Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb a dileu gwahaniaethu.

Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn nodi’r amcanion o ran cydraddoldeb ar gyfer cyfnod 2020-2024 a’r camau y byddwn yn eu cymryd i’w cyflawni. 

Gwybodaeth hygyrch a chefnogaeth gyfathrebu

Mae gwybodaeth a gaiff ei chynhyrchu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gael yn Gymraeg a Saesneg ac mewn amrywiaeth o fformatau hygyrch ar gais, gan gynnwys:

  • Sain 
  • Braille 
  • Iaith Arwyddion Prydain 
  • Dogfennau hawdd i’w darllen a dogfennau darluniadol 
  • Dogfennau print bras (Arial 18+) 
  • Ieithoedd ar wahân i’r Gymraeg a’r Saesneg

Cysylltu â ni os hoffech gael ein gwybodaeth mewn un o'r fformatau uchod.

Gall ein cwsmeriaid ddewis cynnal eu busnes gyda ni drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg.

Ar gyfer cwsmeriaid sydd angen cyfathrebu â ni mewn ieithoedd eraill, gallwn drefnu cyfieithydd dros y ffôn.

Hefyd, gallwn gynnig ystod o gymorth cyfathrebu wyneb yn wyneb megis cyfieithwyr Iaith Arwyddion Prydain.

Monitro cydraddoldeb cyflogaeth

Mae amrywiaeth yn bwysig ac rydym am gynnal gweithlu sydd ag ystod eang o sgiliau, cymwysterau a phrofiadau. Rydym yn casglu a dadansoddi gwybodaeth am ein gweithlu ac ymgeiswyr am swyddi er mwyn helpu i sicrhau bod ein holl bolisïau ac arferion cyflogaeth yn trin ein gweithwyr yn deg, yn hyrwyddo canlyniadau cyfartal, yn dileu gwahaniaethu ac yn meithrin perthynas dda â’r gweithwyr.

Asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb – ydym ni’n bod yn deg?

Nod asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb yw sicrhau bod materion cydraddoldeb wedi eu hystyried yn llwyr drwy gydol proses gwneud penderfyniadau yn y gwaith rydym yn ei wneud.

Mae asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb yn canolbwyntio ar nodi’r gwahanol ffyrdd y gallai gwahanol bobl gael eu heffeithio gan gynnig. Yn ogystal â chwilio am ffyrdd o leihau effaith negyddol, mae’r asesiad yn darparu cwmpas i chwilio am gyfleoedd i greu effaith fwy cadarnhaol.

I gael rhagor o wybodaeth am ein dull o ran asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb, anfonwch e-bost at contact-us@wrexham.gov.uk.

Mae asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb i’w gweld gyda phapurau pwyllgorau. 

Codi materion cydraddoldeb

Rydym yn ceisio cyflawni ein swyddogaethau hyd gorau ein gallu, gan roi ystyriaeth i wahanol anghenion ein cymuned amrywiol. Pe na baem yn bodloni eich disgwyliadau fel darparwr gwasanaeth neu ddarpar gyflogwr, mae gennym weithdrefn gwynion a chanmoliaethau gorfforaethol. Mae manylion am y weithdrefn hon i’w gweld ar ein tudalen gwynion gyffredinol.

Hawliau Dynol

Mae gan awdurdodau cyhoeddus ddyletswydd dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 i beidio â gweithredu’n anghydnaws â’r hawliau dan y Confensiwn Ewropeaidd ar Ddiogelu Hawliau a Rhyddid Sylfaenol.

Pwrpas y Ddeddf Hawliau Dynol yw cefnogi diwylliant o barch ar gyfer hawliau dynol pawb a’i wneud yn rhan o fywyd bob dydd. Mae hawliau’r confensiwn yn cynnwys:

  • Hawl i fywyd 
  • Gwahardd artaith 
  • Gwahardd caethwasiaeth a llafur dan orfod 
  • Hawl i ryddid a diogelwch 
  • Hawl i brawf teg 
  • Hawl i barch o ran bywyd preifat a theuluol 
  • Rhyddid meddwl 
  • Rhyddid mynegiant 
  • Rhyddid cynulliad a chymdeithas 
  • Hawl i briodi 
  • Hawl i ddatrysiad effeithiol 
  • Gwaharddiad ar wahaniaethu 
  • Cyfyngiad ar weithgarwch gwleidyddol estroniaid 
  • Diogelwch eiddo 
  • Hawl i addysg 
  • Hawl i etholiadau rhydd 
  • Diddymu’r gosb eithaf

Cydlyniant cymunedol

Mae cydlyniant cymunedol yn disgrifio gallu ein cymunedau lleol i fod yn gynhwysol a chefnogol tuag at bobl o bob diwylliant, ethnigrwydd, hunaniaeth a chred. Mae cymuned gydlynys yn gymuned lle mae pobl yn gyrru mlaen yn dda â’i gilydd.

Mae meithrin cydlyniant mewn cymunedau a rhwng cymunedau yn gam hanfodol tuag at wella ansawdd bywyd pobl. Mae Cynhwysiad Cymdeithasol yn creu unigolion hapus, hyderus, a’u grymuso i gyfrannu at economi egnïol, ffyniannus.

Yng Nghyngor Wrecsam, rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cydlyniant cymunedol ar draws y Fwrdeistref Sirol. Mae Tîm Cydlyniant Rhanbarthol Gogledd Ddwyrain Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu cydlyniant cymunedol ar draws Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych. I gael rhagor o wybodaeth am sut maen nhw’n gwneud hyn ac i gymryd rhan, gallwch gysylltu â’r Tîm Cydlyniant Cymunedol Rhanbarthol ar onewrexham@wrexham.gov.uk.

Tudalennau cysylltiedig