHw3Canran y Plant sy’n Derbyn Gofal - lleoliadau maeth mewnolGwella (cynnydd)
CPHw4Canran y Plant sy’n Derbyn Gofal sydd wedi symud lleoliad dair gwaith neu fwyCynnal
CPHw5Nifer sy’n aros am ofal yn y cartrefGwella (gostyngiad)
CPHw6Nifer sy’n aros am asesiad Therapi Galwedigaethol statudolGwella (gostyngiad)
CPHw7Cyfanswm y pecynnau ail-alluogi a gwblhawyd er mwyn lleihau, lliniaru neu gynnal yr angen am gefnogaethGwella (cynnydd)
CPHw8Sgôr gymedrig lles meddyliol ar gyfer pobl ifanc mewn ysgolion uwchradd yn WrecsamGwella (cynnydd)
CPHw9Lles emosiynol gwell i blant a phobl ifanc sy’n derbyn gwasanaeth cwnselaGwella (gostyngiad)
CPHw10Canran y plant a welwyd ar eu pen eu hunain fel rhan o’u hasesiadGwella (cynnydd)
CPHw11Canran y plant sy’n defnyddio’r Ap Mind of my OwnGwella (cynnydd)
CPHw12Nifer y plant sy’n cael eu rhoi ar y gofrestr amddiffyn plant oedd wedi cael eu cofrestru’n flaenorol yn ystod y 12 mis diwethafCynnal (lle bo hynny’n ddiogel ac yn briodol)
CPHw13Nifer yr atgyfeiriadau oedolion mewn perygl (diogelu oedolion) a gwblhawyd o fewn yr amserlen statudol (7 diwrnod)Cynnal
Fframwaith Rheoli Perfformiad Cynnal Gweithlu Tra Medrus a Brwdfrydig sy’n Canolbwyntio ar Ddarparu Gwasanaethau
Rhif mesur canlyniadDisgrifiad mesur canlyniadBeth sy’n cael ei ystyried yn berfformiad da?
CPWf1Canran y gweithlu sy’n cytuno â’r datganiad ‘rwy’n cael cyfleoedd i ddatblygu a gwella i’m potensial llawn’Gwella (cynnydd)
CPWf2Canran y gweithwyr sy’n nodi eu bod yn cael eu cefnogi gan fentrau iechyd corfforaethol (arolwg gweithwyr)Mesur gwaith newydd
CPWf3O’r gweithlu sy’n gadael cyflogaeth â’r Cyngor yn ystod y flwyddyn; y canran o’r rhain a adawodd yn wirfoddolGwella/Cynnal (sefydlog)
CPWf4*Bwlch cyflog rhwng y rhywiau; y gwahaniaeth rhwng enillion fesul awr dynion a merched fel canran o enillion dynionGwella (gostyngiad)
CPWf5Canran y bobl sy’n fodlon â’r ddarpariaeth GymraegGwella (cynnydd)