Daearyddiaeth

Mae gan Fwrdeistref Sirol Wrecsam ardal ddaearyddol o 193 milltir sgwâr (499 km sgwâr).  Mae’r ardal yn cynnwys amrywiaeth o asedau diwylliannol. 

  • Mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn disgyn o fewn rhannau o’r Fwrdeistref Sirol.  
  • Mae Wrecsam yn gartref i un o glybiau pêl-droed hynaf Cymru a’r Stadiwm bêl-droed rhyngwladol hynaf sy’n dal i gael ei ddefnyddio.
  • Mae gŵyl gerddoriaeth ryngwladol ‘FOCUS Wales’ yn cael ei chynnal yn flynyddol yn Wrecsam.
  • Mae dau eiddo Ymddiriedolaeth Genedlaethol (Erddig a Chastell y Waun) wedi’u lleoli o fewn y Fwrdeistref Sirol.

Poblogaeth

Yn ôl Cyfrifiad 2021 amcangyfrifwyd fod poblogaeth Bwrdeistref Sirol Wrecsam oddeutu 135,100.

  • Mae cyfanswm o tua 57,900 o aelwydydd ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. 
  • Oedran cyfartalog pobl sy’n byw yma yw 42 oed, ac mae dros chwarter ohonom yn y grŵp 45 a 64 oed.  
  • Yn Wrecsam mae’r ganran uchaf o bobl 0-19 oed yng Ngogledd Cymru.  
  • Mae 20% o boblogaeth Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn 65 oed a hŷn, sydd ychydig yn is na chyfartaledd Cymru (21.4%). 
  • Mae canran y boblogaeth ar y cyfan sy’n dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn 12.2%. 

Addysg a chyflogaeth

  • Mae 67 o ysgolion ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam - 58 o ysgolion cynradd a 9 ysgol uwchradd.
  • Mae 29% o boblogaeth Bwrdeistref Sirol Wrecsam sy’n 16 oed a hŷn wedi’u cymhwyso i NVQ Lefel 4 neu uwch.
  • Mae oddeutu 60,000 (54.5% o’r boblogaeth 16 oed a hŷn) mewn gwaith.  O’r rhain, mae 72% wedi’u cyflogi yn llawn amser a 28% wedi’u cyflogi’n rhan amser.
  • Gweithgynhyrchu, masnach fanwerthu (gan gynnwys atgyweirio cerbydau) ac iechyd dynol a gwaith cymdeithasol yw’r sectorau sy’n cyflogi’r rhan fwyaf o bobl ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.   
  • Mae 70% ohonom yn teithio i’r gwaith fel gyrrwr neu deithiwr mewn car neu fan, tra bo 18% ohonom yn gweithio yn bennaf o’r cartref. 

Iechyd a gofal cymdeithasol

Mae 79% o boblogaeth Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn adrodd bod eu hiechyd yn dda iawn neu’n dda, tra bo 20% ohonom yn ystyried ein gweithgareddau dydd i ddydd i fod yn gyfyngedig i ryw raddau yn sgil problem iechyd hirdymor neu anabledd.

Mae 10% o drigolion ein Bwrdeistref Sirol sy’n 5 oed neu’n hŷn ar hyn o bryd yn darparu gofal di-dâl i eraill. 

Amddifadedd economaidd-gymdeithasol

Mae rhai o’n hardaloedd trefol ymysg y mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae yna 6 o Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam sydd yn y 10% mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

Tueddiadau i’r dyfodol 

Mae ymchwil presennol, sy’n seiliedig ar amcangyfrifon o’r boblogaeth yn 2028, yn dweud wrthym ni, yn y pum mlynedd nesaf:

  • Disgwylir i boblogaeth Bwrdeistref Sirol Wrecsam ostwng o tua 1%.
  • Disgwylir i Fwrdeistref Sirol Wrecsam brofi’r gostyngiad mwyaf ar draws Cymru o ran niferoedd plant a phobl ifanc 15 oed ac iau - gostyngiad o 6.5%.  
  • Rhagwelir cynnydd yng nghanran ein poblogaeth sy’n 65 oed a hŷn o tua 6.7%. 
  • Disgwylir i nifer y bobl 65 oed a hŷn sy’n cael anawsterau â gweithgareddau bywyd dydd i ddydd barhau i gynyddu dros yr 20 mlynedd nesaf.