Data cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol allweddol am Fwrdeistref Sirol Wrecsam a’i 49 o adrannau etholiadol/wardiau.
Trosolwg o Fwrdeistref Sirol Wrecsam
Mae oddeutu 136,000 o bobl yn byw ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae hyn yn cynnwys tref Wrecsam, rhai ardaloedd gwledig a chymunedau llai eraill. Yn rhai o’r ardaloedd hyn, mae’r Gymraeg a’r diwylliant Cymraeg yn bwysig iawn i bobl.
Mae dros chwarter ohonom yn y grŵp oedran 45 i 64, ac mae’r data diweddaraf yn nodi bod ychydig mwy o ferched na dynion yn gyffredinol.
Mae gan ein bwrdeistref sirol 70 ysgol ac mae dros draean o’r gyflogaeth yn ein sir yn y sector cyhoeddus (er enghraifft i lywodraeth leol, ysgolion, ysbytai neu feddygfeydd). Mae gweithgynhyrchu hefyd yn bwysig, mae 20% o swyddi yn ein sir yn y categori hwn ac Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam yw un o’r rhai mwyaf yn Ewrop.
StatsCymru yw catalog ar-lein Llywodraeth Cymru o ddata ystadegol manwl i Gymru. Mae’r data poblogaeth diweddaraf i ardal awdurdod lleol Wrecsam yn cael ei ddarparu drwy amcangyfrifon poblogaeth StatsCymru (dolen gyswllt allanol).
Data’r Cyfrifiad
Gellir canfod canlyniadau cychwynnol Cyfrifiad 2021 drwy Swyddfa’r Ystadegau Gwladol: Cyfrifiad (dolen gyswllt allanol).
Gallwch hefyd ddod o hyd i ystod lawn o ddata o ystadegau allweddol Cyfrifiad 2011 ar gyfer Wrecsam ar wefan Nomis (gwasanaeth gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol).