Mae cydraddoldeb yn golygu sicrhau fod bywyd yn deg i bawb. Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb (dolen gyswllt allanol) yn gyfraith i sicrhau fod gan bawb yr un mynediad at gyfleoedd. Rhaid i bob corff cyhoeddus ystyried effaith eu penderfyniadau ar bobl o grwpiau gwahanol, a sicrhau eu bod yn cael eu trin yn deg ac yn gyfartal. Mae’r grwpiau hyn yn bobl sydd â ‘nodweddion gwarchodedig’ fel y’u nodir yn y Ddyletswydd Cydraddoldeb.
Er mwyn sicrhau ein bod yn gweithio tuag at Fwrdeistref Sirol fwy teg, ac o ystyried ein dyletswyddau i sicrhau fod pawb yn cael eu trin yn deg rydym wedi pennu 11 o ganlyniadau cydraddoldeb yr ydym eisiau gweithio tuag atynt dros y pum mlynedd nesaf. Mae’r rhain wedi’u sefydlu o fewn ein canlyniadau Cynllun y Cyngor.
Gallwch ddarganfod mwy am y ffordd y penderfynom ar ein canlyniadau cydraddoldeb ar y dudalen ‘Sut ddatblygom ni ein cynllun’.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael am ein dyletswydd ac elfen Cynllun Cydraddoldeb Strategol ein Cynllun Cyngor ar ein tudalen Cynllun Cydraddoldeb Strategol.
Y canlyniadau cydraddoldeb a nodom yw:
- Mae’r cyngor yn ‘gyflogwr delfrydol’ sy’n gallu recriwtio a chadw gweithlu amrywiol a chynaliadwy, gydag ymagwedd fodern tuag at waith a fframwaith o wobrau a buddion gweithwyr.
- Bydd unrhyw fylchau a ddynodir rhwng cyflogau dynion a merched yn cael eu hadolygu a’u deall yn well, Bydd gwaith priodol yn dechrau i fynd i’r afael â’r bwlch hwn a bylchau eraill lle bo hynny’n berthnasol.
- Mae ein cwsmeriaid yn gallu cysylltu â ni’n hawdd, trwy systemau digidol sydd wedi’u hadeiladu o amgylch eu hanghenion. Mae ein gwasanaethau yn gynhwysol ac rydym yn sicrhau ein bod yn cefnogi’r cwsmeriaid hynny a hoffai ddefnyddio ein gwasanaethau digidol, yn ogystal â pharhau i gynnig ffyrdd mwy traddodiadol o gysylltu â ni, ar gyfer y rhai sydd angen hynny.
- Mae’r Gymraeg a diwylliant Cymru yn ffynnu o fewn ein gweithlu a’n cymunedau ac yn cael eu hyrwyddo a’u cefnogi.
- Mae Wrecsam yn rhywle lle y mae pawb yn gwybod y gallant gymryd rhan i ddylanwadu ar gynllunio a darparu gwasanaethau. Bydd pobl yn teimlo’r ymgysylltiad ac yn gwybod bod y cyngor eisiau ymgynghori â nhw ar benderfyniadau sy'n effeithio arnynt, a lle bynnag bosib ein bod yn gweithio gyda'n gilydd i gynllunio a darparu gwasanaethau a gwneud i bethau ddigwydd gyda’n gilydd.
- Mae pobl yn cael eu diogelu rhag cam-fanteisio, trais a’r holl ffurfiau o gamdriniaeth, trwy weithio mewn partneriaeth i gynyddu ymwybyddiaeth o ddioddefwyr cam-fanteisio a’r llwybrau adrodd sydd ar gael.
- Mae ein cymunedau yn groesawgar, rydym yn hyrwyddo ac yn dathlu amrywiaeth a diwylliannau ein cymunedau ac yn sicrhau mynediad priodol i bawb ar yr holl wasanaethau.
- Mae pobl sy’n chwilio am loches rhag rhyfel neu argyfwng dyngarol yn cael eu cefnogi i adeiladu dyfodol cynaliadwy yn y Fwrdeistref Sirol.
- Caiff pob dysgwr eu cefnogi i wella eu canlyniadau addysgol, a bydd anghydraddoldebau mewn canlyniadau rhwng gwahanol grwpiau o ddysgwyr yn cael eu lleihau.
- Mae ein dysgwyr yn cael profiad dysgu cadarnhaol trwy fynediad at amgylchedd sy’n hygyrch ac yn addas i’r diben ac yn caniatáu dewis rhwng addysg cyfrwng Cymraeg neu Saesneg.
- Mae cymunedau a gwasanaethau’n cydweithio i helpu plant ac oedolion i fod ag iechyd meddwl a lles da. Mae ffocws ar gymorth iechyd meddwl a ddarperir drwy wasanaethau iechyd meddwl ataliol a chymorth cynnar er mwyn lleihau’r galw am wasanaethau yn hwyrach ymlaen.
- Rydym yn sicrhau bod ein gwasanaethau gofal cymdeithasol yn diwallu anghenion y rhai sy’n eu defnyddio drwy wrando ar yr hyn y mae plant, oedolion, teuluoedd a gofalwyr yn ei ddweud wrthym.
Er mwyn sicrhau bod y rhain yn parhau i fod y meysydd cywir i ganolbwyntio arnynt, byddwn yn defnyddio gwybodaeth gydraddoldeb berthnasol i adolygu ein canlyniadau a llywio penderfyniadau ar draws y cyngor.
Ewch i'n tudalen Cydraddoldeb, Hawliau Dynol a Chydlyniant Cymunedol am ragor o wybodaeth am:
- ein Hasesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb
- sut gwnaethom ddatblygu ein canlyniadau cydraddoldeb
- data cydraddoldeb (gan gynnwys data cydraddoldeb y gweithlu ac unrhyw wahaniaethau cyflog posibl)
Ar y cyd â hyn mae’r dudalen ‘Dyma Wrecsam’, yn darparu data allweddol yr ydym yn ei ddefnyddio i lywio penderfyniadau perthnasol i boblogaeth a nodweddion gwarchodedig Bwrdeistref Sirol Wrecsam.