Beth a olygwn gyda Fframwaith Rheoli Perfformiad?

Ein Fframwaith Rheoli Perfformiad yw’r strwythur a ddefnyddiwn i asesu pa mor dda rydym yn ei wneud o ran darparu gwasanaethau ar gyfer trigolion a chymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.

Mae Fframwaith Rheoli Perfformiad yn seiliedig o amgylch cylchred parhaus o Gynllunio, Gwneud, Adolygu, gan gynnwys hunanasesu ein sefyllfa a’r hyn rydym eisiau ei ddarparu (ein deilliannau), cyflawni ein cynlluniau ac adolygu’r cynnydd rydym wedi’i wneud.

Mae’r Fframwaith Rheoli Perfformiad yn canolbwyntio ar sicrhau ein bod yn darparu ein deilliannau a’n blaenoriaethau corfforaethol a phartneriaeth. Mae’r deilliannau a’r blaenoriaethau hyn wedi’u nodi yng Nghynllun y Cyngor a Chynllun Lles Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

Tri cham ein Fframwaith Rheoli Perfformiad

Mae’r camau hyn yn rhan o gylchred parhaus.

Cam 1: Cynllunio

Datblygu a lansio Cynllun y Cyngor, cynlluniau gwasanaeth a chynlluniau’r gweithlu.

Cam 2: Gwneud

Darparu Cynllun y Cyngor a’r cynllun gwasanaeth.

Cam 3: Adolygu 

Proses rheoli perfformiad.

Sut mae’r cynllunio yn cysylltu â’i gilydd?

Ar bob lefel yn y cyngor mae gennym gynlluniau sy’n cael eu dilyn er mwyn ein helpu ni i gyflawni ein blaenoriaethau corfforaethol a phartneriaeth:

  1. Lefel Corfforaethol: Cynllun y Cyngor
  2. Lefel gwasanaeth: cynlluniau gwasanaeth
  3. Lefel tîm: cynlluniau tîm
  4. Lefel unigol: cofnodion datblygiad proffesiynol

Mae pob lefel yn cael ei lywio gan yr un o’i flaen ac yn ei dro yn bwydo yn ôl i’r ffordd y caiff cynlluniau eu datblygu ar bob lefel yn y dyfodol. Mae hyn yn ein helpu ni i gyflawni ein gweledigaeth fel Cyngor, sy’n gysylltiedig â Nodau Lles Cymru.

Pam ein bod ni’n rheoli perfformiad?

Mae rheoli perfformiad yn creu system lle gallwn fonitro a gwerthuso:

  • y gwaith rydym yn ei wneud
  • adborth boddhad cwsmeriaid 
  • y cynnydd a wneir tuag at ein deilliannau

Trwy fonitro ein perfformiad mae hyn yn cefnogi ein siwrnai gwelliannau er mwyn cyflawni’r deilliannau y mae pobl Bwrdeistref Sirol Wrecsam eu heisiau.

Mae rheoli perfformiad yn rhan o ddarparu blaenoriaethau’r Cyngor ar bob lefel.
Trwy gael proses monitro gadarn mewn lle, mae hyn yn darparu arwydd cynnar o unrhyw broblemau. Yna gallwn addasu gweithgareddau a symud adnoddau lle bod angen, er mwyn darparu ein deilliannau. 

Pwy sy’n gyfrifol am berfformiad?

Mae pawb sydd yn y Cyngor yn gyfrifol am reoli perfformiad a sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau da i’n cwsmeriaid. 

Mae enghreifftiau o strwythurau rheoli perfformiad sy’n cefnogi a herio ein perfformiad o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cynnwys:

  • Y Bwrdd Gweithredol
  • Pwyllgorau Craffu
  • Byrddau Blaenoriaethu Cynllun y Cyngor, mae’r rhain yn gyfrifol am sicrhau ein bod yn darparu ar ein blaenoriaethau Cyngor
  • Byrddau gwella eraill sydd wedi’u sefydlu i fynd i’r afael â meysydd yr ydym wedi canfod sydd angen gwella

Adrodd ar berfformiad yn erbyn blaenoriaethau Cynllun y Cyngor

Rydym yn monitro perfformiad ar lefel corfforaethol a gwasanaeth. 

Ar lefel gwasanaeth, mae gwasanaethau yn rheoli eu perfformiad eu hunain er mwyn cefnogi blaenoriaethau’r Cyngor.

Ar lefel corfforaethol, mae perfformiad yn erbyn blaenoriaethau Cynllun y Cyngor yn cael ei fonitro bob chwarter gan ein Byrddau Blaenoriaeth. Yna caiff ei adrodd i’r Bwrdd Gweithredol a Chraffu yn chwarter 2 a 4. 

Rydym yn cyhoeddi adroddiad yn dangos y cynnydd rydym yn ei wneud gyda blaenoriaethau Cynllun y Cyngor bob blwyddyn. Gallwch weld yr adroddiad diweddaraf sydd ar gael isod. 

Mae’r Adroddiad Perfformiad Blynyddol canlynol yn ymwneud â Chynllun y Cyngor 2020-23. 

Bydd ein Hadroddiad Perfformiad Blynyddol cyntaf ar gyfer Cynllun y Cyngor newydd 2023-28 yn cael ei gyhoeddi yn ystod haf 2024.